Methodolegau Flashcards
methodolegau - beth yw lled arbrawf?
- dyma fath arbennig o arbrawf lle mae’r newidyn annibynnol yn ‘pre-decided’ ac felly nid yr arbrofwr sydd yn ei fanipiwleiddio yn uniongyrchol
- nid oes gan yr ymchwilydd unrhyw rheolaeth dros y newidyn annibynnol gan ei fod yn nodwedd sy’n bodoli o fewn yr unigolyn
- e.e. Cymharu cyrhaeddiad plant ifanc gyda plant hin (mae nhw yn barod yn y grwpiau)
- un isgategori o led arbrawf yw arbrawf naturiol - math arbennig o arbrawf yw hwn lle mae’r newidyn annibynnol yn ffactor sydd yn digwydd er gwaethaf yr arbrofwr e.e. Os byddech yn ymchwilio i fewn i ardaloedd treisgar yn tref, byddai’r pobl yn ‘naturiol’ yn byw yno eisoes ac nid yr arbrofwr fyddai yn eu gosod yno yn fwriadol
methodolegau - manteision lled arbrawf
- edrych ar fywyd go iawn felly’n cynnig realiti a gwerth ecolegol
- defnyddiol os mae’n cael ei ystyried yn anfoesegol i fanipiwleiddio’r newidyn annibynnol mewn arbrofion penodol
methodolegau - Gwendidau lled arbrawf
- anodd tynnu casgliad achos ac effaith
- diffyg rheolaeth dros y newidyn annibynnol yn golygu bod e’n anodd dweud mae’r newidyn annibynnol sy’n achosi newid yn y newidyn dibynnol
- gall newidynnau dryslyd heb rheoli fod yn gyfrifol dros newid yn y newidyn dibynnol
- methu hapdyrranu (dosbarthu i grwpiau ar hap)
- dim modd cyffredinoli gan fod gan y cyfranogwyr nodweddion unigol = dilysrwydd poblogaeth isel
methodolegau - Beth yw arsylwi anghyfranogol?
- gwylio / gwrando o bellter ac ddim yn cymryd rhan mewn unrhyw ffordd
- yn y cynefin naturiol
- methu manipwleiddio newidynau
methodolegau - anfanteision arsylwi anghyfranogol
- os yw’n cudd = problemau moesegol ynglûn â preifatrwydd
methodolegau - beth yw arsylwi cyfranogol?
- mae’r arsylwr yn rhan o’r grwp arsylwi
methodolegau - manteision arsylwi cyfranogol
- cynnig mewnwelediadau arbennig i ymddygiad o’r ‘tu mewn’
methodolegau - anfanteision arsylwi cyfranogol
- methu rheoli newidynnau
- os yw’r grwp a arsylwir yn sylweddoli eu bod mewn astudiaeth, gall ei ymddygiad newid
- methu ail-adrodd
- angen dibynadwyedd rhwng-arsylwyr i gael gwared o duedd arsylwyr
- ni welir achos ac effaith gan nad oes newidyn annibynnol
- problemau moesegol
- debycach o fod yn amlwg h.y. Bydd y cyfranogwyr yn gwybod fod nhw’n cael ei arsylwi = tuedd dymunolrwydd cymdeithasol
methodolegau - manteision arsylwi anghyfranogol
- llai o siawns o duedd yr arsylwr
- gall ymchwilwyr weld sut mae cyfranogwyr yn ymddwyn yn hytrach na dibynnu ar hunan-adroddiadau; gall cynhyrchu canfyddiadau mwy dilys a dibynadwy
- gwrthrychol am nad ydyn nhw’n rhan o’r grwp sy’n cael ei arsylwi
methodolegau - materion moesegol ynglyn ag arsylwi
- y broblem fwyaf yw ymyrryd mewn preifatrwydd pobl
- yn aml mae arsylwi yn cael ei wneud heb i’r bobl sylweddoli eu bod yn cymryd rhan mewn ymchwil seicolegol, sy’n golygu eu bod ond yn iawn i arsylwi ar bobl mewn mannau cyhoeddus lle gellid disgwyl y byddai eraill yn edrych arnoch
- dychmygwch sut y teimlech chi petai’ch yn sylweddoli eich bod wedi cymryd rhan mewn astudiaeth arysolwol? Mae angen ystyried y materion sy’n codi lle mae plant yn cael eu arsylwi
methodolegau - beth yw arbrawf labordy?
- arbrofion labordy yn digwydd mewn amgylchedd rheoledig lle mae’r ymchwilydd gyda rheolaeth dda dros y newidynnau (annibynnol a dibynnol)
- mae llawer o ymchwil mewn prifysgolion yn cael ei wneud mewn labordai bychan sy’n delfrydol i’r math yma o ymchwil
- nid yw arbrawf labordy yn golygu eu fod yn cael eu cynnal mewn labordy gwyddonol, dim ond mewn lleoliad lle mae’n bosib i’r arbrofwr cael llawer o reolaeth dros yr amgylchedd a’r newidynnau
methodolegau - cryfderau arbrawf labordy
- gallu fesur newidynnau’n hawdd
- gallu rheoli newidynnau allanol neu dryslud yn haws
- haws i ymchwilydd arall datblygu’r ymchwil
- fwy tebygol o gael offer arbennigol sy’n mawr ac yn annodd i gludo e.e. Sganiau PET yn ymchwil Raine et al (1997)
methodolegau - gwendidau arbrawf labordy
- gall cyfranogwyr ymddwyn mewn ffordd artiffisial gan fod nhw yn labordy h.y. Ymddwyn ar eu gorau
- dim modd wneud pob astudiaeth yn labordy e.e. Y rhai sy’n anymarferol o hir e.e. Cyfnod cyfebru 22 fis eliffant americanaidd
methodolegau - beth yw arbrawf maes
- wrth ymchwilio i ymddygiad / agweddau dynol mae’n well i ddefnyddio lleoliad mor naturiol ag sy’n bosib er mwyn lleihau nodweddion gofynnol
- e.e. Ystafell dosbarth, canolfan siopa, gorsaf tren
methodolegau - cryfderau arbrawf maes
- lleihau natur artiffisial yr ymchwil
- pobl yn llai tebygol o gofio mae nhw’n cymryd rhan = ymddwyn yn fwy naturiol
- modd i ymchwilydd ymchwilio mewn nifer o gyd-destunau (mewn labordy = dim ond yn gallu defnyddio lluniau)
methodolegau - gwendidau arbrawf maes
- anoddach defnyddio offer arbennigol sy’n mawr ac yn annodd i’w gludo
- anoddach mesur newidynnau ymchwil
- anoddach rheoli newidynnau dryslud ac allanol
- anodd i ymchwilydd datblygu’r ymchwil, sefyllfa gwahanol = canfyddiadau gwahanol
methodolegau - beth yw dadansoddi cynnwys
- math o astudiaeth arsylwadol
- dadansoddir deunydd ysgrifenedig neu lafar fel cylchgronau, rhaglenni teledu, gwefannau, hysbysebion ac ati
- y sampl yw’r arteffact(au) sy’n cael eu dadansoddi
- mae’r rhaid i’r ymchwilydd creu system godio, sy’n rhannu’r wybodaeth yn gategoriau a chymryd cyfrif bob tro y mae’r deunydd yn cyd-fynd gyda thema
methodolegau - cryfderau dadansoddi cynnwys
- mae’r ffeithiau sy’n cael eu dadansoddi eisoes yn bodoli, felly llai o siawns o nodweddion galw
- gall eraill ei ddyblygu cyn belled a bod yr arteffactau ar gael i bobl eraill
- mae ganddo werth ecolegol uchel am ei fod wedi ei seilio ar arsylwi beth mae pobl yn wneud mewn gwirionedd - cyfathrebu sy’n gyfredol ac yn berthnasol e.e. Papurau newydd neu lyfrau plant
methodolegau - gwendidau dadansoddi cynnwys
- gall tuedd yr arsylwyr effeithio ar ddilysrwydd y canfyddiadau; gallai gwahanol arsylwyr ddehongli ystyron y categoriau yn y system godio yn wahanol
- ni all dynnu sylw at gydberthnasau achos ac effaith oherwydd fel arfer nid yw tarddiad yr arteffactau yn hysbys
- debygol o ddangos tuedd diwylliannol oherwydd fel arfer nid fydd y cynnwys a’r dehongliad o’r cynnwys yn cael eu dylanwadu gan iaith a diwylliant y gwaith a’r ymchwilydd
methodolegau - beth yw holiadur?
- er mwyn cael gwybodaeth cywir rhaid gofyn i bobl beth maent yn feddwl / gredu, y modd gorau o wneud hyn yw i lunio holiadur
- mae dau wahanol fath o gwestiynau y gellir eu defnyddio:
- Cwestiynau caeedig (ie/na neu ‘multiple choice’)
- Cwestiynau agored (yn debyg i ‘sut ydych yn teimlo am y teulu brenhinol?’ = cyfranogwyr yn rhoi ei farn yn llwyr)
methodolegau - manteision holiadur
- gallu casglu llawer o ddata yn gyflym ac yn hawdd - rhwydd i roi holiadur allan i nifer o bobl
- cwestiynau caeedig yn rhwydd i’w cymharu a dadansoddi
- cwestiynau agored yn rhoi gwybodaeth fanwl a dwfn; efallai cewch gwybodaeth nad oeddech yn disgwyl ei chael
- effeithiol ar gyfer materion allai fod yn sensitif - gall pobl ddatgelu mwy os nad oes rhaid siarad yn uniongyrchol gyda’r ymchwilydd
methodolegau - anfanteision holiadur
- pobl yn gallu diflasu wrth ateb nifer o gwestiynau a ddim ymdrechu wrth llenwi
- gellir camdeall y cwestiwn
- pobl yn gallu dweud celwydd a gall pobl roi atebion sy’n gymdeithasol dderbyniol
- cwestiynau caeedig yn gorfodi atebion = dim rhyddid
- cwestiynau agored = anodd cymharu atebion cyfranogwyr = perygl o duedd wrth dadansoddi
methodolegau - beth yw cyfweliadau strwythuredig?
- mae gan y cyfwelydd set o gwestiynau wedi’u paratoi o flaen llaw a ofynnir mewn trefn sefydlog
methodolegau - cryfderau cyfweliadau strwythuredig
- defnyddir yr un cwestiynau bob tro sy’n gwneud canlyniadau’n hawdd i’w dadansoddi
- gellir dyblygu, felly yn fwy dibynadwy oherwydd gellir gofyn yr un cwestiynau yn yr un modd
- llai o duedd gan fod yn dilyn yr un fformat