Cefndir Trafferth Mewn Tafarn Flashcards
I ba gyfres mae’r cywydd hwn yn perthyn iddo?
Mae’r cywydd hwn yn perthyn i gyfres hir o gywyddau serch gan D ap G.
O holl gywyddau D ap G, beth mae Trafferth mewn Tafarn yn dangos ar ei fwyaf?
O holl gywyddau D ap G, dyma’r cywydd sy’n dangos y rhwystr ar ei fwyaf amlwg.
I bwy mae cywyddau serch D ap G ar gyfer?
Mae ganddo gywyddau i ddwy arbennig, sef Dyddgu a Morfudd, ac mae nifer o’r cywyddau hynny’n gywyddau didwyll sy’n eu moli o ddifrif, ac yn canu ei clodydd.
Er bod rhai oi’ cywyddau yn clodfori’r ddwy ferch, beth yw gwir pwrpas y gerdd?
Nid y cywydd hwn yw clodfori’r ferch, yn hytrach mae’r bardd yn llwyddo i chwerthin ar ei ben ei hun yn ei anallu i gyrraedd tuag at ei nod. Mae’r cywydd hwn yn fwy o gywydd am y bardd ei hun yn hytrach nag am wrthrych ei serch.
Beth mae’r cywydd hwn yn cael ei gymharu â?
Cymharwyd y cywydd storïol a digrif hwn droeon â’r genre Ewropeaidd poblogaidd a elwir yn fabliaux.
Beth oedd fabliaux?
Chwedlau o affrainc yr Oesoedd Canol oedd y fabliaux, yn aml yn ymwneud â throeon trwstan.
Beth ddudai Gwyn Thomas am y cysylltiad rhwng cerddi rhwystrau D ap G a’r fabliaux?
Yn ôl Gwyn Thomas, ni ddylid gwneud gormod o’r cysylltiad rhwng cerddi rhwystrau D ap G a’r fabliaux gan mai arlliw ohonynt yn unig sydd ar ei waith.
Os oes unrhyw fodel lenyddol yn sail i’r cywydd hwn, beth ydyw?
Os oes unrhyw fodel lenyddol yn sail i’r cywydd hwn, yna mae’n debyg mai’r foeswers oedd honno. Byddai pregethwyr yr Oesoedd Canol yn defnyddio straeon bach i ddangos peryglon pechodau yn fyw i’r bobl. Gweler bod elfen foesol gref yn ieithwedd y cywydd hwn gyda geiriau megis “balch”, “segur”, “da”, a “drwg”.
Beth mae’r ieithwedd gyda’r elfen foesol yn arwydd clir o?
Mae’r ieithwedd hon yn arwydd clir o ddylanwad y genre hwnnw ar y cywydd.
Beth yw prif bechod y bardd yn y gerdd?
Prif bechod y bardd yn y gerdd oedd balchder yncael codwm. Ond camgymeriad fyddai deholgli’r gerdd fel moeswers ddifrifol. Y tebyg yw bod D ap G wedi manteisio ar lenddull y foeswers i’w bwrpas ei hun, a’i barodio i raddau, fel y gwnaeth gyda llawer o gonfensiynau llenyddol eraill yn ei waith. Parodi ar foeswers ydyw.