2.5 Homeostasis Flashcards
beth?
Homeostasis
beth - cynnal a chadw amgylchedd mewnol y corff yn gyson
beth?
Metabolaeth
beth - holl adweithiau cemegol a digwyddir yn y corff
8
amodau i reoli yn y corff
tymheredd
dwr
lefelau glwcos y gwaed
halen
ocsigen
carbon deuocsid
mwynau
wrea
beth?
adborth negatif
lefel rhywbeth yn codi = systemau rheoli yn ei leihau eto
lefel rhywbeth yn disgyn = systemau rheoli yn ei godi eto
rhy boeth - beth?
Y croen
- chwysu llawer, sy’n anweddu
- pibellau gwaed dan y croen yn ymagor fel bod llawer o waedd yn llifo ger arwyneb y croen
- blew ar y corff yn disgyn fel bod dim haen o aer cynnes dros y corff
rhy oer - beth?
Y croen
- stopio chwysu
- pibellau gwaed dan y croen yn darwasgu felly dim ond ychydig o waed sy’n llifo ger arwyneb y croen
- cyhyrau’n dechrau symud yn gyflym a heriog, sef crynu, sy’n cynhyrchu gwres ychwanegol
- blew ar y corff yn codi er mwyn dal haen o aer cynnes dros y corff, fel ynysydd
beth mae’n wneud? achosi (enghreifftiau)?
Alcohol
beth - newid prosesau cemegol yn y corff
achosi - caethiwed, pobl yn ddibynnol arno, profi symptomau diddyfnu hebddo, niwed corfforol hir dymor
beth? enghraifft o…
Homeostasis tymheredd
yr ymennydd sy’n cyd drefnu tymheredd y corff
tymheredd yn y gwaed rhy boeth = anfon neges i oeri’r corff
tymheredd yn y gwaed rhy oer = anfon neges i gynhesu’r corff
enghraifft o adborth negatif
ffototropedd positif
Ymatebion Planhigion
blaen y cyffun yn creu hormon Awcsin.
golau yn taro’r cyffun yn fertigol = awcsin yn tryledu’n gyfartal lawr y cyffun, achosir tyfiant syth
golau yn dod o un ochr = awcsin yn tryledu lawr yr ochr gysgodol, achosir tyfiant yn yr ardal yma
graffitropedd / geotropedd
Ymatebion planhigion
mewn gwreiddyn mae awcsin yn symud i’r ochr isaf ac yn atal ehangiad celloedd.
celloedd dal yn ehangu yn yr ochr uchaf a felly mae’r gwreiddyn yn plygu tuag at y ddaear