Pennod 2 - Ffotosynthesis Flashcards
Beth yw hafaliad ffotosynthesis?
6CO2 + 6H2O -> C6H12O6 + 6O2
Diffiniwch ffotoffosfforyleiddiad
Synthesis ATP o ADP a Pi gan ddefnyddio egni golau
Disgrifiwch y cyfnod golau-ddibynnol
Mae egni golau yn cael ei drawsnewid yn egni cemegol wrth i ffotolysis dwr rhyddhau protonau ac electronau sy’n cynhyrchu ATP
Disgrifiwch y cyfnod golau-annibynnol
Mae ATP ac NADPH o’r adwaith golau-ddibynnol yn rhydwytho carbon deuocsid i gynhyrchu glwcos
Enwch y ddau gynnyrch yn y cyfnod golau-ddibynnol sydd eu hangen yn y cyfnod golau-annibynnol
NADPH ac ATP
Enwch yr adeileddau’r ddeilen
Cwtigl, Epidermis Uchaf, Mesoffyl Palis, Mesoffyl Sbwngaidd, Gwaglyn Aer, Epidermis Isaf, Stoma, Cell Warchod, Siambr Aer Is-Stomataidd
Disgrifiwch sut mae’r ddeilen wedi addasu ar gyfer ffotosynthesis
1) Dail mwy - a.a. mawr
2) Stomata i adael nwyon dryledu drwyddynt
3) Gwagolynnau aer rhwng celloedd i ganiatau i CO2 dryledu i gelloedd
4) Mwy o gloroplastau yn yr haen mesoffyl palis
Diffiniwch drawsddygiaduron
Rhywbeth sy’n trawsnewid egni o un ffurf i ffurf arall
Enwch y pigmentau ffotosynthetig
Cloroffylau gwyrdd, Carotenoidau oren, Santhofyllau glas
Ble mae adweithiau golau-ddibynnol yn digwydd?
Ar bilenni’r thalycoid sy’n cynnwys ensymau a phigmentau ffotosynthetig
Ble mae adweithiau golau-annibynnol yn digwydd?
Yn y stroma ar ffurf cylch
Ar ba ffurf mae egni golau o’r pigmentau ffotosynthetig yn cael ei drosglwyddo?
Protonau
Disgrifiwch strwythur gloroffyl
Yn cynnwys cylch porffyrin gydag elfen magnesiwm neu manganis a chadwyn hydrocarbon hydroffobig. Mae’r pen porffyrin yn hydroffilig
Disgrifiwch y mantais o gael llawer o bigmentau gwahanol
Amsugno amrediad ehangach o donfeddi golau/egni golau
Diffiniwch sbectrwm amsugno
Graff sy’n dangos faint o egni golau sy’n cael ei amsugno ar wahanol donfeddi