Moelni - T.H. Parry-Williams Flashcards
“Nid oedd”
Negydd - Bardd yn gosod stamp ar weddill y gerdd
“llymder anial byd di-goed”
Pentyrru geiriau - Cysylltu gyda’r themau dibwrpasrwydd. Cyfleu trymder
“Eryri”
Lleoli’r gerdd
“draw”
Adferf - Pwysleisio nad yw’r bardd yn Rhyd-Ddu bellach
“Fel petai’r cewri wedi bod erioed”
Cymhariaeth - Pwysleisio hynafiaeth y mynyddoedd
Personoli’r cewri i fod yn gerflunwyr y mynyddoedd
“lyfnau’r llechweddau”
Cyflythrennu - Cyflythreniad y gysain ‘ll’ yn cyfleu yr amodau byw anodd yn yr ardal
“ar bob llaw”
Ymadrodd - Cadarnhau’r syniad o ‘o gylch fy ngeni draw’
“A thros fy magu”
Cyflwyno’r syniad bod y mynyddoedd yn edrych i lawr ar fagwraeth y bardd
“syn”
Ansoddair - Plentyn yn rhyfeddu at y mynyddoedd
“yn ein cartref uchel ni”
Ansoddair - Cyfle i osod y gerdd yn fry yn y mynyddoedd
“henffurf”
Gair cyfansawdd - Adleisio’r syniad o hynafiant
“Nes mynd o’u moelni i mewn i’m hanfod i”
Trosiad - Trosi’r mynyddoedd i fod yn ran annatod ohono
“mrig yr hwyr”
Elfen mytholegol - Cyfleu hud a lledrith
“Ni welir”
Negydd - Clymu dechrau a diwedd y gerdd
“chynllun chwaith…moelni maith”
Cyflythrennu - Rhoi terfynoldeb pendant i lith y bardd. Cyferbynnu gyda’r teimlad o ansicrwydd. Ydi’r bardd yn dod i ddiwedd hefyd