Dilysrwydd Flashcards
1
Q
Dilysrwydd - Dilysrwydd mewnol
A
- mesur beth ni’n bwriadu mesur (gan fod y newidynnau dryslud wedi rheoli)
- dilysrwydd mewnol yn ymwneud a pethau fel:
- Ai’r newidyn annibynnol achosodd newid yn y newidyn dibynnol (neu newidynnau dryslyd/allanol?)
- A roddod yr ymchwilydd brawf ar yr hyn y bwriadai rhoi prawf arno yr hyn y bwriadai rhoi prawf arno? E.e. Os yw’n ymchwiliad i fewn i effaith gwylio teledu rhaid sicrhau fod y cyfranogwyr yn GWYLIO’R teledu, nid dim ond fod y teledu ymlaen
- a oedd rhealaeth gyffredin i’r astudiaeth
2
Q
Dilysrwydd - dilysrwydd allanol
A
- ydy’r ymchwiliad yn greu wir darlun o ymddygiad go iawn?
- rhaid gallu cyffredinoli’r canlyniadau, ac felly rhaid ystyried y canlynol:
- Lleoliad ymchwil (dilysrwydd ecolegol) = rhaid fod yn cynrychiadol o amgylchedd go iawn
- Y cyfranogwyr (dilysrwydd poblogaeth) = rhaid fod yn cynrychiadol o’r holl boblogaeth, nid dim ond (fel enghraifft) dynion americanaidd
- Y cyfnod hanesyddol (dilysrwydd hanesyddol) = rhaid fod yn gyfoes am fod ffactorau sy’n achosi ymddygiad penodol yn newid dros amser
3
Q
Dilysrwydd - bygythiadau - Nodweddion awgrymu ymateb
A
- gall cyfranogwyr cael syniad o beth sy’n cael eu astudio (er y gallen nhw fod yn gwbl anghywir)
- mae hyn yn dylanwadu ar ymddygiad yr unigolyn oherwydd mae nhw’n trio helpu’r canlyniadau neu tanseilio’r gwaith
- i ddelio a’r mater hyn, gallwn cadw’r amgylchedd yn niwtral, defnyddio ymchwilwyr amrywiol, hyfforddi ymchwilwyr yn dda ac casglu data rhifol
4
Q
Dilysrwydd - bygythiadau - tuedd arbrofwr / ymchwilydd
A
- y modd mae’r arbrofwr yn cyflwyno gwybodaeth i’r cyfranogwyr (e.e. Trwy ystumiau wyneb neu iaith corff)
- arbrofwr yn arwain y cyfranogwyr i gyfeiriad arbennig mewn rhyw modd
5
Q
Dilysrwydd - bygythiadau - dymunoldeb cymdeithasol
A
- mewn astudiaeth hunan-adrodd, gall yr unigolyn roi atebion sy’n cyd-fynd a disgwyliadau cymdeithas yn hytrach na’u gwir barn neu deimlad
6
Q
Dilysrwydd - bygythiadau - tuedd arsylwr
A
- yn amlwg, wrth defnyddio unrhyw dechneg o ymchwil arsylwol bydd tuedd yr asylwr yn chwarae rol yn y canlyniadau
- yr esboniad am hyn yw bod gan bob unigolyn ei syniadau a’i farn eu hun ar labelu ymddygiad penodol, ac mae’n amlwg y bydd rhain yn cael eu trosglwyddo i ryw raddau i sylwadau’r arsylwr, boed hynny’n ymwybodol neu beidio
- mae enghreifftiau o duedd yn cynnwys tuedd diwylliannol, tuedd rhywiol, tuedd oedran ayyb
7
Q
Dilysrwydd - sut i oresgyn bygythiadau - cynllun sengl-dall
A
- cyfranogwyr ddim yn gwybod y nod
8
Q
Dilysrwydd - sut i oresgyn bygythiadau - cynllun dwbl-dall
A
- cyfranogwyr a’r person sy’n cynnal yr arbrawf ddim yn gwybod y nod
9
Q
Dilysrwydd - sut i oresgyn bygythiadau - realaeth arbrofol
A
- rhaid fod y tasg yn ddigon diddorol er mwyn i’r cyfranogwyr anghofio bod nhw’n cael eu arsylwi