Cefndir Taliesin Flashcards
Lle caswyd ei waith?
Cadwyd ei waith yn Llyfr Taliesin sy’n rhan o lawysgrif Peniarth 1275
Bardd o bryd oedd Taliesin?
Bardd o ail hanner y chweched ganrif
Beth mae’r ffaith gafodd y llyfr ei hysgrifennu 600 mlynedd ar ôl eu hysgrifennu yn dangos?
Mae’n dangos mai llafar sydd wedi gadael iddo goroesi hyd y 13G
Faint o gerddi sydd wedi tadogi arno?
Deuddeg
Faint o’r deuddeg sy’n clodfori Urien Rheged a’i fab Owain?
Mae chwech o’r deuddeg yn gwneud hyn
Lle mae yna cyfeiriad arwydocaol at Daliesin?
Yn llyfr hynaf yr iaith Gymraeg sef Llyfr Du Caerfyrddin
Yn Llyfr Du Caerfyrddin, beth mae yna sôn am Daliesin yn ei wneud?
Sgwrsio gyda’r ddewin Myrddin sy’n dangos fod Taliesin yn tyfu’n ffigwr chwedlonol ac yn llwyddo i groesi drosodd i’r byd chwedlonol.
Beth sy’n bod gyda llawer o’n wybodaeth amdano?
Mae llawer o wybodaeth sydd gennym amdano wedi ei gymylu gan niwl dyfalu haneswyr a chwedloniaeth.
Erbyn pryd datblygodd taliesin yn ffigwr chwedlonol?
Erbyn y 9fed Ganrif ac oedd ganddo dawn i newid ei rith.
Ym mha chwedl mae cyfeiriad at daliesin?
Mae’n cael ei enwi yn un o’r saith ddaeth yn ôl i Gymru guda Branwen yn y Mabinogi.
Roedd Taliesin yn Bencerdd. Beth oedd swyddogaeth Pencerdd?
Swyddogaeth Pencerdd oedd canu i dywysog neu frenin neu ei deulu, sef llwyth yn y cyfnod.
Beth mae Syr Ifor Williams yn ei gredu?
Credai Syr Ifor Williams ei fod yn dod yn wreiddiol o Bowys ac yn bardd llys Cynan Garwyn, Arglwydd Powys.
Pam mae Syr Ifor Williams yn meddwl symudodd Taliesin i’r Hen Ogledd?
Ar ôl clywed am orchestion Urien, brenin Rheged a’r fab Owain ab Urien.
Ond, ar y llaw arall, beth mae D.P. Kirby yn ei gredu?
Mae’n anghytuno ad ef, ac yn credu mai symud o’r Hen Ogledd i Bowys wnaeth Taliesin.
Pryd mae’n bosib dyddio Taliesin?
Gellir o bosib dyddio Taliesin ychydig yn gynharach nag Aneirin oherwydd y cyfeiriad at ardal Catraeth fen rhan o dirogaeth y Bruthoniaid mewn cerdd ganddo. Yn Y Gododdin gan Aneirin mae Catraeth yn nwylo’r Eingl.
Pa fath o farddoniaeth oedd barddoniaeth Gymraeg am ganrifoedd?
Barddoniaeth gymdeithasol
Beth oedd swyddogaeth bardd?
Clodfori dewrder ac ysbrydoli arweinydd a’r filwyr.
Mewn geiriau eraill, beth oedd barddoniaeth?
Rhywfath o bropaganda oedd barddoniaeth wrth annog hogiau ifanc i frwydro.
Gwelwn cychwyn pa traddodiad yng ngherddi Taliesin?
Gwelwn gychwyn y traddodiad barddol Cymraeg sef Canu Moliant a barhaodd yn ddidor hyd y deunawfed ganrif.
Beth credai Dafydd Johnson?
Credai Dafydd Johnson mai Taliesin oedd, “ysbryd arweiniol y traddodiad barddol,” ac mar nifer eraill hefyd o’r farn mai ef sefydlodd y traddodiad.
Beth welwn yn Urien a’r fab Owain?
Gwelwn yr arweinydd perffaith, sef rhywun dewr a ffyrnig yn erbyn y gelyn, ond yn hael wrth bobl ei hun.
Beth sy’n bwysig yn amryw o’i cerddi
Mae llinach arweinydd neu filwr yn hollbwysig yn amryw o’i cerddi er enghraifft o linach Coel Hen mae Urien ac Owain.
Beth oedd pobl yng nghyfnod Taliesin yn dibynnu yn llwyr arno?
Roedd pobl yng nghyfnod Taliesin yn dibynnu yn llwyr ar eu harweinydd am eu cynhaliaeth. Cyfnod ansefydlog roedd pibl yn byw ynddi, lle’r oedd brwydro parhaus rhwng y Brythoniaid a’r Eingl yn ffordd o fyw.
Er yr holl frwydro a lladd, nid beth oedd barddoniaeth Taliesin?
Nid canu trist yw ei farddoniaeth, barddoniaeth arwrol ydyw, a chawn cipolwg ar sut oedd arweinydd yn byw a’r ddylanwad ar ei bobl.