Seicoleg Cymdeithasol: Milgram (1963) Flashcards
1
Q
Milgrim (1963) Methodoleg
A
- cynnal yr astudiaeth mewn labordy er mwyn rheoli’r amodau’n dda
- rhoddod Milgrim hysbyseb mewn papur yn New Haven yn dweud roedd e’n edrych am cyfranogwyr am astudiaeth i fewn i’r cof
- o’r bobl a atebodd, dewisodd yr ymchwilwyr 40 o wrywod 20-50 oed
- roedd amrywiaeth o swyddi gan y ddynion yn y sampl, ac amrywiaeth o addysg hefyd
- Talwyd $4.50 i bob un am gymryd rhan ynddi yr astudiaeth (dywedodd iddyn nhw fydd nhw’n cael yr arian am ddod i’r labordy, nad oedd yr tal yn dibynnu ar yr astudiaeth)
2
Q
Milgrim (1963) Dulliau Gweithredu - cyflwyniad
A
- pan gyrhaeddodd y cyfranogwyr, cawson nhw’u cyfarch gan yr ‘arbofwr’, dyn 31 OED a edrychai fel technegydd yn ei got llwyf
- roedd ‘cyfranogwr’ arall yn y labordy, cynorthwywyr i Milhram oedd y ddau ohonyn nhw mewn gwirionedd
- tynnodd y cyfranogwyr slipiau o bapur i benderfynu p’un ohonyn nhw fyddai’n chwarae rol yr athro neu’r dysgwr
- yna, cymerwyd y dysgwr a’r athro i ystafell yr arbrawf lle strapiwyd rhag symud gormod, gosodwyd electrod ar addwrn (wrist) y dysgwr a’i gysylltu gyda generadur sociau yn yr ystafell nesaf
3
Q
Milgrim (1963) Dulliau Gweithredu - y peiriant siocio
A
- cymerwyd yr athro i’r ystafell nesaf a’i rhoi i eistedd o flaen y generadur siociau
- ar y peiriant mawr hwnnw roedd 30 o switsys a phob un yn dangos cynnydd graddol yn y foltedd, gan godi o 15 folt i 450 folt
- ar gyfer pob 4 swits roedd labelu ‘sioc’ i ‘ychydig o sioc’ ayyb (450 volt = ‘sioc a gallai ladd’)
- rhoddod yr arbrofwyr sioc ‘enghreifftiol’’ i’r athro i ddangos bod y peiriant yn un go iawn
4
Q
Milgrim (1963) Dulliau Gweithredu - Y dasg dysgu
A
- ar ol i’r astudiaeth cychwyn, dywedwyd wrth yr athro am roi sioc pan roddai’r dysgwr ateb anghywir a chynyddu lefel y sioc bob tro gan gyhoeddi lefel y sioc bob tro
- dywedwyd wrth y dysgwr am beidio a wneud unrhyw sylw na phrotest tan i lefel y sioc gyrraedd 300 folt
- unwaith i’r sioc gyrraedd 300 folt, dywed i’r dysgwr pwnio’r wal ond peidio a wneud unrhyw swn ar ol hynny
5
Q
Milgrim (1963) Dulliau Gweithredu - adborth yr arbrofwr
A
- cafodd yr arbrofwr ei hyfforddi i roi dilyniant o bedwar ‘ysgogiad’ safonol os byddai’r athro’n petruso ynghylch rhoi’r sioc neu’n gofyn am arweiniad
“Ewch yn eich blaen”
“Mae’r arbrawf yn mynnu’ch bod chi’n mynd ymlaen”
“Mae’n gwbl hanfodol i chi fynd ymlaen”
“Does gennych chi ddim dewis arall, rhaid i chi mynd ymlaen”
“Efallai fod y siociau’n boenus, ond fydd ‘na ddim difrod prhaol i’r corff, felly ewch yn eich blaen”
6
Q
Milgrim (1963) Dulliau Gweithredu - datgelu’r twyll
A
- ar ol cwblhau’r ymchwil, fe eglurwyd y ‘twyll’ wrth yr athro (drwy adrodd yn ol iddo) a daeth yr arbrofwr a’r athro a’r dysgwr yn ol at ei gilydd
- yna, cawson nhw’u cyfweld am eu profiad yn yr astudiaeth hon
7
Q
Milgrim (1963) Canfyddiadau - data meintiol
A
- cyn cynnal yr astudiaeth, gwnaeth milgram arolwg o 14 o fyfyrwyr seicoleg yn Yale
- eu hamcangyfrif nhw oedd mai 0-3% o’r cyfranogwyr fyddai’n rhoi sioc o 450 folt
- dangosodd darganfyddiadau’r astudiaeth iddyn nhw danamcangyfrif yn difrifol (underestimated)
- daliodd y mwyafrif mawr ymlaen tan y lefel uchaf, ond roedd 5 (12.5%) wedi gwrthod parhau ar ol i’r protest cyntaf (pwnio’r wal) ar 300 folt digwydd
- roedd 26 (65%) o’r 40 o gyfranogwyr wedi rhoi sioc ar 450folt, mae hynny hefyd yn golygu bod 35% o’r cyfranogwyr wedi herio awdurdod y arbrofwr
8
Q
Milgrim (1963) cafnyddiadau - data ansoddol
A
- dangosodd llawer o’r cyfranogwyr nerfusrwydd, a nifer fawr ohonyn nhw densiwn eithafol
- “fe’u gwelwyd nhw’n chwysu, yn crynu, yn cnoi eu gwefusau, yn griddfan ac yn gwethio’u hewinedd i’w croen”
- ‘chwerthin a gwenu’n nerfus’ wnaeth 14 o’r cyfranogwyr
- dangosodd eu sylwadau a’u hymddygiad allanol ei bod hi’n mynd yn groes i’r graen iddyn nhw gosbi’r ddysgwr
- yn y cyfweliad (i ddatgelu’r twyll) wedi’r arbrawf, eglurodd y cyfranogwyr nad oedden nhw’n sadistaidd ac nad oedd eu chwerthin wedi golygu eu bod nhw’n mwynhau rhoi sioc i’r ddysgwyr
- cafodd 3 o’r cyfranogwyr ‘drawiadau (seizures) llawn ac afreolus’
- cafodd un cyfranogwr bwl (spasm) mor dychrynllyd nes y bu’n rhaid atal y sesiwn
9
Q
Milgrim (1963) Casgliadau
A
Daeth milgrim i’r casgliad fod yr amgylchedd wedi wneud hi’n anodd i beidio ufuddhau, dywedodd fod 13 o ffactorau wedi cyfrannu at y lefelau o ufuddhau e.e:
- Yale yn prifysgol o fri = awdurdod
- cymerodd y cyfranogwyr yn caniataol y bod yr ymchwilwyr yn gwybod beth oedd nhw’n wneud
- ar ol cydsynio i gymryd rhan, nid oedd y cyfranogwyr eisiau tarfu ar yr arbrawf
- sefyllfa newydd = cyfranogwyr dim yn gwybod sut i ymddwyn
- cyfranogwyr dim yn gallu siarad gyda unrhyw un
- cymerodd y cyfranogwyr yn ganiataol fod yr niwed a achoswyd yn fach iawn a thros dro
- gwrthdaro rhwng 2 duedd = peidio niweidio neb ac ufuddhau i’r rhai sydd yn ein bran ni yn awdurdodau dilys
10
Q
Milgrim (1963) Gwerthuso - dilysrwydd mewnol y siociau trydan
A
- Orne a Holland (1968) = ymchwil yn bryn o ddilysrwydd mewnol am na chredai’r cyfranogwyr fod y siociau trydan yn rhai go iawn
- ategwyd hynny ymhellach gan ymchwiliad Gina Perry (2012), wrth darllen drwy archif manwl milgram o’r hyn a ddigwyddodd yn yr astudiaeth, fe welodd hi fod y cyfranogwyr yn gwybod nad oedden nhw’n anafu neb. Yn yr holiadur dilynol, dywedodd llawer o’r cyfranogwyr eisiau fod nhw’n amheus (suspicious) oherwydd nad oedd yr ‘arbrofwr’ wedi cynhyrfu o’r gwbl
- Ond, ar y llaw arall dywedodd Milgram (1974) bod 75% o’r cyfranogwyr yn credu’n gryf eu bod nhw’n rhoi siociau trydan
11
Q
Milgrim (1963) Gwerthuso - Materion moesegol
A
- Baumrind (1964) = dweud fod Milgrim wedi achosi niwed seicolegol i’w gyfranogwyr ac na ellid cyfiawnhau hynny
- Milgrim wedi amddiffynu ei hun mewn sawl ffordd:
- nad oedd e’n gwybod cyn wneud yr astudiaeth fod e’n mynd i wneud cymaint o niwed
- wedi ystyried rhoi’r gorau i’r astudiaeth pan welodd ymddygiad y cyfranogwyr, ond penderfynodd nad oedd unrhyw arwydd o effeithiau niweidiol (Milgram 1974)
- dywedodd 84% o’r cyfranogwyr wedyn eu bod yn falch iddyn nhw gymryd rhan
- dylai’r niwed posibl i’r cyfranogwyr cael eu gymharu gyda pwysigrwydd y darganfyddiadau (do the pros weigh out the cons?)
- Ar y llaw arall, mae Perry (2012) wedi dadlau’n diweddar i Milgram fethu a chyflawni ei dyletswydd i ofalu am y cyfranogwyr am i rai ohonyn nhw aros am hyd at flwyddyn cyn i neb adrodd yn ol iddyn nhw, er iddyn nhw adael y labordy gan gredu eu bod nhw wedi lladd rhywun