Cefindir Awdl 1: Aneirin Flashcards
Faint o linellau mae’r cerdd yn ei gynnwys?
Mae’r gerdd yn ei chyfanrwydd yn cynnwys 1480 llinell.
O ba gerdd y mae awdl un yn dod?
Ongerdd hir Aneirin sef ‘Y Gododdin)
Cyfres o beth yw’r gerdd?
Cyfres o awdlau bychain ydyw, awdlau sy’n aml yn canolbwyntio ar un person ac yn ei glodfori.
Beth yw’r rhinwedd (virtue) pennaf yn y Gododdin?
Ffyddlondeb pob milwr i’w dywysog yw’r rhinwedd pennaf yn y Gododdin
Beth a gawn yn yr awdl arbennig hon? (Awdl 1)
Yn yr awdl arbennig hon, yr hyn a gawn gan y bardd yw ei ymateb i farwolaeth Owain fab Marro.
Pwy oedd Owain fab Marro?
Un o filwyr llwyth y Gododdin oedd hwn, a chlyen gan Aneirin am ei ffyddlondeb a’i ddewrder.
Beth mae Aneirin yn ceisio ei gyfleu yn y darn hwn?
Yr hyn a ceisia’r bardd ei wneud yw cyfleu darlun cyflawn o’r milwr arbennig hwn.
Pam fod Owain yn amlwg yn bwysig?
Oherwydd mai Owain fab Marro sydd yn cael yr awdl cyntaf yn y gerdd hir, ac felly roedd Owain yn amlwg yn ffrind agos i’r bardd.
Beth mae’r gerdd yn ymataliol (refrained) ohoni?
Mae’r darn yn ymataliol o ran emosiwn, ac mae ei gynildeb yn drawiadol
Serch cynildeb y darn beth clywir islais ohono?
Serch cynildeb y darn, fe glywir islais o’r ddau begwn eithaf, sef llawenydd a thristwch
Canu beth yw’r awdl
Canu arwrol sydd yma yn yr awdl, sydd yn haelioni Owain fab Marro, ac yn disgrifio gyda’r ddelwedd o filwr perffaith gan ei fod o wedi marw’n ifanc.