Pennod 3 - Resbiradaeth Flashcards
Diffiniwch resbiradaeth;
1) Aerobig
2) Anaerobig
1) Rhyddhau symiau mawr o egni ar ffurf ATP drwy ymddatod moleciwlau. Ocsigen yw’r derbynnydd electronau terfynol.
2) Rhyddhau symiau cymharol fach o egni ar ffurfi ATP drwy ymddatod moleciwlau yn absenoldeb ocsigen, drwy gyfrwng ffosfforyleiddiad lefel swbstrad
Diffiniwch ddadhydrogeniad
Ensymau dadhydrogenas yn tynnu atomau hydrogen o ryngolynnau
Rhowch hafaliad cyffredinol resbiradaeth aerobig
C6 H12 O6 + 6CO2 –> 6H2 O + 38ATP
Diffiniwch ddatgarbocsyleiddiad
Ensymau datgarbocsyleiddiad yn tynnu carbon deuocsid o ryngolynnau
Faint o ATP, NADH, FADH, CO2 a H2O sy’n cael eu cynhyrchu i bob moleciwl glwcos yn ystod;
1) Glycolysis
2) Adwaith cyswllt
3) Cylchred Krebs
4) Cadwyn Cludo Electronau
1) 2 ATP, 2 NADH, 0 FADH, 0 Carbon Deucosid, 0 dwr
2) 0 ATP, 2 NADH, 0 FADH, 2 Carbon Deuocsid, 0 dwr
3) 2 ATP, 6 NADH, 2 FADH, 4 Carbon Deuocsid, 0 dwr
4) 34 ATP*, 0 NADH, 0 FADH, 0 Carbon Deuocsid, 6 dwr
* O 10 NADH x 3 = 30 ATP a 2 FADH x 2 = 4 ATP = 34 ATP
Esboniwch swyddogaeth ocsigen yn y gadwyn troglwyddo electronau
Ocsigen yw’r derbynnydd electronau terfynol. Hebddo, dydy electronau ddim yn gallu gadael y pwmp proton olaf, felly does dim graddiant electrocemegol yn cael ei greu
Disgrifiwch yr adweithiau sy’n digwydd yn ystod resbiradaeth anaerobig mewn anifieiliaid a phlanhigion
Anifeiliaid:
Pyrwfad -NADH i NAD- +2H wedi’i rydwytho – —–> Lactad
Planhigion/burum
Pyrwfad - colli CO2 wedi’i ddargarbocsyleiddo —-> Ethanal -NADH i NAD- +2H wedi’i rydwytho —–> Ethanol
Eglurwch y broses Glycolysis
Mae’n broses ocsigen-annibynnol sy’n digwydd yn y cytoplasm.
1) Mae glwcos yn cael ei ffosfforyleiddio i gynhyrchu glwcos deuffosffad gan ei wneud yn fwy adweithiol ac yn ei wneud yn haws i hollti i drios ffosffad.
2) Mae 2NAD yn cael eu rhydwytho i ffurfio NADH wrth ddadhydrogenu trios ffosffad
3) Mae 4ATP yn cael eu cynhyrchu gan ffosfforyleiddiad lefel swbstrad, ac mae pyrwfad yn cael ei gynhyrchu. Gan fod 2 ATP yn cael eu defnyddio i ffosfforyleiddio glwcos, y cynnydd net yw 2ATP
Eglurwch yr Adwaith Cyswllt
Proses ocsigen-ddibynnol sy’n digwydd ym matrics y mitocondrion, felly rhaid i’r pyrwfad dryledi i fewn i’r mitocondria. Oherwydd mae yna dau foleciwl o byrwfad, mae’r broses yn digwydd ddwywaith am bob moleciwl glwcos.
1) Mae pyrwfad yn tryledi i fewn i fatrics y mitocondrion lle mae’n cael ei ddadhydrogenu ac mae’r hydrogen sy’n cael ei ryddhau yn rhydwytho NAD
2) Mae’r pyrwfad yn cael ei ddatgarbocsyleiddio, gan gynhyrchu asetyl
3) Mae cydensym A yn cael ei ychwanegu i ffurfio asetyl CoA sy’n mynd i gylchred Krebs
Pam oes rhaid ymddatod glwcos i byrwfad cyn iddo dryledu i mewn i’r mitocondrion?
Ni all y glwcos dryledu i fewn oherwydd mae’n moleciwl rhy fawr. Hefyd, nid oes gan y mitocondrion yr ensymau ar gyfer glycolysis
Eglurwch y Cylchred Krebs
Proses ocsigen-ddibynnol sy’n digwydd ym matrics y mitocondrion. Digwyddir ddwywaith am bob moleciwl glwcos
1) Mae asetyl CoA yn uno ag asid[4c] i gynhyrchu asid[6]. Mae’r asid[6] yn cael ei ddatgarbocsyleiddio, gan ryddhau 1 moleciwl CO2 a’i ddadhydrogenu, gan rydwytho 1 moleciwl NAD
2) Mae’r asid[5] canlyniadol yn cael ei ddatgarbocsyleiddio, gan ryddhau 1 moleciwl CO2 a’i ddadhydrogenu gan rydwytho 2 foleciwl NAD ac 1 moleciwl FAD
3) Mae ATP yn cael ei gynhyrchu’n uniongylchol drwy gyfrwng ffosfforyleiddiad lefel swbstrad
4) Mae’r asid[4] canlyniadol yn cyfuno ag asetyl CoA ac mae’r gylchred yn ailadrodd
Eglurwch y Cadwyn Cludo Electronau
Proses ocsigen-ddibynnol sy’n digwydd ar bilen fewnol mitocondrion sef y cristau.
1) Mae NADH yn uno gyda’r pwmp proton cyntaf, ac yn cael ei ddadhydrogenu, gan ryddhau’r atomau hydrogen sy’n hollti’n brotonau ac electronau.
2) Mae’r protonau’n cael eu pwmpio ar draws y bilen gan ddefnyddio egni o’r electronau egni uchel wrth i’r electronau fynd i’r pwmp protonau nesaf
3) Wrth i’r electronau fynd heibio i’r ail bwmp protonau, maen nhw’n darparu egni i bwmpio par arall o brotonau o’r matrics i’r gofod rhyngbilennol
4) Mae’r electronau’n mynd heibio i’r trydydd pwmp protonau; mae dau broton arall yn cael ei pwmpio ar draws gan greu graddiant protonau
5) Wrth i’r electronau gyrraedd y derbynnydd electronau terfynol (ocsigen), mae dau broton yn mynd yn ol i mewn i’r matrics drwy’r gronyn coesog (ATP Synthetas) i lawr y graddiant protonau gan ffosfforyleiddio ADP i ffurfio ATP
6) Rydym ni’n cyfeirio at symudiad y protonau yma fel cemiosmosis
7) Mae dwr yn ffurfio o 2H+ , 2e- ac 0.5O2
8) Mae NADH yn defnyddio tri phwmp protonau felly mae’n cynhyrchu 3ATP
9) Mae FADH yn uno yn yr ail bwmp proton felly defnyddir dau bwmp mae’n eu defnyddio felly cynhyrchi 2ATP