Nodweddion Flashcards

1
Q

Straen fel ymateb corfforol:

A

Selye (1936) ymchwil ar lygod mawr a darganfu ymateb cyffredinol i straen sy’n cynnwys ein system nerfol. Pan nodir bygythiad, mae’r system nerfol yn rhyddhau hormonau, fel cortisol ac adrenalin sy’n paratoi’r corff i ddelio â’r straenachoswr. Mae Cortisol yn rhyddhau glwcos, sy’n darparu egni ac adrenalin ac sy’n paratoi systemau’r corff ar gyfer ymateb ymladd neu ffoi.

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
2
Q

Straen fel ymateb seicolegol

A

Cynigiodd Lazarws & Folkman (1984) y Model Rhyngweithredol o Straen, sy’n awgrymu nad yw straen yn bodoli o fewn yr amgylchedd nac o fewn y person yn unig, ond yn y trosglwyddiad rhwng y ddau. Yn ôl y model hwn, mae’r unigolyn yn ‘arfarnu’ y sefyllfa a bydd ei allu i ymdopi â’r straenachoswr yn pennu’r effaith y bydd y straenachoswr yn ei chael ar yr unigolyn. Mae arfarnu’n cynnwys dwy elfen allweddol; cynradd (a yw’r straenachoswr yn fygythiad i’r unigolyn?) ac eilaidd (a oes gennyf yr adnoddau i ymdopi?). Bydd pwyso a mesur y ddwy elfen hyn yn pennu’r ymateb i straen.

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
3
Q

Straen maen

A

math mwyaf cyffredin o straen ac mae’n ymateb i straenachoswr ‘uniongyrchol’ fel sefyll arholiad neu ci sy’n cyfarth yn eich dychryn.

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
4
Q

straen maen episodig

A

achosion mynych o straen tymor byr, er enghraifft, unigolyn yn cael ei orlwytho ac yn ymgymryd â gormod o waith ac yn profi galwadau mynych ar ei amser a’i egni. Gall y math hwn o straen ddod i ben, yn wahanol i straen cronig, ond gall hefyd ddod yn rhan o bersonoliaeth a ffordd o fyw rhywun.

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
5
Q

straen cronig

A

parhau dros gyfnodau hir o amser a gall fod yn gysylltiedig â straenachoswyr lle mae’r unigolyn yn credu nad oes ganddo fawr ddim rheolaeth, er enghraifft anawsterau perthynas a chael ei ddal mewn perthynas hirdymor anhapus. Mae unigolion sy’n dioddef o straen cronig yn credu na fydd eu sefyllfa byth yn dod i ben ac felly’n dod i arfer â byw gydag ef, gan ei gwneud yn anodd iawn ei drin.

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
6
Q

effeithiau Corfforol

A

bydd yn cynhyrchu amrywiaeth o newidiadau ffisiolegol tymor byr fel mwy o bwysedd gwaed, tymheredd ac ymlediad cannwyll y llygad. Gall unigolion hefyd brofi tensiwn cyhyrol yn ogystal â dŵr poeth a phen tost. Gall straen acíwt a chronig gael effaith hirdymor ar salwch corfforol. Mae ymchwil wedi dangos y gall straen niweidio’r system imiwnedd, gan gynyddu’r perygl o gael haint, yn ogystal â salwch fel clefyd coronaidd y galon.

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
7
Q

Seicolegol

A

amrywio o hunan-barch isel i anhwylderau iechyd meddwl fel gorbryder ac iselder. Mae straen yn achosi i unigolion deimlo na allant ymdopi, a gall arwain at nifer o newidiadau i’w ffordd o fyw fel ysmygu, yfed mwy o alcohol neu gymryd cyffuriau fel ffordd o ymdopi.

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly