Pennod 8 - Cysonion Ecwilibriwm Flashcards
Diffiniwch ecwilibriwm dynamig
Adwaith cildroadwy lle mae cyfraddau’r blaenadwaith a’r ol-adwaith yn hafal, ac felly mae meintiau pob sylwedd yn aros yr un peth
Diffiniwch
1) Kc
2) Kp
1) Cysonyn ecwilibriwm yn nhermau crynodiad, ac rydym fel arfer yn ei ddefnyddio ar gyfer adweithiau mewn hydoddiant, er y gallwn ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw adwaith
2) Cysonyn ecwilibriwm yn nhermau gwasgedd rhannol nwyon, ac rydym yn ei ddefnyddio ar gyfer adweithiau lle nwyon sy’n bresennol
Ysgrifennwch hafaliad ar gyfer KC yn yr hafaliad;
aA(d) + bB(d) ⇔ xX(d) + yY(d)
Kc = [X]x [Y]y / [A]a [B]b
Ysgrifennwch hafaliad ar gyfer gwasgedd y cymysgedd o nwyon os mae’r cymysgedd yn cynnwys hydrogen, nitrogen ac amonia
Gwasgedd y cymysgedd o nwyon = Gwasgedd gan nitrogen + Gwasgedd gan hydrogen + Gwasgedd gan amonia
NEU
pCYFANSWM = pH2 + pN2 + pNH3
Ysgrifennwch hafaliad ar gyfer Kp yn yr hafaliad:
aA(n) + bB(b) ⇔ xX(n) + yY(n)
Kp = pXx pYy / pAa pBb
Nodwch arwyddocad gwerth Kc sy’n;
1) llawer llai nag 1
2) llawer mwy nag 1
1) Ychydig iawn o gynhyrchion sy’n cael eu ffurfio, a defnyddiau cychwynnol yw’r rhan fwyaf o’r cymysgedd
2) Bydd rhan fwyaf o’r adweithyddion wedi’u trawsnewid yn gynhyrchion
Beth yw’r unig ffactor sy’n newid cysonion ecwilibriwm?
Tymheredd
Ysgrifennwch hafaliad ar gyfer gwasgedd rhannol
Gwasgedd rhannol = % y nwy dan sylw x gwasgedd
NEU
= Gwasgedd y nwy dan sylw mewn cymysgedd