2.3 DNA ac Etifeddiad Flashcards
beth yw’r cadwyni? ffurfio? basau? paru drwy help..
Strwythr DNA
dwy cadwyn hir o siwgr a ffosffad
ffurfio helics dwbl a gysylltir gan basau
basau - Adenin, Gwanin, Thymin, Cytosin
parau drwy help bondiau hydrogen
trefn basau yn ffurfio? cod tripled yn dynodi? yn y cytoplasm?
Synthesis Protein
Trefn y basau yn ffurfio cod ar gyfer gwneud protein.
Pob cod tripled yn dynodi asid amino penodol
Yn y cytoplasm - codau tripled yn cysylltu asidau amino a’i gilydd i ffurfio protein
Trefn y basau yn amrywio o genyn i enyn
Beth yw Proffilio Genetig/DNA
dangos y tebygrwydd rhwng dau sampl o DNA trwy cymharu patrwm y bandiau
7 cam
Camau Proffilio Genetig
1) tynnu sampl o DNA (e.e gwallt, gwaed, croen) o’r safle troseddu
2) echdynnu’r DNA oddi wrth y cnewyllyn
3) ensymau yn torri’r DNA mewn i fandiau
4) gwahanu’r bandiau mewn gel electrophoresis
5) ychwanegu cerrynt trydanol
6) gwahanu oherwydd maint. darnau llai yn teithio’n bellach
7) cymharu eich proffiliau trwy edrych ar y patrymau o fandiau
Ble defnyddir proffilio genetig?
Darganfod troseddwyr
Pwy yw’r tad
Darganfod clefydau genetig
Perchnogaeth genynnau a gwybodaeth enetig
beth? dod mewn…
Alelau
beth - ffurf wahanol o enyn
alelau yn dod mewn parau
Homosygaidd
par o alelau yr un peth
e.e BB neu bb
Heterosygaidd
par o alelau yn wahanol
e.e Bb
Trechol
alel sy’n weladwy yn yr heterosygaidd o fewn y genoteip
Enciliol
alel sydd ddim yn weladwy yn yr heterosygaidd o fewn y genoteip
Genoteip
yr alel sy’n bresennol mewn organeb
Ffenoteip
ymddangosiad allanol par o alelau
beth? XX neu XY?
Cromosonau Rhyw
penderfyny os ydych yn fachgen neu merch
yr un peth heblaw y par olaf sef y cromosonau rhyw
merch - 2 gromoson X (XX)
bachgen - 1 cromoson X, 1 cromoson Y (XY)
sut?
Trosglwyddo Genynnau
trosglwyddo genyn artiffisial o un organeb i’r llall
Manteision Trosglwyddo Genynnau
Datblygu bwyd i leihau problemau deiet e.e reis aur
Datblygu cnydau ag ymwrthedd i glefydau a chwyn-laddwyr (pests)
Datblygu cnydau sy’n cynhyrchu plaleiddiad ei hun