Cefndir Aneirin Flashcards
Pa fath o fardd oedd Aneirin?
Bardd llwyth oedd Aneirin( llwyth y Gododdin)
Bardd o bryd oedd Aneirin?
Bardd o ail hanner y chweched ganrif oedd Aneirin
Pryd mae’n bosib dyddio Aneirin?
Gellir o bisib dyddio Aneirin yhydig ar ôl Taliesin oherwydd y cyfeiriad at ardal Catraeth. Mewn cerdd gan Tal, cyfeirir at Catraeth fel rhan o dirogaeth h Brythoniaid. Ma catraeth yn nwylo’r eingl erbyn cyfnod Aneirin.
Sut gwyddwn am y frwydr yng nghatraeth?
Does dim cofnod hanesyddol yn sôn am y frwydr hon yn unrhyw le heblaw am y gerdd hon.
Lle geir cyfeiriad at Aneirin?
Ceir cyfeiriad at Aneirin yn Historia Brittonum gan y mynach Nennius sy’n ei restru fel un o feirdd enwog y chweched ganrif
Sut oedd barddoniaeth yn cael ei trosglwyddo ar hyd y canrifoedd hyd y 13G?
Hyd y gwyddom traddodiad llafar fu’n gyfrifol am drosglwyddo’r farddoniaeth ar hyd y canrifoedd hyd y 13G
Lle mae canu Aneirin yn cael ei gadw?
Mae canu Aneirin wedi ei gadw hn Llyfr Aneirin sef llawysgrif fechan 38 tudalen o ail hanner y 13G.
Lle mae’r llawysgrif yn cael ei gadw?
Yn llyfrgell Caerdydd
Yn wahanol i Daliesin, pa fath o fardd oedd Aneirin?
Nid bardd brenin neu dywysog oedd Aneirin ond bardd teulu (byddin a llwyth) y brenin Mynyddog Mwynfawr
Pa cerdd sydd wedi cael ei gadw o waith Aneirin?
Un gerdd a gadwyd i ni o waith Aneirin sef Y Gododdin - cerdd hir o tua 1200 o linellau, gyda thua chant o awdlau. Dyma a geir yn llyfr Aneirin. Enwir yr enw Gododdin 29 gwaith yn y gerdd.
Lle’r oedd Llwyth y Gododdin yn byw?
Ym Manaw Gododdin yn yr Hen Ogledd, sef Caeredin heddiw.
Pwy oedd arweinydd y llwyth?
Dyn o’r enw Mynyddog Mwynfawr. Ni wyddwn ddim amdano. Does dim sôn amdano mewn unrhyw achau.
Pa fath o farddoniaeth oedd barddoniaeth Gymraeg am ganrifoedd?
Barddoniaeth gymdeithasol
Beth oedd swyddogaeth bardd?
Clodfori dewrder ac ysbrydoli arweinydd a’i filwyr.
Pa traddodiad gwelwn yn cychwyn yn barddoniaeth Taliesin adlc Aneirin?
Gwelwn cychwyn y traddodiad barddol Cymraeg sef Canu Moliant a barhaodd yn ddi-dor hyd y 18G