Pennod 5 - Maint Poblogaeth ac Ecosystemau Flashcards
Diffiniwch;
1) Poblogaeth
2) Cynefin
1) Cyfanswm y nifer yr organebau o un rhywogaeth sy’n rhyngfridio mewn cynefin
2) Y lle ffisegol lle mae organeb yn byw
Diffiniwch
1) Cyfradd geni
2) Mewnfudo
1) Nifer yr unigolion newydd sy’n ymddangos o ganlyniad i atghenhedlu i bob uned amser
2) Symudiad unigolion i mewn i boblogaeth
Rhowch hafaliad ar gyfer maint poblogaeth
Maint poblogaeth = Cyfradd geni + Mewnudo - (Cyfradd marw + allfudo)
Rhowch y pedwar cyfnod twf gwahanol sy’n digwydd i organebau dros amser
Cyfnod;
1 - Oedi
2 - Esbonyddol
3 - Digyfnewid
4 - Marwolaeth
Diffiniwch;
1) Ffactor fiotig
2) Ffactor anfiotig
1) Ffactor byw megis ysglyfaethwr neu bathogen, sy’n gallu dylanwadu ar y boblogaeth
2) Ffactor anfyw megis ocsigen sydd ar gael neu dymheredd yr aer sy’n gallu dylanwadu ar y boblogaeth
Diffiniwch gynhwysedd cludo
Y nifer uchaf y mae poblogaeth yn amrywio o’i gwmpas mewn amgylchedd penodol
Diffiniwch adborth negatif
Digwydd mewn ecwilibriwm lle mae’r mecanwaith cywiro i’r cyfeiriad dirgroes i gyfeiriad y newid
Pa dechneg samplu y byddech yn defnyddio ar gyfer;
1) Anifeiliaid daearol
2) Infertebratau dwr croyw
3) Planhigion?
1) Marcio-rhyddhau-ail-ddal a defnyddio Indecs Lincoln
2) Samplu cicio a defnyddio Indecs Simpson
3) Cwadratau a thrawsluniau
Diffiniwch ecosystem
Cymuned lle mae egni a mater yn cael eu trosglwyddo mewn rhyngweithiadau cymhleth rhwng yr amgylchedd ac organebau
Diffiniwch gynhyrchydd
Yr organeb awtotroffig ar ddechrau cadwyn fwyd sy’n trawsnewid egni golau yn egni cemegol
Diffiniwch lefel droffig
Y lefel bwydo o fewn cadwyn bwyd sy’n dangos
Esboniwch pam nad ydy’r rhan fwyaf o egni’r haul yn cael ei drosglwyddo i blanhigyn
- Ar donfedd anghywir
- Yn cael ei adlewyrchu gan arwyneb y ddeilen
- Yn mynd trwy’r ddeilen heb daro moleciwl cloroffyl
Rhowch hafaliad ar gyfer effeithlonrwydd ffotosynthetig
Effeithlonrwydd = Faint o egni golau mae’r planhigyn yn ei sefydlogi x 100 / Faint o egni golau sy’n taro’r planhigyn
Diffiniwch gynhyrchedd cynradd crynswth
Cyfradd cynhyrchu egni cemegol mewn moleciwlau organig drwy gyfrwng ffotosynthesis mewn arwynebedd penodol, mewn amser penodol, wedi’i fesur mewn kJm-1bl-1
Diffiniwch gynhyrchedd cynradd net
Yr egni yn biomas y planhigyn sydd ar gael i ysyddion cynradd, wedi’i fesur mewn kJm-1bl-1
Rhowch hafaliad sy’n cysylltu cynhyrchedd cynradd crynswth (CCC) a chynhyrchedd cynradd net (CCN)
CCN = CCC - R
lle mae R = Resbiradaeth
Disgrifiwch beth sy’n digwydd i egni wrth fynd trwy’r gadwyn bwyd
Mae’r egni yn cael ei drosglwyddo ar ffurf biomas o un lefel droffig i’r nesaf yn gymharol isel. Mae’r rhan fwyaf yn cael ei golli trwy resbiradaeth, ysgarthu a gwres. Nid yw’r effeithlonrwydd trawsnewid yn wych
Rhowch hafaliad ar gyfer cyfrifo effeithlonrwydd trosglwyddo egni
Effeithlonrwydd % = Sefydlogi egni ar ffurf biomas x 100 / Egni sydd ar gael i’r lefel droffig nesaf