Penderfynu Ar Gwestiwn Ymchwil Flashcards
Penderfynu ar Gwestiwn Ymchwil Rheoli Newidynnau - Newidynnau dryslyd
- mewn y rhan fwyaf o arbrofion, mae gennych chi’r newidynnau dibynnol ac annibynnol.
- mae’r newidynnau annibynnol yn newid ac yn effeithio ar y newidynnau dibynnol sydd wedyn yn cael ei fesur
- newidynnau dryslyd yw newidyn (NID y newidyn annibynnol) sy’n newid ond sy’n amrwyio’n systematig gyda’r newidyn annibynnol ac felly’n effeithio ar y newidynnau dibynnol h.y. Os yw ymchwiliad ar grwp o blant ac roedd un grwp yn wneud ei gwaith cartref o flaen y teledu ac un dim, y newidyn dryslyd yw’r adeg o’r dydd, oherwydd mae’r ymennydd yn fwy actif yn y bore (er mwyn fod yn dilys, rhaid i bob cyfranogwr wneud y dasg ar yr un adeg o’r dydd)
- ffactorau sy’n effeithio’r newidyn dibynnol gan effeithio ar bawb yn yr un
Penderfynu ar Gwestiwn Ymchwil Damcaniaethau - damcaniaeth arbrofol
- cynnig y bydd gwahaniaeth mewn rhyw fodd mesuradwy rhwng dau amod
Penderfynu ar Gwestiwn Ymchwil Damcaniaethau - damcaniaeth nwl
- does dim gwahaniaeth ARWYDDOCAOL rhwng dau amod (mae unrhyw gwahaniaethau oherwydd siawns)
Penderfynu ar Gwestiwn Ymchwil Damcaniaethau - damcaniaeth anghyfeiriol
- gwahaniaeth rhwng dau amod ond nad yw’n dweud beth YW’R gwahaniaeth h.y. Cynnydd neu lleihad?
Penderfynu ar Gwestiwn Ymchwil Damcaniaethau - damcaniaeth cyfeiriol
- mae yna gwahaniaeth rhwng dau amod ac mae’n nodi beth YW’R gwahaniaeth hefyd, h.y. Os mae cynnydd neu lleihad
Penderfynu ar Gwestiwn Ymchwil Rheoli newidynnau - newidynnau allanol (esboniad)
- ffactorau sy’n effeithio ar y newidyn dibynnol gall amrywio o berson i berson
- e.e. Os mae rhywun yn rhagdybio fod dwyieithredwydd yn arwain at ddatblygiad deallusol iach, wrth cymharu 2 grwp sy’n cael ei dosbarthu ynglun a os ydyn nhw’n dwyieithig neu beidio (newidyn annibynnol), gall oed (newidyn allanol) effeithio ar y newidyn dibynnol (prawf i fesur datblygiad deallusol)
Penderfynu ar Gwestiwn Ymchwil Rheoli newidynnau - newidynnau allanol (4 math gwahanol - newidynnau sefyllfaol)
- ffactorau yn yr amgylchedd sy’n gallu effeithio ymddygiad cyfranogwyr e.e. Swn, tymheredd, golau
- rhaid rheoli rhain fel eu bod yr un peth i bob cyfranogwyr
- rydym yn defnyddio gweithdrefnau safonol i sicrhau bod y sefyllfa yr un peth i bawb
Penderfynu ar Gwestiwn Ymchwil Rheoli newidynnau - newidynnau allanol (4 math gwahanol - gwahaniaethau unigolion)
- e.e. Tymer, deallusrwydd, nerfusrwydd, gallu i ganolbwyntio, anghofio sbectol etc
- bydd y cynllun a defnyddir yn gallu effeithio’r newidyn allanol hwn
- gallwn reoli gwahaniaethau unigolion drwy defnyddio nifer mawr yn y sampl
- gallwn hefyd dosbarthu’r unigolion ar hap i’r dau amod sy’n ei wneud yn bosibl i greu cyfartaledd cynrychiolaidd
Penderfynu ar Gwestiwn Ymchwil Rheoli newidynnau - newidynnau allanol (4 math gwahanol - effaith yr arbrofwr)
- ble fydd yr arbrofwr yn awgrymu yn anfwriadol i’r cyfranogwyr fel y dylai nhw ymddwyn
- gwelir hyn yn tuedd yr arbrofwr ac mae’n gallu effeithio ymddygiad y cyfranogwyr
- hefyd gall nodweddion personol yr arbrofwr (e.e. Oedran, gender, acen etc) effeithio ymddygiad y cyfranogwyr
Penderfynu ar Gwestiwn Ymchwil Rheoli newidynnau - newidynnau allanol (4 math gwahanol - nodweddion gofynnol)
- dyma cliwiau yn yr arbrawf sy’n awgrymu i’r cyfranogwyr beth yw pwrpas yr ymchwil
- gallant wedyn ceisio ‘plesio’r ymchwilydd’ neu hyd yn oed ceisio ‘difetha’r astudiaeth’
- gall yr arbfrofwr ceisio lleihau y ffactoray hyn drwy gadw’r amgylchedd mor niwtral ag sy’n bosibl, defnyddio gweithdrefnau safonol ac efallai defnyddio mwy nag un arbrofwr a chymharu eu canlyniadau