Seicoleg Ddatblygiadol: Kohlberg (1968) Flashcards

1
Q

Kohlberg (1968) Methodoleg

A
  • 75 o fechgyn americanaidd rhwng 10 ac 16 oed (wedi dilyn am 12 mlynedd = astudiaeth wedi gorffen pan oedd nhw’n 22-28 oed)
  • sampl ychwanegol o brydain, canada, taiwan, mexico, a Turkey
  • astudiaeth hydredol
  • cyfweliad lled-strwythuredig gyda cwestiynau pen agored sy’n cynhyrchu data ansoddol
How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
2
Q

Kohlberg (1968) gweithdrefnau

A
  • Wedi creu 9 cyfyng-gyngor (dilemma) moesol a gofyn i’r bechgyn benderfynu ar y ffordd gywir o weithredu, a beth yw’r peth moesol i’w wneud
  • gofynnwyd i bob cyfranogwyr drafod tri o’r cyfyng-gyngor yma wedi’u hysgogi gan gyfres o ddeg neu fwy o gwestiynau pen agored megis ‘a ddylai heinz ddwyn y gyffur?’ (Mae gwraig heinz ar fun marw ac roedd y cyffur yn rhy costus i heinz prynu gan fod y gweinyddwr cyffyuriau wedi codi deg gwaith yr hyn yr oedd y cyffur yn ei gostio iddo ei wneud)
  • roedd hyn yn fath o gyfweliad lled-strwythuredig a cynhyrchodd data ansoddol
  • dadansoddwyd eu humatebion a nodwyd themau cyffredinol = defnyddwyd y themau hyn fel sail i sefydlu y camau datblygu moesol
  • roedd ymchwil Kohlberg yn astudiaeth hydredol ac felly aseswyd y plant gyda chyfweliad tebyg bob dair mlynedd
  • cynmharodd Kohlberg ei ganfyddiadau gyda rhai o ddiwylliannau eraill i weld a oedd gwahaniaethau diwylliannol mewn datblygiad moesol
How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
3
Q

Kohlberg (1968) canfyddiadau

A
  • ffeindiodd fod 6 cam o ddatblygu’n moesol, sy’n gwasgaru ar ddraws 3 cyfnod:
  • cyn-gonfensiynol

Cam 1. Osgoi cosb
Cam 2. Hunan-diddordeb (megis gwobrau)

  • confensiynol

Cam 3. Ymddygiad ‘bechgyn / merch dda’ h.y. Yr hyn sy’n iawn yw beth mae pobl eraill yn cytuno gyda
Cam 4. Dilyn deddfau a trefn cymdeithasol

  • ol-gonfensiynol

Cam 5. Rheolau yn cael ei weld fel cytundebau cymdeithasol sy’n gallu newid
Cam 6. Egwyddorion byd-eang moesol a chyfiawnder yw beth sy’n gywir

  • canfu Kohlberg, waeth beth fo’u diwylliant, fod pob plentyn wedi mynd trwy’r un camau yn yr un drefn
  • fodd bynnag, roedd gwahaniaethau o ran pa mor gyflym yr oeddent yn symud trwy’r camau, er enghraifft yn yr UDA roedd mwyafrif y plant 16 oed yn camau 4 neu 5 tra fod mwyafrif o’r plant 16 oed yn TAIWAN a MEXICO yn cam 3 neu 4
  • ym mhob diwylliant, roedd plant yn y dosbarthiadau canol yn datblygu’n gyflymach
  • nad oedd crefydd yn cael fawr o effaith ar datblygiad moesegol
How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
4
Q

Kohlberg (1968) casgliadau

A
  • camau a cyfnodau yn byd-eang (yr unig gwahaniaeth yw pa mor cyflym mae pobl yn datblygu)
  • mae pob cam yn adeiladu ar y llwyfan a ddaeth yn flaenorol, ond yn caniatau ar gyfer gwahaniaethau newydd e.e. Mewn dadl rhwng plentyn yn cam 4 ac cam 3, mae’r cam 3 yn dechrau datblygu i cam 4 tra fod y cam 4 yn aros yn cam 4 ond yn deall beth mae’r cam 3 yn dweud
  • gellid defnyddio trafodaethau moesol i helpu plant i ddatblygu eu rhesymu moesol
How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
5
Q

Kohlberg (1968) Gwerthuso - samplu

A
  • dim ond yn edrych ar fechgyn
  • Gilligan (1982) = wedi awgrymu y gallai moesoldeb gwrywod fod yn eithaf gwahanol i foesoldeb benywod - ac yn seiliedig ar gyfiawnder yn hytrach na’r arwydd i ofalu = awgrymu fod tuedd ryweddol i ddamcaniaeth Kohlberg a’i bod yn gyfyngedig i un math yn unig o foesoldeb
How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
6
Q

Kohlberg (1968) Gwerthuso - dilysrwydd allanol

A
  • Gilligan (1982) = nad oedd y dystiolaeth ynddo wedi’i seilio ar benderfyniadau mewn bywyd go-iawn gan mau sefyllfaoedd ‘ffug’ oedd y gyfyng-gyngorau moesol (efallai na wnaethon nhw fawr o synnwyr, yn enwedig i blant ifanc)
How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
7
Q

Kohlberg (1968) Gwerthuso - tuedd dymunolrwydd cymdeithasol

A
  • un o broblemau dulliau hunanadrodd yw ei bod hi’n well gan gyfranogwyr wneud argraff dda
  • felly, gallan nhw ddisgrifio’u hymddygiad moesol mewn ffordd braidd yn ddelfrydol yn hytrach na’r arwydd dweud beth y bydden nhw mewn gwirionedd yn ei wneud. Ar ben hynny, roedd Kohlberg yn gofyn sut mae pobl yn meddwl yn hytrach na’r hyn y bydden nhw’n ei wneud. Felly, mae’r damcaniaeth yn ymwneud a meddwl yn delfrydol-foesol yn hytrach na meddwl am ymddygiad
  • Ond, a bod yn deg, honnai Kohlberg mai damcaniaeth rhesymu oedd hi = Rhagfynegodd y dylai’r rhai sy’n rhesymu’n fwy aeddfed fod a tuedd i ymddwyn yn fwy moesol-aeddfed (Kohlberg 1975)
How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly