Cefndir Lewis Glyn Cothi Flashcards
Bardd o bryd oedd Lewis Glyn Cothi?
Bardd o’r bymthegfed ganrif oedd Lewis Glyn Cothi.
Pa fath o fardd ydoedd?
Un o feirdd yr uchelwyr.
Beth mae ei enw yn ei awgrymu?
Mae ei enw yn arymu mai gwr o Lyn Cothi yng Ngogledd Sir Gaerfyrddin ydoedd.
Er fod ei enw yn awgrymu mai o Lyn Cothi ydoedd, beth yr ydym ni’n gwybod erbyn heddiw?
Gwyddom erbyn heddiw ei fod yn hanu o ardal Llanybydder ac yn cymryd ei enw o fforest Glyn Cothi yn yr ardal.
Pryd gafodd Lewis Glyn Cothi ei eni?
Cafodd ei eni yn y 1420au a bu farw yn y 1490au.
Pryd mae ei gerdd olaf yn dyddio?
Mae ei gerdd olaf yn dyddio yn 1489.
Lle mae traddodiad yn honni y cafodd ei gladdu?
Mae traddodiad yn honni y cafodd ei gladdu yn Abergwili.
Beth does dim llawer ohono?
Does dim llawer o fanylion am Lewis Glyn Cothi.
Beth oedd ei enw bedydd?
Llywelyn oedd ei enw bedydd ond galwodd ei hun yn Lewys neu Lewis.
O bosib, lle dderbyniodd ei addysg?
O bosib, derbyniodd ei addysg ym Mhriordy Caerfyrddin a gallai ysgrifennu’n dda., ac mae rhai o’i lawysgrifau wedi goroesi.
Beth cyfrannodd iddo?
Cyfrannodd i Lyfr Coch Hergest a Llyfr Gwyn Hergest, lle cedwir ei lawysgrif.
Beth credir iddo efallai dreulio?
Credir iddo efallai dreulio cyfnod fel sywddog yn Rhyfeloedd y Rhosynnau.
Beth gwyddom iddo dreulio cyfnod yn byw arni?
Gwyddom iddo dreulio cyfnod yn byw ar herw oddi wrth y gyfraith yn Eryri, ond ni wyddom pam.
Beth sydd yn fwy arwyddocaol am waith Lewis nag unrhyw fardd Cymraeg arall o’r oesoedd canol?
Mae mwy o waith Lewis Glyn Cothi wedi ei gadw nag unrhyw fardd Cymraed arall o’r oesoedd canol.
Yn ei gerddi, lle yr oedd yn canu iddynt yn bennaf?
Yn ei gerddi, cana i noddwyr dros Gymru, ond yn bennaf yn ei ardal ei hun ac ar hyd y gororau yn Sir Frycheiniog a Maesyfed. Er hyn, mae ei gerddi yn dangos ei fod yn gyfarwydd dros Gymru.