UG 1.3 Flashcards
beth yw enw’r model sy’n cynrichioli strwythur cellbilen?
Model Mosaic Hylifol
ceisia enwi pob rhan o’r cellbilen hylifol
-Ffosffolipid (sy’n cynnwys pen hydroffilig a chynffon hydroffobig)
-Glycolipid
-Glycoprotein
-Protein Cynhenid
-Protein Anghynhenid
-Colesterol
o beth mae cellbilenni wedi cael eu creu allan ohono?
-Ffosffolipidau
(dwy haen ffosffolipid)
pam elwir y bilen yn ‘Model Mosaic Hylifol’?
Hylifol-ffosffolipidau unigol yn gallu symud o fewn haen yn gymharol i’w gilydd
Mosaig-siap a maint y proteinau sydd wedi e’u mewnblannu yn y haen ddeuol yn amrywio
ble mae’r colesterol, a beth yw ei swyddogaeth?
ble-rhwng y ffosffolipidau
-celloedd anifail
swyddogaeth-gwneud y bilen yn fwy anhyblyg a sefydlog
beth yw swyddogaeth y dwyhaen ffosffolipid?
rho 2 enghraifft o molecylau
-ffurfio sylfaen y gellbilen
-caniatau cludiant moleciwlau bach amholar mewn ac allan o’r gell drwy gyfrwng trylediad syml
e.e.Ocsigen a Carbon Deuocsid
beth-3 pwynt / swyddogaeth-1 pwynt+e.e.
disgrifia beth yw Proteinau Anghynhenid ac eu swyddogaeth
rho enghreifftiau
beth-proteinau sydd ddim yn pontio’r bilen
-wedi cael eu cysylltu gyda pennau hydroffilig y ffosffolipidau
-uwchben neu o dan y bilen
swyddogaeth-maent yn safleoedd derbyn sy’n rhwymo gyda proteinau fel hormonau neu niwrodrosglwyddyddion
beth-3 pwynt / swyddogaeth-1 pwynt
disgrifia beth yw Proteinau Cynhenid ac eu swyddogaeth
beth-proteinau sy’n pontio’r bilen
-rhannau polar+amholar
-cyflawni trylediad cynorthwyedig
swyddogaeth-cludiant
disgrifia beth yw Glycoproteinau ac eu swyddogaeth
beth-proteinau wedi cyfuno gyda polysacarid
-yn rhan o’r pilen
swyddogaeth-
disgrifia beth yw Glycolipidau ac eu swyddogaeth
beth-lipidau wedi cyfuno gyda polysacarid
-yn haen allanol y bilen
-ymwneud a gallu celloedd i adnabod ei gilydd
beth yw Glycocalycs?
ac ei swyddogaethau?
-gellir addasu wynebau allgellol i ffurfio glycocalycs
-mae gan rai moleciwlau yn y glycocalycs swyddogaethau fel derbynyddion hormonau ym mhrosesau adnabod cell-i-gell ac adlyniad cell-i-gell
dychmyga 1 ffosffolipid………
-disgrifia’r rhannau gwahanol
-ar y top, y Pen Ffosffad(hydroffilig)
-glyserol a bondiau ester yn cysylltu y pen ffosffad gyda…
-gwaelod, y Cynffonau Hydrobig
beth yw’r Pen Hydroffilig?
-Ffosffad
+hydroffilig=ddim yn gwrthyrru dwr
-Polar, oherwydd gyda gwefr (PO42-)
beth yw’r Cynffon Hydroffobig?
-Asidau Brasterog
-hydroffobig=gwrthyrru dwr
-Amholar, oherwydd heb wefr
-Cynnwys bondiau sengl sef y rhannau syth, a bondiau dwbl sy’n achosi troi/klink.
beth yw’r 2 math o Drylediad?
-Syml
-Cynorthwyedig
beth sy’n gallu tryledu drwy y bilen blasmaidd a pam?
beth-moleciwlau bach fel Ocsigen a Carbon Deuocsid
pam-maent yn folecylau bach
pam bod Fitamin A yn medru tryledu’n syml drwy’r bilen blasmaidd?
-hydawdd mewn lipid/ffosffolipid
beth sydd yn gorfod trydledu drwy’r proteinau cynhenid er mwyn croesi’r bilen blasmaidd a pam?
beth-glwcos,moleciwlau polar, ac ionau
pam-maent yn sylweddau sy’n hdawdd mewn dwr ond ddim yn gallu tryledu yn hawdd drwy’r ffosffolipidau
beth yw hafaliad cyfradd trylediad?
Cyfradd Trylediad=
A.A-graddiant Crynodiad /hyd llwybr trylediad
beth yw diffiniad Trylediad?
-symudiad moleciwlau neu ionau o ardal lle mae crynodiad uchel ohonynt i ardal gyda chrynodiad is-i lawr graddiant crynodiad
enghraifft o pa fath o gludiant yw trylediad Syml?
a beth yw’r ystyr?
Goddefol
ystyr-proses lle nad oes angen i’r gell ddarparu egni
5 enghraifft
pa fath o ffactorau sydd yn gallu effeithio ar gyfradd trylediad?
-cynyddu graddiant crynodiad
-cynyddu hydoddedd mewn lipidau
-cynyddu tymheredd
-cynyddu A.A
-lleihau pellter trylediad
cymhara proteinau sianel vs cludo
Sianel
-mandwll
-ddim yn newid siap
-dim ond yn cludo moleciwlau hydawdd mewn dwr
-cludiant cyflym
-hydoddyn ddim yn rhwyma a protein cludo
Cludo
-Dim mandwll
-newid siap
-cludo moleciwlau hydawdd ac anhydawdd
-cludiant arafach
-hydoddyn yn rhwymo a protein cludo
pa 2 fath o brotein Cynhenid sydd?
-Sianel
-Cludo