Cefndir Ystafell Cynddylan Flashcards
Beth yw enw y math yma o gerdd?
Canu cyfarwyddydd yw enw’r math yma o gerdd
O ba gyfnod y mae’r gerdd yn perthyn?
Mae’r gerdd yn perthyn i’r nawfed ganrif (tua 850h - tri chan mlynedd ar ôl cerddi Aneirin a Theliesin
Beth sydd wedi digwydd ers y chweched ganrif?
Mae datblygiad syniadaeth a datblygiad crefft wedi digwydd ers y chweched ganrif, dim canu arwrol yw hwn ond canu gyda teimladau.
Canu beth yw’r gerdd?
Mae hi’n canu dramatig lle mae’r bardd yn creu cymeriad, Heledd, ac yn canu trwy ei geiriau hi.
Mewn geiriau eraill, beth yw’r gerdd?
Mewn geiriau eraill, ymson Heledd yw’r gerdd
Pwy oedd Heledd?
Roedd Heledd yn chwaer i Cynddylan ap Cyndrwyn, brenin Powys yn y seithfed ganrif.
Lle oedd lleoliad llyn Cynddylan?
Roedd lleoliad ei lys, sef Pengwern, yn Amwythig.
Lle mae’r Athro Melville Richards yn dweud fod ei llys?
Mae’r Athro Melville Richards yn dweud mai Din Gwrygon, y gaer ar y bryn a elwir yn Wrekin oedd ei lys.
Beth yw cefndir y canu?
Cwymp teyrnas Powys a marwolaeth ei harglwydd a’i brawd, Cynddylan, yw cefndir y canu.
Gan bwy gafodd y llyd ei ddifetha?
Cafodd y llys ei ddifetha a’i ddiffeithio gan wŷr Lloegr
O ba safbwynt mae’r gerdd yn cael ei ganu?
Mae’r cerdd yn cael ei chanu o safbwynt y ferch, a’r chwaer i’r dywysog sydd yn cael ei adael yn unig wedi iddi gweld ei byd yn chwalu o’i chwmpas. Mae’n galaru ac anobeithio, ac yn dyheu am farw ei hun.
Trasiedi o beth yw’r canu?
Trasiedi o golli popeth yw’r gerdd, sef ei theulu, ei chartref, ac mae hyn yn cael ei ddangos yn llawer gwell yn y person cyntaf.
Sefyllfa beth o ferch sydd yma?
Sefyllfa merch yn cael ei ddangos yma, merch sy’n colli’r cyfan ar ôl marw Cynddylan. Heb ei harglwydd, roedd Heledd yn neb.
Pa ddarlun cawn ohoni?
Ceir darlun ohoni yn crwydro’n orffwyll drwy adfeilion oer llys Pengwern, ei meddyliau yn camu’n wyllt o un atgof i’r llall, ond yn dychwelyd i’r un lle, sef ei gofid a’i sefyllfa drychinebus.
Beth yw’r tair elfen amlwg yn Ystafell Cynddylan?
- Galaru am y marw
- Cwynfan am ei chyflwr ei hun - nid oes pwrpas i’w bywyd hen ei brawd
- Defnhddio natur fel cefndir yn wrthgyferbyniad i’w chyflwr truenus hi