Materion Moesegol Flashcards
1
Q
Materiion Moesegol - Cyfrinachedd
A
- gall fod yn anodd diogelu cyfrinachedd am fod yr ymchwilydd yn awyddus i gyhoeddi’r darganfyddiadau
- gall ymchwilydd warantu anhysbysedd (sef peidio a datgelu enwau’r cyfranogwyr), ond hyd yn oed wedyn fe allai fod yn amlwg pwy sydd wedi cymryd rhan mewn yr astudiaeth
- mae’r ddeddf dioeglu data’n wneud cyfrinachedd yn hawl gyfreithiol.
- mae hi ond yn dderbyniol i ddata personol gael eu cofnodi os na threfnir i’r ddata fod ar gael mewn sawl ffurf sy’n fodd i adnabod y cyfranogwyr
2
Q
Materiion Moesegol - Cydsyniad dilys
A
- cydsyniad dilys = dadlennu gwir nodau’r astudiaeth neu o leiaf ddweud wrth y cyfranogwyr beth sy’n mynd i ddigwydd
- ond gall dadlenu’r manylion beri i’r cyfranogwyr ddyfalu beth yw nodau’r astudiaeth e.e. Gallai seicolegydd fod yn awyddus i ymchwilio i weld a yw pobl yn fwy ufudd i athro nag i athrawes, ac od caiff y cyfranogwyr wybod nod yr arbrawf cyn i’r astudiaeth cael ei wneud, gallai hynny newid y ffordd y byddan nhw’n ymddwyn ac gallan nhw geisio bod yr un mor ufudd i’r naill a’r llall
- dylai’r cyfranogwyr cael gwybod yr hyn y bydd gofyn iddyn nhw ei wneud yn yr astudiaeth er mwyn iddyn nhw allu penderfynu’n wybodus a fyddan nhw’n dymuno cymryd rhan ynddi
- Epstein a Lasagna (1969) = gwelodd mai taean yn unig o’r cyfranogwyr a wirfoddolodd ar gyfer arbrawf oedd yn deall yn iawn yr hyn roedden nhw wedi cytuno i gymryd rhan ynddo
3
Q
Materiion Moesegol - Twyllo
A
- gall fod angen twyllo’r cyfranogwyr ynghylch gwir nodau’r astudiaeth, fel arall gallai’r cyfranogwyr newid eu hymddygiad a difetha’r astudiaeth
- ond, dylid gwahaniaethu rhwng dal rhai o fanylion yr ymchwil yn ol (sy’n rhesymol a dderbyniol) a mynd ati’n fwriadol i roi gwybodaeth ffug (sy’n llai derbyniol)
- ni ddylai’r ymchwilwyr twyllo heb achos dda
- bydd twyllo’n rhwystro cyfranogwyr rhag gallu rhoi cydsyniad dilys h.y. Gallan nhw cytuno i gymryd rhan heb wybod yn union beth mae nhw’n cymryd rhan ynddi
- gall twyllo hefyd beri i bobl weld seicolegwyr fel pobl na gallech ymddiried ynddo nhw
- efallai na fydd cyfranogwyr eisiau cyfranu yn unrhyw astudiaethau yn y dyfodol ar ol cael eu twyllo
4
Q
Materiion Moesegol - Y risg o niwed
A
- anodd rhagfynegi canlyniad astudiaeth = anodd gwarantu diogelwch rhag unrhyw risg o niwed
- ni dyllai unrhywbeth digwydd i gyfranogwyr sy’n gallu achosi niwed corfforol (megis gorfodi nhw i ysgmygu) neu seicolegol
- credir seicolegwyr ei fod hi’n derbyniol os yw’r cyfranogwyr yn debygol o brofi’r niwed mewn bywyd o ddydd i ddydd
- hefyd, rhaid i’r cyfranogwyr fod o fewn yr un cyflwr (condition) a oeddwn nhw cyn i’r arbrawf ddechrau (oni bai fod nhw wedi rhoi cydsyniad dilys i gael ei trin fel arall)
5
Q
Materiion Moesegol - preifatrwydd
A
- os yw’r ymchwiliad yn astudio unigolyn heb i’r unigolyn hwnnw gwybod, mar’n gallu fod yn anodd i beidio amharu a breifatrwydd yr unigolyn
- fydd pobl dim yn disgwyl i gael eu harsylwi mewn sefyllfaoedd penodol e.e. Yn eu cartref
6
Q
Materiion Moesegol arbrofi ar anifeiliaid
A
- deddf gwlad = ASPA (1986) yn dweud fod angen trwyddiad (authorization) personol, safle, a prosiect
- dim ond yn defnyddio anifeiliaid go iawn pan nad oes opsiwn arall e.e. Methu defnyddio celoedd neu cyfrifiadur
- defnyddio rhywogaeth addas e.e. Y rhydogaeth isaf o ran datblygiad a sensitifrwydd h.y. Os oes gennych chi’r opsiwn rhwng ‘fuirt fly’ ac mwnci, fyddech chi’n arbrofi ar ‘fruit fly’
Rhaid dilyn y 3 egwyddor canlynol:
- Reduce - Lleihau’r nifer o anifeiliaid
- Refine - mireinio’r dull i achosi isafswm o niwed
- Replace - Defnyddio rhywbeth arall heb law am anifail
7
Q
Materiion Moesegol ymdrin a moeseg
A
- canllawiau penodol o’r BPS (british psychological society) rhaid dilyn
Paneli Moeseg:
- defnyddiwyd paneli moeseg yn brifysgolion neu unrhywle lle mae ymchwiliadau yn cael ei cynnal
- ystyried buddion a costau’r ymchwil
- penderfynu os yw’r ymchwiliad yn cael ei digwydd neu beidio
- er mwyn i’r paneli moeseg caniatau’r ymchwiliad, rhaid profi fod nhw’n cynnal cyfrinachedd, hawl i dynnu yn ol, hawl i adrodd yn ol, sesiwn dadfriffio, ac cydsyniad dilys