Pennod 8 - Y System Nerfol Flashcards
Ysgrifennwch y model ymateb i symbyliad
Symbyliad —> Canfodydd —> Cydlynydd —> Effeithydd —> Ymateb
Diffiniwch symbyliad
Newid yn yr amgylchedd sy’n cael ei synhwyro
Enwch y ddau system mae bodau dynol yn cynnwys yn ein system nerfol
1) Prif system nerfol
2) System nerfol berifferol
Disgrifiwch y ddau system mae’r system nerfol berifferol yn ei gynnwys
1) System nerfol somatig - yn cynnwys parau o nerfau sy’n tarddu yn yr ymennydd a madruddyn y cefn ac sy’n cynnwys niwronau synhwyraidd ac echddygol
2) System nerfol awtonomig - yn rheoli gweithredoedd anwirfoddol megis treuliad a churiad y galon
Nodwch y tri math o niwronau mewn bodau dynol a’u swyddogaethau
1) Synhwyraidd - cludo ysgogiadau o dderbynyddion i’r brif system nerfol
2) Relai/cysylltiol - derbyn ysgogiadau o niwronau synhwyraidd neu o niwronau relai eraill ac yn eu trosglwyddo nhw i niwronau echddygol
3) Echddygol - trosglwyddo ysgogiadau o’r brif system nerfol i effeithyddion megis chwarennau neu gyhyrau
Disgrifiwch swyddogaeth y cellgorff/centron
Mae’n cynnwys cytoplasm gronynnog gyda ribosomau ar gyfer synthesis proteinau. Mae DNA yn bresennol mewn cnewyllyn ac mae’n gweithredu fel safle trawsgrifiad
Disgrifiwch swyddogaeth yr acson
Cludo’r ysgogiadau oddi wrth y cellgorff
Disgrifiwch swyddogaeth y gwain fyelin
Amgylchynu’r acson (a’r dendron mewn niwronau synhwyraidd) gan ddarparu ynysiad trydanol er mwyn gallu trosglwyddo’r ysgogiad yn gyflymach
Disgrifiwch swyddogaeth y celloedd Schwaan
Amgylchynu’r acson (a’r dendronau mewn niwornau synhwyraidd) sv yn ffurfio’r wain fyelin
Disgrifiwch swyddogaeth y nodau Ranvier
Bylchau yn y wain fyelin rhwng celloedd Schwaan, tuag 1µm ar drawsm lle mae pilen yr acson yn agored. Maent yn cyflymu dargludiad ysgogiadau nerfol (Dargludiad neidiol)
Disgrifiwch swyddogaeth y pennau acsonau
Secretu niwrodrosglwyddydd sy’n achosi dadbolaru’r niwron cyfagos
Disgrifiwch swyddogaeth y bylbiau pen synaptig
Chwydd ym mhen pellaf acson, lle mae’r niwrodrosglwyddydd yn cael ei synthesieiddio
Pam mae gwynnin yn lliw gwyn?
Presenoldeb myelin
Pa niwronau yn madruddyn y cefn sy’n anfyelinedig?
Niwronau relai
Beth yw pwrpas atgyrchau?
Ymateb yn gyflym ac yn awtomatig i symbyliadau a allai wneud niwed i’r corff; natur yn amddiffynnol
Nodwch y gwahaniaethau rhwng nerfrwyd Cnidariad(Hydra) a system nerfol mamolyn
Nerfrwyd Cnidariad:
- 1 math o niwron syml
- Anfyelinedig
- Niwronau byr, canghennog
- Trosglwyddo ysgogiad i’r ddau gyferiad
- Trosglwyddo ysgogiad yn araf
System nerfol mamolyn:
- 3 math o niwron
- Myelinedig
- Niwornau hir, heb ganghennau
- Trosglwyddo ysgogiad i un cyfeiriad
- Trosglwyddo ysgogiad yn gyflym
Diffiniwch botensial gorffwys
Mewn nirwon, y gwahaniaeth potensial rhwng y tu mewn a’r tu allan pan nad oes ysgogiad nerfol yn cael ei drosglwyddo. Mae tua -70mV. Mae’r bilen wedi’i pholareiddio
Esboniwch pam mae’r potensial gorffwys yn cael ei greu
1) Mae’r haen ddwbl ffosffolipid yn anathraidd i ionau Na+/K+
2) Dim ond trwy broteinau cynhenid a’r pwmp sodiwm/potasiwm mae’r ionau hyn yn gallu symud ar draws y blien trwy gludiant actif
3) Mae gan rai proteinau cynhenid ‘gatiau’ sy’n gallu agor neu gau i ganiatau/atal symudiad ionau
4) Mae gatiau Na+ yn gadael i ionau Na+ lifo i mewn, mae gatiau K+ yn gadael i ionau K+ lifo allan
5) Mae’r rhan fwyaf o gatiau K+ ar agor ond mae’r rhan fwyaf o gatiau Na+ ar gau. Mae hyn yn golygu bod y bilen 100 gwaith yn fwy athraidd i ionau K+ nag i ionau Na+
66) Mae’r potenisal gorffwys yn negatif bob amser, achos bod yna lai o ionau positif y tu mewn nag sydd y tu allan
Diffiniwch botensial gweithredu
Cynnydd a gostyngiad cyflym y potensial trydanol ar draws pilen niwron wrth i ysgogiad nerfol fynd heibio
Diffiniwch ddadbolaru
Gwrthdroi’r gwahaniaeth potensial ar draws pilen niwron dros dro fel bod y tu mewn yn mynd yn llai negatif o’i gymharu gyda’r tu allan, wrth drosglwyddo potensial gweithredu
Eglurwch beth sy’n digwydd yn ystod y potensial gweithredu
1) Mae’r gatiau Na+ ar gau ac mae rhai gatiau K+ ar agor, sydd, ynghyd a’r pwmp Na+/K+ yn achosi gwahaniaeth potensial gwefr ar draws y bilen o -70mV
2) Mae egni’r symbyliad sy’n cyrraedd yn achosi i gatiau foltedd Na+ agor ac mae ionau Na+ yn llifo i mewn i lawr eu graddiant crynodiad, gan ddadbolaru’r niwron. Nawr mae’r wefr ar draws y bilen yn mynd yn fwy positif achos bod mwy o wefrau positif y tu mewn
3) Wrth i fwy o ionau Na+ fynd i mewn, mae mwy o gatiau’n agor, felly mae mwy fyth o ionau Na+ yn rhuthro i mewn - adborth positif
4) Pan mae’r potensial yn cyrraedd +40mV, mae’r niwron wedi’i ddadbolaru. Mae’r gatiau Na+ yn cau gan atal mwy o ionau Na+ rhag llifo i mewn. Yna mae’r gatiau K+ yn dechrau agor
5) Mae ionau K+ yn llifo allan o’r niwron i lawr eu graddiant crynodiad gan ostwng y graddiant positif ar draws y bilen. O ganlyniad, mae mwy o sianeli K+ yn agor, gan olygu bod mwy fyth o ionau K+ yn gadael y niwron. Mae’r niwron yn cael ei ailbolaru
6) Mae gormod o ionau K+ yn gadael y niwron felly mae’r graddiant trydanol yn mynd dros -70mV ac yn cyrraedd tua -80mV (gorbolaru). I ailsefydlu’r potensial gorffwys, mae’r gatiau K+ yn cau, ac mae’r pwmp Na+/K+ yn ailsefydlu’r potensial gorffwys
Disgrifiwch lledaeniad ysgogiadau mewn niwronau anfyelinedig
1) Mae pilen niwron yn cael ei pholaru
2) Mae sianeli Na+ yn agor felly mae ionau Na+ yn rhuthro mewn i gytoplasm yr acson. Mae cylchred leol y cael ei sefydlu lle mae ionau Na+ yn cael eu pwmpio allan o’r pwmp Na+/K+ cyfagos
3) Mae sianeli Na+ yn y rhan gyfagos o’r bilen yn agor gan achosi dadbolaru
4) Yn y cyfamser, mae sianeli Na+ yn cau, mae sianeli K+ yn agor sy’n achosi ailbolaru y tu ol iddo
Disgrifiwch y gwahaniaeth rhwng lledaeniad ysgogiadau mewn niwronau myelinedig i gymharu a niwronau anfyelinedig
Mewn niwronau myelinedig, dim ond y nodau Ranvier lle does dim myelin yn bresennol y mae ionau’n gallu symud ar draws y bilen, felly mae cylchredau lleol yn sefydlu dros bellteroedd mwy. Dim ond wrth y nodau mae dadbolaru’n digwydd, ac mae’r potensial gweithredu, i bob pwrpas, yn neidio o nod i nod, sy’n cyflymu trosglwyddiad yr ysgogiad
Beth yw arwyddocad y cyfnod diddigwydd?
Does dim modd cynhyrchu potensial gweithredu arall nes bod y potensial gorffwys wedi’i adfer, sy’n sicrhau ysgogiad i un cyfeiriad
Disgrifiwch y cyfanswm cyfnod diddigwydd
Cynrhychioli’r cyfnod pan dydy hi ddim fel arfer yn bosibl anfod ysgogiad arall
Disgrifiwch y cyfnod diddigwydd absoliwt
Pan dydy hi ddim yn bosibl anfod ysgogiad arall, beth bynnag yw maint y symbyliad
Disgrifiwch y cyfnod diddigwydd cymharol
Pan mae’n bosibl anfon ysgogiad arall os yw’r symbyliad yn ddigon mawr i oresgyn y trothwy
Nodwch y deddf popeth neu ddim
Bydd ysgogiadau naill ai’n pasio os ydynt yn fwy na gwerth trothwy neu ddim o gwbl
Disgrifiwch y ffactorau sy’n effeithio ar fuanedd trosglwyddo ysgogiadau
1) Myeliniad - mae dargludiad neidiol yn gyflymach na throsglwyddo ysgogiadau mewn niwronau anfyelinedig, achos dim on yn nodau Ranvier mae dadbolaru’n digwydd. Felly mae’r potensial gweithredu yn neidio o nod i nod. Mae’r gyfradd trosglwyddo yn amrywio.
2) Diamedr yr acson - Mae buanedd trosglwyddo ysgogiadau yn cynyddu gyda diamedr yr acos achos bod llai o ionau’n gollwng o acsonau mwy
3) Tymheredd - Mae buanedd trosglwyddo ysgogiadau yn cynyddu gyda thymheredd gan fod cyfradd tryledu’n cynyddu achos bod gan yr ionau fwy o egni cinetig, ond dim ond mewn organebau sydd ddim yn rheoli tymheredd mewnol eu cyrff
Nodwch swyddogaethau’r synaps
1) Trosglwyddo gwybodaeth rhwng niwronau
2) Trosglwyddo gwybodaeth i un cyfeiriad yn unig
3) Gweithredu fel cysylltau
4) Hidlo symbyliadau lefel isel
5) Atal gorsymbylu niwronau a lludded
Disgrifiwch y broses tu ol i drosglwyddiad synaptig
1) Me ysgogiad yn cyrraedd y bwlyn cyn-synaptig
2) Mae sianeli calsiwm yn agor, gan achosi i ionau calsiwm dryledu’r gyflym i mewn i’r bwlyn cyn-synaptig
3) Mae’r fesiglau sy’n cynnwys niwrodrosglwyddydd asetylcolin yn symud at y bilen gyn-synaptig ac yn asio gyda hi
4) Mae cynnwys y fesiglau’n cael ei ryddhau i’r hollt synaptig drwy gyfrwng ecsocytosis
5) Mae moleciwlau asetylcolin yn tryledu ar draws yr hollt ac yn rhwymo wrth dderbynyddion ar y bilen ol-synaptig gan achosi i sianel sodiwm agor
6) Mae ionau sodiwm yn rhuthro i mewn i’r niwron ol-synaptig gan achosi dadbolaru’r bilen ol-synaptig. Caiff potensial gweithredu ei gychwyn
7) Mae asetylcolinesteras yn hollti’r asetylcolin yn asid ethanoig a cholin, gan eu rhyddhau hwy o’r derbynnydd, ac mae’r sianeli sodiwm yn cau. Mae’r cynhyrchion yn tryledu’n ol ar draws yr hollt
8) Mae’r cynhyrchion yn cael eu hamsugno i mewn i’r bwlyn cyn-synaptig
9) Mae ATP yn cael ei ddefnyddio i atffurfio asetylcolin yn y bwlyn cyn-synaptig
Nodwch y prosesau sy’n atal ailadrodd dadbolaru’r niwron ol-synaptig
1) Hydrolysu asetylcolin
2) Adamsugno asid ethanoig a cholon yn ol i mewn i’r bwlyn cyn-synaptig
3) Cludiant actif ionau calsiwm allan o’r bwlyn cyn-synaptig sy’n atal mwy o ecsocytosis y niwrodrosglwyddydd
Enwch y math o gludiant sy’n digwydd wrth i ionau calsiwm symud i mewn i’r bwlyn cyn-synaptig
Trylediad cynorthwyedig
Enwch a disgrifiwch y dau brif fath o gyffur sy’n cael effaith ar synapsau
1) Cyffroadol fel caffein a chocen sy’n arwain at fwy o botensialau gweithredu
2) Tawelyddion fel canabis sy’n arwain at lai o botensialau gweithredu