Pennod 6 - Effaith Dyn ar yr Amgylchedd Flashcards
Esboniwch sut all difodiant rhywogaeth digwydd
1) Newidiadau yn yr hinsawdd sy’n arwain at lai o lystyfiant a lefelau ocsigen is yn yr atmosffer
2) Gweithgareddau dynol megis datgoedwigo
Rhowch resymau sy’n gallu esbonio pam bydd rhywogaeth mewn perygl
1) Detholiad naturiol - rhywogaethau sydd ddim yn gallu addasu’n ddigon cyflym i newidiadau i’r amgylchedd trwy fwtaniadau ac yn marw o ganlyniad
2) Dinistrio cynefin - Megis datgoedwigo a thorri gwyrchoedd
3) Llygredd
4) Gorhela a chasglu - ar gyfer bwyd, ffasiwn, meddygiaeth draddiodiadol, swfenirs ac addurniadau
5) Gorbysgota ac ecsploetio amaethyddol
6) Cystadleuaeth gan rywogaethau newydd
Diffiniwch gadwraeth
Gwarchod, cynnal, rheoli ac adfer cynefinoedd naturiol a’u cymunedau ecolegol i gynyddu bioamrywiaeth
Eglurwch pam mae cadwraeth yn bwysig
1) Rhesymau moesegol - mae gennym ni ddyletswydd i warchod yr amgylchedd, nid ei niwedio
2) Posibilrwydd o ddefnydio pethau ym mae meddygaeth; mae llawer o gyffuriau wedi cael eu hechdynnu o blanhigion
3) Mae cynnal cyfanswm genynnol iach yn helpu poblogaethau i’w diogelu eu hunain rhag newidiadau amgylcheddol y dyfodol
4) Mae amaethyddiaeth wedi bridio cnydau yn ddetholus o amrywiaethau gwyllt. Yn y dyfodol, efallai bydd angen i ni edrych ar amrywiaethau gwyllt i ddewis alelau addas i dyfu cnydau mewn amgylcheddau llai ffafriol
Rhestrwch dri dull cadwraeth gwahanol
Deddfwriaeth, e.e. CITES neu Gyfarwyddeb Cynefinoedd yr UE, Rhaglenni bridio mewn caethiwed gan gynnwys cronfeydd genynnau; Addysg; Ecodwristiaeth
Diffiniwch ecodwristiaeth
Teithio’n gyfrifol i ardaloedd naturiol mewn ffordd sy’n gofalu am yr amgylchedd ac yn gwella lles pobl leol
Diffiniwch ungnwd
Tyfu cnwd o un rhywogaeth yn unig
Diffiniwch ecsploetio amaethyddol
Cynhyrchu bwyd yn fwy effeithlon a mwy dwys i sicrhau cymaint a phosibl o gynnyrch cnydau er mwyn bwydo poblogaeth sy’n tyfu
Pam mae ffermwyr yn defnyddio dulliau ungnwd?
Bydd angen yr un maetholion ar yr holl blanhigion a’i bod hi’n haws cynaeafu gan gynyddu’r cynnyrch terfynol
Nodwch yr anfanteision dulliau ungnwd
1) Lleihau bioamrywiaeth achos mai dim ond un cynefin sydd
2) Mae’n darparu amgylchedd delfrydol i blau, felly mae’n rhaid defnyddio plaleiddiad a chwynladdwyr
3) Ewtroffigedd
Rhestrwch y rhesymau dros ddatgoedwig
1) I ddefnyddio’r tir ar gyfer amaethyddiaeth - ffa soia, ransio gwartheg a.y.y.b.
2) Biodanwyddau
3) Defnyddiau pren
Nodwch ganlyniadau datgoedwigo
1) Colli cynefinoedd gan leihau bioamrywiaeth
2) Erydiad pridd oherwydd diffyg gwreiddiau coed i rwymo’r pridd gan golli maetholion gwerthfawr yn ystod glawio
3) Mwy o waddodi wrth i’r uwchbridd gael ei symud o lethrau uchel a’i ddyfodi’n bellach i lawr mewn afonydd gan gynyddu’r risg o lifogydd
4) Newid hinsawdd o ganlyniad i lai o garbon deuocsid yn cael ei gymryd i mewn yn ystod ffotosynthesis
5) Llai o drydarthiad, llai o anwedd dwr, llai o law
6) Colli rhywogaethau planhigion a chemegion o blanhigion a allai fod yn ddefnyddiol yn feddyginaethol
7) Diffeithdiro
Diffiniwch brysgoedio
Torri coed yn agos at y ddaear a’u gadael hwy am lawer o flynyddoedd i dyfu eto
Esboniwch y gwahaniaeth rhwng dorri coed yn ddetholus a phrysgoedio
Mae torri coed detholus yn cynaeafu coed unigol, ond mae prysgoedio yn golygu torri pob coeden yn agos at y gwaelod ac yna gynaeafu coesynnau, heb gael gwared ar y coed
Nodwch y dulliau o reoleiddio pysgota
1) Gosod cwotau pysgota yn seiliedig ar amcangyfrifon gwyddonol o faint y stociau pysgod
2) Gorfodi ardaloedd dan waharddiad i atal pysgota mewn mannau lle mae gorbysgota’n digwydd
3) Cyfyngu ar faint rhwyll rhwydi fel mai dim ond pysgod oed cywir sy’n cael eu dal
4) Rhoi pysgod ifanc yn nol yn y mor i adael iddynt atgenhedlu
5) Gorfodi fflydoedd i leihau eu maint
6) Gorfodi tymhorau pysgota i atal pysgota yn ystod tymor bridio