Pennod 1 - Pwysigrwydd ATP Flashcards
Diffiniwch Cemiosmosis
Llif protonau i lawr graddiant electrocemegol, drwy ATP synthetas, ynghyd â synthesis ATP o ADP ac ïon ffosffad
Diffiniwch gyfnewidiwr egni cyffredinol
Mae pob cell yn ei ddefnyddio (ATP) i roi egni i’w hadweithiau
Pam mae ATP yn ddelfrydol i’w swyddogaeth?
- Yn anadweithiol
- Yn gallu symud allan o fitocondria i’r cytoplasm
- Yn rhyddhau egni’n effeithlon
- Yn rhyddhau meintiau defnyddiol o egni, fel nad oes llawer yn cael ei wastraffu ar ffurf gwres
- Yn hawdd ei hydrolysu i ryddhau egni
- Yn hawdd ei ailffurfio drwy gyfrwng ffosfforyleiddiad
Disgrifiwch sut mae adweithiau ocsidio’n darparu egni er mwyn ei ddefnyddio i syntheseiddio ATP
Mae electronau o atomau hydrogen yn cael eu trosglwyddo o foleciwl rhoddwr i dderbynnydd. Yna, mad cyfres o adweithiau yn trosglwyddo’r electronau o un moleciwl i’r nesaf ar hyd cadwyn. Mae pob trosglwyddiad yn adwaith rhydocs
Disgrifiwch y broses sy’n dilyn i fyny tuag at gemiosmosis
Mae’r egni sy’n cael ei ryddhau gan yr adweithiau ocsidio’n pwmpio’r protonau o’r atomau hydrogen ar draws pilen fel eu bod nhw’n fwy crynodedig ar un ochr i’r bilen na’r llall. Mae’r gwahaniaeth rhwng y crynodiad protonau a’r wefr ar y naill ochr a’r llall i’r bilen yn gwneud graddiant electrocemegol, ac mae’n ffynhonnell egni potensial. Mae protonau’n llifo’n ôl i lawr y graddiant hwn, mewn proses o’r enw cemiosmosis, drwy’r ensym ATPas. Yr egni a rhyddheir wrth iddynt wneud hyn yn cael ei drawsnewid yn egni cemegol mewn ATP
Nodwch y tebygolrwydd rhwng synthesis ATP mewn mitocondria a chloroplastau
- Defnyddio ATP Synthetas
- 2 broton yn darparu egni i syntheseiddio 3 ATP
- Pwmp protonau ar draws pilen fewnol yr organyn
- Cadwyn trosglwyddo electronau ar bilen fewnol yr organyn
Mewn y systemau trosglwyddo electronau a synthesis ATP ym mitocondria a chloroplastau, disgrifiwch sut mae’r math o ffosfforyleiddiad yn wahanol
Mitocondria -
Ffosfforyleiddiad ocsidiol
Cloroplastau -
Ffotoffosfforyleiddiad
Mewn y systemau trosglwyddo electronau a synthesis ATP ym mitocondria a chloroplastau, disgrifiwch y gwahaniaeth yn ffynhonnell egni
Mitocondria -
Egni cemegol mewn adweithiau rhydocs
Cloroplastau -
Golau
Mewn y systemau trosglwyddo electronau a synthesis ATP ym mitocondria a chloroplastau, disgrifiwch sut mae’r cydensymau’n wahanol
Mitocondria -
NAD, FAD
Cloroplastau -
NADP
Mewn y systemau trosglwyddo electronau a synthesis ATP ym mitocondria a chloroplastau, disgrifiwch sut mae’r graddiant protonau’n wahanol
Mitocondria -
Gofod rhyngbilennol -> matrics
Cloroplastau -
Gofod thylacoid -> stroma
Mewn y systemau trosglwyddo electronau a synthesis ATP ym mitocondria a chloroplastau, disgrifiwch sut mae’r nifer y pympiau proton yn wahanol
Mitocondria -
3 â NAD; 2 â FAD
Cloroplastau -
1
Mewn y systemau trosglwyddo electronau a synthesis ATP ym mitocondria a chloroplastau, disgrifiwch sut mae’r derbynnydd electronau terfynol yn wahanol
Mitocondria - Ocsigen a H+ Cloroplastau - Ffotoffosfforyleiddiad cylchol: Cloroffyl, Ffotoffosfforyleiddiad anghylchol: NADP + H+