Aneirin - Iwan Llwyd Flashcards
“Gyda’th gamera a’th helmed”
Rhestru - Rhestru yn nhrefn eu pwysigrwydd. Dangos bod y swydd yn bwysicach. Cyfleu dewder y newyddiadurwr
“Gyda’th…a’th”
Cyfeiriadaeth at yr 2il berson - Cyfleu agosatrwydd
“disgynaist”
Berf - Cyfleu symudiadau
“prin filltir”
Cymal adferfol - Mynd cyn agosed ag y gall i’r frwydr. Dangos ei ddewder
“a’r ergydion yn ffrwydro’n yfflon o’th gwmpas”
Odl fewnol - Cyfleu realiti rhyfel a’i erchylltra. “ergydion” yn rhyw fath o elfen onomatopeig
“sgerbydau llosg y tanciau”
Trosiad - Cynnwys anghynnes. Cyfleu nad yw’r tanciau hyd yn oed yn gallu goroesi gan bod nhw wedi llosgi gymaint
“gwag…briwiedig”
Ansoddeiriau dinistrol - Rhoi darlun erchyll o’r rhyfel. Darlun erchyll o gyrff y bechgyn
“a’r cig amrwd a fwydai frain”
Cyfeiriadaeth at waith Aneirin - Awdl i Owain fab Marro : Cynt i fwyd brain nog i argyfain (gwell bod yn fwyd i frain na chael angladd ffurfiol)
“frain”
Symboliaeth - Symbol o farwolaeth y milwyr
“baglaist a syrthiaist”
Berfau - Cyfleu pa mor benderfynol oedd Michael Herr yn ei waith
“dyn yn lladd mewn lliw”
Cyflythrennu - Creu swn annifyr. Pwysleisio’r swydd erchyll
“dyn yn lladd mewn lliw…mewn du a gwyn”
Gwrthgyferbyniad - Dangos sut mae pethau wedi newid. Sut mae technoleg wedi newid. Dim yn sensro gwybodaeth bellach
“yng Nghatraeth a Kampuchea, y Somme a’r Chwe Sir”
Rhestru - Wrth enwi’r rhyfeloedd gwahanol, mae’n dangos bod bob rhyfel yr un peth
“megaist gyfaredd a chyfarwyddwyd”
Berf - Cyfleu statws arallfydd y newyddiadurwr
“heidiai’r hogia”
Berf + cyflythrennu - Dangos pa mor awyddus yw’r milwyr i rannu eu straeon