Cefndir Dafydd ap Gwilym Flashcards
Pryd oedd DAG yn byw?
Roed Dafydd ap Gwilym yn byw tua 1320-1380
Yn ei gifnod, beth oedd DAG yn caeil ei gydnabod fel?
Roedd yn cael ei adnabod fel un o feirdd pwysicaf Ewrop yn ei gyfnod.
Lle mae dafydd ap gwilym wedi cael ei gladdu?
Mae Dafydd ap Gwilym wedi cael ei gladdu yn Abaty Ystrad Fflur sydd ddim yn bell o Aberystwyth.
Ym mha haen o gymdeithas iedd DAG?
Roedd dafydd ap gwilym yn uchelwr yn ol traddodiad
Lle cafodd dafydd ap gwilym ei fagu?
Cafodd Dafydd ap Gwilym ei fagu ym Mro Gynin, ger Llanbadarn Fawr, Aberystwyth. Roedd yn mab i Gwilym Gam ap Gwilym ab Einion a’r wraig Ardudfyl.
Beth oedd enw dad DAG?!?!
Enw tad DAG oedd Gwilym Gam ap Gwilym ab Einion!!!
Pwy oedd ei ewythr?
Roedd ei ewythr, Llywelyn ap agwilym ab Einion yn gwnstabl yng Naghastell Newydd Emlyn ac yn ddyn dylanwadol iawn. Mae’n bosib fod Dafydd wedi treulio llawer o amser neu hyd yn oed wedi byw gyda’i ewythr, sy’n cael ei alw’n ‘Eos Dyfed’ a ‘bardd glan Teifi’.
Tua faint o gerddi DAG sydd wedi goroesi?
Mae tua 170 o’i gerddi wedi goroesi
Pryd oedd D ap g yn barddoni?
Roedd yn barddoni rhwng 1340 a 1370 sef cyfnod pan oedd dull y Gogynfeirdd o ganu’n dod i ben, a chyfnod Beirdd yr Uchelwyr, sef cyfnod mawr y cywydd yn cychwyn.
Pa system newidiodd ar ol marwolaeth Llywelyn ym 1282?
Newidiodd y system nawdd ar ol marwolaeth Llywelyn yn 1282. Golygai hyn nad oedd tywysogion i noddi beirdd, ac Uchelwyr bellach oedd y noddwyr ac roedd yn rhaid i feirdd deithio a chystadlu i chwilio am nawdd gan Uchelwyr. Dyma ddechrau cyfnod Beirdd yr Uchelwyr a’i brif seren, D ap G.
Beth credir fod D ap G wedi ei wneud?
Credid i D ap G deithio yn helaeth o gwmpas Cymru yn barddoni ac ymweld â’i ffrindiau, a gwelwn hyn yn ei gerddi. Er enghraifft, mae’n canu i Rosyr (Niwbwrch), Ynys Môn a dywed iddo fod yn Eglwys Gadeiriol Bangor. Roedd o hefyd yn cani i wŷr a gwragedd bonheddig Ceredigion a credir iddo ganu llawer i Ifor Hael o Faesaleg ym Morgannwg.
Lle mae yna lle pwysig iawn i D ap G?
Mae yna lle pwysig iawn i D ap G yn natblygiad y cywydd.
Beth sy’n anodd i’w deall?
Mae cerddi Beirdd y Tywysogion, sef y Gogynfeirdd, yn anodd i’w deall, oherwydd eu bod nhw’n llawn cystrawennau cymhleth a geiriau cyfansawdd dieithr. Canodd D ap G rai cerddi cynnar yn y dull yma.
Pa mesur oedd yn bod cyn cyfnod D ap G?
Roedd mesur o’r enw Traethodl yn bod gan feirdd isel radd cyn cyfnod D ap G.
Beth wnaeth D ap G cywreinio?
Cywreiniodd D ap G y mesur o’r enw Traethodl trwy ei gynganeddu a gorffen y llinellau’n acennog a diacen bob yn ail. O ganlyniad, datblygodd y cywydd yn fesur oedd digon urddasol i ganu mawl a marwnad arno,