Pennod 7 - Homeostasis a'r Aren Flashcards
Diffiniwch adborth negatif
Y mecanwaith lle mae’r corff yn gwrthdroi cyfeiriad newid mewn system i adfer y pwynt gosod
Disgrifiwch y broses homeostasis
1) Mewnbwn - Newid oddi wrth y pwynt gosod
2) Derbynnydd - Synhwyrydd sy’n canfod y newid oddi wrth y pwynt gosod
3) Canolfan Rheoli - Neu gydlynydd sy’n canfod signalau o’r derbynyddion ac yn cydlynu ymateb gan effeithyddion megis yr hypothalamws
4) Effeithydd - Yn gwneud newidiadau sy’n dod a’r corff yn ol at y pwynt gosod
5) Allbwn - Gweithdrefn gywiro
Gwahaniaethwch rhwng ysgarthu a charthu
Ysgarthu - gwaredu gwastraff mae’r corff wedi’i gynhyrchu
Carthu - Gwaredu gwastraff sydd ddim wedi’i wneud gan y corff megis bwyd heb ei dreulio
Diffiniwch osmoreolaeth
rheoli potensial dwr hylifau’r corff drwy reoleiddio cynnwys dwr y corff
Enwch brif swyddogaethau’r aren
1) Ysgarthiad
2) Osmoreolaeth
Nodwch y prif brosesau sy’n digwydd yn y neffron a ble maent y digwydd ynddo
1) Uwch-hidlo - Yng nghwpan Bowman
2) Adamsugniad detholus - Yn y tiwbyn troellog procsimol
3) Osmoreolaeth - Yn nolen Henle a’r dwythellau casglu
Disgrifiwch uwch-hidliad
Mae’r rhydweliyn arferol yn lletach na’r rhydweliyn echddygol, sy’n creu pwysedd gwaed uwch nag sy’n normal yn y glomerwlws. Mae sylweddau gyda mas moleciwlaidd cymharol -mmc- <68,000 yn cael eu gorfodi allan i gwpan Bowman gan gynnwys glwcos, aisdau amino, halwynau, dwr ac wrea, gan ffurfio’r hidlif glomerwlaidd. Protienau gyda mmc >68,000 yn aros yn y gwaed gyda’r celloedd gan eithrio’r hormon HCG, sy’n cael ei ganfod i brofi beichiogrwydd
Nodwch y ffactorau sy’n gwrthsefyll symudiad yr hidlif yn ystod uwch-hidliad
1) Epitheliwm capilariau, sy’n cynnwys mandyllau o’r enw ffenestri
2) Pilen waelodol cwpan Bowman, sy’b gweithredu fel gogr (sieve)
3) Mur y cwpan Bowman wedi’i wneud o gelloedd epithelaidd cennog arbenigol iawn sef podocytau. Mae hidlif yn llifo rhwng eu canghennau (pedicelau)
4) Gwasgedd hydrostatig yn y cwpan
5) Potensial dwr isel y gwaed yn y glomerwlws
Nodwch ble yn yr aren byddech chi’n gweld cwpanau Bowman
Yn y cortecs
Diffiniwch gludiant actif eilaidd
Cyplu trylediad e.e. trylediad ionau sodiwm, i lawr graddiant electrocemegol i ddarparu egni i gludiant actif glwcos yn erbyn ei raddiant crynodiad
Disgrifiwch sut mae ionau mwynol a halwynau yn cael eu hadamsugno
Trylediad cynorthwyedig a chludiant actif i mewn i gelloedd epithelaidd
Disgrifiwch sut mae glwcos ac asidau amino’n cael eu hadamsugno
Cludiant actif eilaidd gan ddefnyddio mecanwaith cydgludiant gydag ionau sodiwm. Mae glwcos yn cael ei gydgludo gyda dau ion sodiwm drwy gyfrwng trylediad cynorthwyedig i mewn i’r gell. Mae sodiwm a glwcos yn symud ar wahan i mewn i’r capilariau
Disgrifiwch sut mae dwr yn cael ei adamsugno
Trwy gyfrwng osmosis
Disgrifiwch sut mae rhai proteinau wedi’u hidlo ac wrea’n cael eu hadamsugno
Trwy gyfrwng trylediad
Disgrifiwch sut mae’r tiwbyn troellog procsimon wedi addas ar gyfer adamsugno
1) Mae gan y celloedd sy’n leinio’r tiwbyn arwynebedd arwyneb mawr achos presenoldeb microfili a sianelau gwaelodol. Mae yna hefyd niferoedd o neffronau
2) Mae celloedd yn cynnwys llawer o fitocondria sy’n darparu ATP ar gyfer cludiant actif hydoddion
3) Cysylltiad agos gyda chapilariau sy’n creu llwybr tryledu byr rhwng celloedd a’r capilariau peritiwbaidd
4) Cysylltau tynn rhwng celloedd cyfagos sy’n atal y defnyddiau wedi’u hadamsugno rhag gollwng yn ol i mewn i’r hidlif
Esboniwch pam mae glwcos yn gallu bod yn bresennol yn nhroeth cleifion diabetes
Mae gormod o glwcos yn bresennol yn hidlif y glomerwlws i gael ei adamsugno yn y tiwbyn troellog procsimol, felly mae rhywfaint ohono’n aros
Disgrifiwch ac eglurwch hyd dolenni Henle mewn mamolion sydd wedi esblygu mewn cynefinoedd sych
Yn hirach achos maen nhw’n cynhyrchu troeth mwy crynodedig oherwydd bod mwy o ionau Na+ a Cl- yn gallu gadael yr aelod disgynnol drwy gyfrwng cludiant actif
Pam mae rheoli potensial dwr y corff yn bwysig mewn anifeiliaid?
Cynnal crynodiadau enymau a metabolynnau, ac yn atal celloedd rhag byrstio neu fyd yn hiciog
Disgrifiwch sywddogaeth dolen Henle
Adamsugno rhywfaint o ddwr. Ei phrif swyddogaeth yw cynyddu crynodiad ionau yn rhan interstitaidd y medwla, sy’n caniatau i’r ddwythell gasglu adamsugno dwr
Disgrifiwch y broses osmoreolaeth sy’n digwydd yn nolen Henle a’r ddwythell gasglu
1) Ionau Na a Cl um cael eu pwmpio’n actif allan o’r aelod esgynnol gan gynyddu’r crynodiad ionau yn y rhan interstitaidd
2) Mae muriau’r aelod disgynnol yn athraidd i ddwr, felly mae dwr yn gadael drwy gyfrwng osmosis i mewn i’r rhan interstitaidd cyn mynd i’r capilariau (fasa recta)
3) Mae dwr yn cael ei golli’n raddol i lawr yr aelod disgynnol
4) Mae crynodiad yr hidlif yn lleihau yn lwmen y neffron yn yr aelod esgynnol, achos bod ionau Na a Cl yn cael eu pwmpio allan yn actif
5) Mae hyn yn creu graddiant crynodiad ionau sy’n cynyddu yny rhan interstitaidd tuag at waelod y ddolen
6) Mae dwr yn gadael y ddwythell gasglu drwy gyfrwng osmosis i mewn i’r rhan interstitaidd cyn mynd i’r fasa recta
7) Wrth i ddwr adael yr hidlif yn y ddwthell gasglu, mae crynodiad yr hidlif yn cynyddu, ond mae bob amser yn is na’r hylif yn rhan interstitaidd y medwla, felly bydd dwr yn parhau i adael drwy gyfrwng osmosis. Gelwir y llif yn lluosydd gwrthgerrynt, Mae hyn yn sicrhau bod crynodiad yr hidlif bob amser yn is na’r hylif interstitaidd yn y medwla
Diffiniwch hormon gwrthddiwretig
Hormon sy’n cael ei gynhyrchu gan yr hypothalamws a’i secretu gan y chwarren bitwidol ol. Mae’n gwneud celloedd y tiwbyn troellog distal a muriau’r ddwythell gasglu’n fwy athraidd i ddwr, sy’n arwain at adamsugno mwy o ddwr a throeth crynodedig
Sut mae ADH yn cael ei gludo i’r aren?
Wedi hydoddi yn y plasma
Disgrifiwch ymateb y corff wrth yfed gormod o ddwr
1) Osmodderbynyddion yn yr hypothalamws yn synhwyro’r newid
2) Neges yn mynd i’r chwarren bitwidol ol
3) Mae’n secretu llai o ADH
4) Y tiwbyn troellog distal a’r ddwythell gasglu’n llai athraidd
5) Adamsugno llai o ddwr i’r gwaed gan gynhyrchu troeth gwanedig
Disgrifiwch ymateb y corff wrth beidio ag yfed digon o ddwr
1) Osmodderbynyddion yn yr hypothalamws yn synhwyro’r newid
2) Neges yn mynd i’r chwarren bitwidol ol
3) Mae’n secretu mwy o ADH
4) Y tiwbyn troellog distal a’r ddwythell gasglu’n fwy athraidd
5) Adamsugno mwy o ddwr i’r gwaed gan gynhyrchu troeth crynodedig