UG 1.2 Flashcards
Adeiledd a threfniadaeth celloedd
gwna goeden mathau Celloedd
Celloedd
-Procaryotig –> Bacteria
-Ewcaryotig –> Planhigion+Anifeiliaid
3 pwynt
pwysigrwydd Organynnau Pilennog?
a ym mha fath o gell ydy rhain?
-darparu arwyneb i ensymau i gydio ynddo lle gall adweithiau cemegol ddigwydd
-dal cemegion/ensymau gall fod yn niweidiol
-gweithredu fel system gludiant
Celloedd EWCARYOTIG
Gwna ddiagram/enwa pob rhan o’r Cnewyllyn
-Mandwll Gnewyllol
-Amlen Gnewyllol
-Cnewyllan
-Niwcleoplasm
-Cromatin
-Reticwlwm Endoplasmig Garw
-Ribosomau
swyddogaeth Amlen Gnewyllol?
a beth yw e?
-Pilen Ddwbl sy’n cynnwys mandyllau cnewyllol
-caniatau mRNA a ribosomau i fynd drwyddo
swyddogaeth Niwcleoplasm?
-deunydd gronynnog sy’n debyg i cytoplasm
-DNA y gell yn bodoli ar ffurf cromatin
swyddogaeth Cromatin?
a beth yw e?
-DNA ynghlwm a phrotein
-mae’n cyddwyso i ffurfio cromosomau yn ystod cellraniad
swyddogaeth y Cnewyllan?
-creu rRNA sydd yn ffurffio’r ribosomau
Gwna ddiagram/enwa pob rhan o’r Mitocondria
-Matrics
-DNA cylchol
-Pilen Fewnol
-Pilen Allanol
-Cristae
-Ribosomau 70S
-Gofod Rhyngbilennol
pwrpas y Mitocondria?
-rhyddhau egni cemegol ar ffurf ATP yn ystod ystod respiradaeth aerobig
pa addasiad strwythurol sydd gyda Mitocondria?
-siap yn silindrog
-felly cymhareb arwynebedd:cyfaint mwy
-hyn yn gwneud respiradaeth aerobig yn fwy effeithlon
Gwna ddiagram/enwa pob rhan o’r Reticwlwm Endoplasmig
-RE Garw
-RE Llyfn
-Ribosomau
diffiniad RE Garw?
a rho enghreifftiau o ble fyddant
-ribosomau ar yr arwyneb allanol, sydd yn syntheseiddio proteinau, sy’n cael ei ei basio i’r cisternau
-cael ei ddefnyddio fel system i gludo’r proteinau
-e.e.chwarennau poer (yn y celloedd sy’n creu amylas)
diffiniad RE Llyfn?
-heb ribosomau ar yr arwyneb allanol
-safle synthesis a chludiant lipidau
Gwna ddiagram/enwa pob rhan o Ribosom
-Is-uned mawr
-Is-uned bach
-Polypeptid
-mRNA
allan o beth caiff yr is-unedau mawr/bach eu creu allan ohono?
-RNA ribosomaidd(rRNA)
-a phrotein
pam bod Ribosomau yn bwysig?
-bwysig i synthesis protein (sydd yn creu cadwyni polypeptid) oherwydd nhw yw safle trosiad
noda pa faint o ribosom sydd mewn cell procaryotig vs ewcaryotig
procaryotig-70S
ewcaryotig-80S
Gwna ddiagram/enwa pob rhan o’r Organigyn Golgi
a pha bwrpas?
-tebyg i’r RE ond fwy cryno
-pwrpas yw i dderbyn cadwyni polypeptid
-Fesiclau(cludiant)-sydd wedi cyrraedd o’r RE Garw
-Cisternau
-Fesiclau newydd yn ffurfio a ‘pinsio’ i ffwrdd
6 pwynt
beth yw swyddogaethau’r Organigyn Golgi?
-plygu,trawsfondio a phacio polypeptidau i greu protein
-cynhyrchu glycoprotein
-cynhyrchu ensymau secretu sydd mewn fesiclau
-secretu carbohydradau e.e. i ffurfio cellfurfiau planhigion
-cludo a storio lipidau
-ffurfio lysosomau
Gwna ddiagram/enwa pob rhan o Lysosym
a sut caiff ei greu?
-pilen
-ensymau
cael ei greu gan yr Organigyn Golgi
termau!
pryd ydy Lysosomau yn rhyddhau’r ensymau pan fydd angen?
-i dreulio rhannau o’r gell megis organynnau wedi darfod-sef Awtolysis
-i ryddhau ensymau tu allan o’r gell er mwyn torri celloedd eraill i lawr-sef Metamorffosis
Gwna ddiagram/enwa pob rhan o Centriol
-tripled o ficrodiwbynnau
10 elfen wahanol
Gwna ddiagram/enwa pob rhan o’r Cloroplast
-Stroma
-Lamella
-Lwmen
-Thylacoid
-Pilen Allanol
-Pilen Mewnol
-DNA cylchol
-Ribosomau (70S)
-Granwm (pentwr o thylacoid)
-Gronynnau Startsh
beth?cynnwys beth?cynnyrch?
beth yw swyddogaeth y Thylacoid (mewn cloroplast)?
-beth-codennau fflat caeedig
-cynnwys pigmentau ffotosynthetig fel cloroffyl
-cynhyrchu a.a.mawr (dal egni)