Preseli - Waldo Williams Flashcards
“Mur fy mebyd”
Cyflythrennu - Atgyfnerthu’r cysylltiad ynddynt. Hefyd yn drosiad cyfleir darlun o mynyddoedd fel amddifynfa
“Foel Drigarn, Carn Gyfrwy, Tal Mynydd”
Rhestru - Lleoli’r gerdd ac yn dangos adnabyddiaeth o’r ardal
“harn”
Gair tafodiaethol - Cyfeirio at y W.A a’u tanciau
“fy mhobl”
Rhagenw person cyntaf - Cymryd perchnogaeth drostynt. Dyma’r pobl sy’n ei ddeall ac yn ei dderbyn. Teimlad o berthyn
“hil y gwynt a’r niwl a’r gelates a’r grug”
Trosiad - Cyfleu bod y pobl yn rhai caled a phenderfynol
“ac yn estyn yr haul i’r plant, o’u plyg”
Trosiad - Dangos eu bod nhw’n gallu cyflawni’r amhosib
“Ac ar glosydd, ar aelwydydd fy mhobl…”
Rhestru - Bardd yn pwysleisio ei fod o’n gweld bywyd y trigolion yn ei gyfanrwydd
“Cof ac arwydd, medel ar lethr eu cymydog”
Rhestru - Pawb yn dod a eu gilydd i gydweithio
“chwarddiad cawraidd”
Cyflythrennu - Dangos gyda’u gilydd, gall pobl cyrraedd pethau mawr
“Fy Nghymru, a bro brawdoliaeth, fy nghri, fy nghrefydd”
Rhestru - Cyfleu bod Cymru yn fwy na gwlad i’r bardd. Mae’n gymdeithas
“fy nghri, fy nghrefydd”
Rhagenw - Dangos cysylltiad angerddol a deimla y bardd tuag atynt
“perl yr anfeidrol awr yn wystl gan amser”
Trosiad - Pwysleisio bod yr ardal wedi rhewi mewn amser. ‘Perl’ yn cyfleu mor werthfawr yw’r ffordd o fyw yma
“fy mhalas draw”
Trosiad - Cyfeirio at y cymdogaeth.
“draw”
Adferf - Dangos nad yw’r bardd ym Mhreseli. W.W yn Lloegr ar y pryd yn ysgrifennu’r gerdd
“mae rhu, mae rhaib”
Cyferbyniad grymus - Dangos bod y bardd yn pryderu am y sefyllfa