2.6 Arennau mewn Homeostasis Flashcards
2 swyddogaeth
swyddogaeth yr arennau
gwaredu wrea o’r gwaed
osmoreolaeth sef rheoli lefel dwr y gwaed
beth yw ysgarthiad
cael gwared a sylweddau gwastraff y corff sy’n cael ei greu yn ystod adweithiau cemegol (metabolaeth) y corff
mae’r gwaed yn mynd mewn i’r…
y system ysgarthu dynol
mae’r GWAED yn mynd mewn i’r aren trwy’r RHYDWELI ARENNOL. Mae’r gwaed yn cael ei HIDLO ac mae’r cemegion GWASTRAFF fel WREA ac ychydig o’r HALEN a DDWR yn mynd lawr y WRETER i’r BLEDREN. Mae’r gwaed glan yn gadael yr aren drwy’r GWYTHIEN ARENNOL.
adeiledd mawr yr aren
Enw’r haen allanol yr aren yw’r CORTECS. Tu fewn yr haen yma mae haen o’r enw MEDULA. Mae’r ddwy ran yma yn cynnwys NEFFRONAU. Yn y PELFIS mae WRIN yn casglu cyn iddo fynd lawr y WRETER i’r BLEDREN.
beth sy’n digwydd? top? gwaelod?
y neffronau
gwaed yn cael ei hidlo a’r sylweddau gwastraff yn gadael y neffron i’r bledren ac yna allan o’r corff.
TOP - CORTECTS
GWAELOD - MEDULA
*fel wardrobe clearout - nol mewn neu i elusen
beth? pwysedd gwaed yn y.. yn achosi..? beth sy’n basio allan?
uwch-hidlo
beth - hylif yn gadael y gwaed dan wasgedd
pwysedd gwaed yn y glomerwlws yn achosi i hylif a cemegion gyda mas bach hidlo allan drwy waliau’r capilariau
celloedd coch a proteinau rhy fawr i basio allan
pam bod pwysedd gwaed uchel yn gallu bod yn peryglus i waith y glomerwlysau?
gall celloedd coch adael y gwaed yn y glomerwlws oherwydd i’r glomerwlysau ffrwydro
beth allai ymddangos mewn wrin person a pwysedd gwaed uchel iawn?
gwaed yn cynnwys celloedd coch, gwyn a proteinau mawr
beth?
amsugniad detholus
yr holl GLWCOS a llawer o’r DDWR yn cael ei ADAMSUGNO nol i’r gwaed.
peth o’r HALEN a DWR yn cael ei adamsugno nol i’r gwaed o’r DOLEN HENLE.
mae’r HALEN a DWR sydd ddim yn cael ei adamsugno nol, yn teithio gyda’r WREA i lawr y dwythell gasglu i’r PELFIS, yna i’r WRETER ac i lawr i’r BLEDREN.
bydd yr WRIN yn gadael y BLEDREN ar hyd yr WRETHRA ac allan o’r corff.
beth allai glwcos yn yr wrin fod yn arwydd ohono?
clefyd y siwgr (diabetes)
gostyngiad vs cynnydd yn lefelau dwr y gwaed? enw’r proses? route?
Cydbwysedd Dwr (osmoreolaeth)
mae OSMOREOLAETH yn enghraifft o broses ADBORTH NEGATIF. os oes GOSTYNGIAD yn lefelau dwr y gwaed mae’r corff yn ymateb trwy GYNYDDU neu os oes CYNNYDD yn lefelau dwr y gwaed mae’r corff yn ymateb drwy ei OSTWNG.
hypothalamus yn yr ymennydd yn monitro’r gwaed. anfon neges i’r chwaren bitwidol am lefelau dwr y gwaed. secretu mwy/llai o ADH
osmoreolaeth - gormod o ddwr yn y corff
arennau yn HIDLO LLAWER O DDWR allan o’r gwaed, sy’n mynd i’r bledren ac allan o’r corff. DIM HORMON GWRTH-DDIWRETIG yn cael ei greu, felly’r WRIN yn GWANEDIG.
crynodiad uchel - llai/dim ADH
beth sy’n digwydd?
osmoreolaeth - prinder dwr yn y gwaed
HORMON GWRTH-DDIWRETIG yn cael ei GREU, sy’n achosi llawer o ddwr, sy’n cael ei HIDLO ALLAN O’R GWAED gan y glomerwlysau. cael ei ADAMSUGNO nol i’r gwaed o’r dwythell casglu felly’r WRIN YN GRYNODEDIG.
crynodiad isel - mwy o ADH
faint mor aml? sut mae’n gweithio? cynnwys..? llif gwrthgerrynt?
trin methiant arennau - peiriant dialysis
tua 3x gwaith yr wythnos am 4 awr ar y tro.
sut mae’n gweithio - gwaed mewn i’r beiriant, peiriant yn hidlo sylweddau fel wrea a pheth o’r dwr a’r halen. gwaed yn dychwelyd trwy bibell arall.
cynnwys - pilenni athraidd detholus (gwaed ar un ochr a toddiant dialysis ar yr ochr arall)
llif gwrthgerrynt - helpu cynnal graddiant crynodiad
cymryd o.. - 2 math?
trin methiant arennau - trawsblannu arennau
cymryd o gyflwynydd (donor). gall fod yn fyw neu wedi marw.
cyflwynwyr byw - posibilrwydd o’r corff gwrthod aren yn llai tebygol os ydy’n dod o berthynas agos
pobl sydd newydd farw - rhaid ei cymryd o fewn awr o farwolaeth.