Cefndir Awdl 24: Aneirin Flashcards
Faint o linellau mae’r gerdd yn cynnwys?
Yn ei chyfanrwydd, mae’r gerdd yn cynnwys 1480 o linellau.
O ba gerdd daw’r Awdl hon?
Daw’r awdl hon o gerdd hir Aneirin sef ‘Y Gododdin’.
Cyfres o beth yw’r gerdd?
Cyfres o awdlau bychain ydyw, awdlau sy’n aml yn canolbwyntio ar un person ac yn ei glodfori.
Beth yw rhinwedd pennaf y Gododdin?
Ffyddlondeb pob milwr i’w dywysog yw’r rhinwedd pennaf yn y Gododdin.
Beth mae’r bardd yn canolbwyntio ar yn Awdl 24?
Yn yr awdl arbennig hon, yr hyn a gawn gan y bardd yw canolbwyntio ar un o’r arwyr.
Bet cawn wybod am yr arwr yn y gerdd?
Cawn wybod yn y gerdd fod yr arwr wedi marw ar faes y gad, yn gwneud ei briod waith sef amddiffyn rhag y gelyn.
Pryd cawn wybod enw’r arwr?
Cawn wybod enw’r arwr ar ddiwedd y gerdd.
Beth mae’r bardd wedi sicrhau trwy enwi’r arwr ar ddiwedd y gerdd?
Mae’r bardd wedi sicrhau y bydd ei enw yn fyw am byth fel un o amddiffynwyr cynnar ein cenedl ni.
Beth yw’r gwahaniaethau rhwnd awdl 24 ac awdl 1?
- Owain fab Marro yn nes ffrind at y bardd “cy cyfail”
- dim tristwch o’r gwbl, ond yn ei foli fo
- mwy o bwyslais at ei oed yn awdl 1
- dim son am ieuenctid Buddfan fab Bleiddfan>teimlaspd fod OFM yn hogyn ifanc