Pennod 4 - Cemeg y Metelau Trosiannol Bloc d Flashcards
Diffiniwch elfen drosiannol
Metel sydd gydag is-blisgyn d sydd wedi’i lenwi’n rhannol yn ei atom neu yn ei ionau sefydlog
Ysgrifennwch adeiledd electronig ar gyfer;
1) Manganis (Rhif atomig 25)
2) Galiwm (Rhif atomig 31)
1)
1s 2s 2p 3s 3p 3d 4s 4p
= = === = === >>>>> =
2)
1s 2s 2p 3s 3p 3d 4s 4p
= = === = === ===== = >
= - Dau electron
> - Un electron
Ysgrifennwch adeiledd electronig ar gyfer;
1) Cromiwm (Rhif atomig 24)
2) Copr (Rhif atomig 29)
1)
1s 2s 2p 3s 3p 3d 4s 4p
= = === = === >>>>> >
1s2 2s2 2p6 3s2 3p6 3d5 4s1
2)
1s 2s 2p 3s 3p 3d 4s 4p
= = === = === ===== >
1s2 2s2 2p6 3s2 3p6 3d10 4s1
Eglurwch pam mae copr a chromiwm yn eithriadau i’r rheolau adeiledd electronig ar gyfer yr elfennau trosiannol bloc d
Oherwydd bod gwahaniaeth rhwng egni’r orbitalau 3d a 4s yn fach a bod angen egni ychwanegol i baru electronau, mae’r adeileddau hyn yn fwy sefydlog na’r adeileddau eraill. Mae plisg yn fwy sefydlog os ydynt yn llawn neu’n hanner llawn
Diffiniwch ligand. Enwch y cyfuniad wrth i ligand bondio gydag ion metel trosiannol
Ligand yw moleciwl bach sydd gyda phar unig sy’n gallu ffurfio bond gyda metel trosiannol. e.e. dwr, amonia..
Yr enw ar gyfuniad o ion metel trosiannol a’r ligandau yw cymhlygyn
Yn nodweddiadol, disgrifiwch y ddau gymhlygyn mae metelau trosiannol yn ffurfio
Naill ai;
- 6 ligand wedi’u trefnu’n octahedrol (90°) o amglych yr atom metel (MWYAF CYFFREDIN)
Neu;
- 4 ligand wedi’u trefnu’n detrahedrol (109.5°) o amgylch yr atom metel (LLAI CYFFREDIN)
Ysgrifennwch y cyfansoddyn metel trosiannol sy’n ffurfio cymhlygyn lliw;
1) gwyrdd golau
2) melyn
3) pinc
mewn hydoddiant
1) [Fe(H2O)6]2+
2) [Fe(H2O)6]3+
3) [Co(H2O)6]2+
Ysgrifennwch y cyfansoddyn metel trosiannol sy’n ffurfio cymhlygyn lliw;
1) gwyrdd tywyll
2) glas
mewn hydoddiant
1) [Cr(H2O)6]3+
2) [Cu(H2O)6]2+
Disgrifiwch adeiledd y cymhlygion [Cu(H2O)6]2+ a [Co(H2O)6]2+
Maent yn octahedrol, gydag un par unig o bob atom ocsigen yn y moleciwlau dwr yn bondio i’r ion metel
Disgrifiwch yr adwaith rhwng amonia a [Cu(H2O)6]2+
Mae’n achosi i bedwar moleciwl amonia gymryd lle moleciwlau dwr, gan ffurfio hydoddiannau glas brenhinol sy’n cynnyws ionau [Cu(NH3)4(H2O)2]2+ Mae’r cymhlygyn hwn yn octahedrol sy’n gallu ffurfio isomer trans sef yr un mwyaf cyffredin neu isomer cis
Esboniwch pam mae’r cymhlygyn [Cr(H2O)6]3+ yn wyrdd tywyll
Mae’r ligandau dwr yn achosi i’r orbitalau d ymrannu’n dri ag egni is a dau ag egni uwch. Gall electronau symud o lefelau egni is i rai uwch drwy amsugno amleddau arbennig o olau. Mae’r amleddau hyn yn cyfateb i’r gwahaniaeth egni (E=hf). Rydym yn gweld lliw’r golau sydd ddim yn cael ei amsugno, ac felly mae’r cymhlygyn hwn yn ymddangos yn wyrdd gan ei fod yn amsugno pob lliw arall
Esboniwch pam mae rhai cymhlygion yn ddi-liw megis Cu(I)
Mae ganddynt adeiledd electronig ag is-blisgyn d llawn (d10) sy’n golygu nad oes orbitalau gwag i adael i electronau symud rhwng lefelau egni. Felly nid ydynt yn amsugno golau yn yr ystod weladwy ac maent yn ymddangos yn ddi-liw
Disgrifiwch sut defnyddom y metelau trosiannol a chyfansoddion metelau trosiannol canlynol fel catalyddion;
1) Haearn
2) Nicel
3) Platinwm
4) Fanadiwm pentocsid, V2O5
5) Manganis deuocsid, MnO2
1) Proses haber, i gynhyrchu amonia o nitrogen a hydrogen
2) Hydrogeniad olewau llysiau i ffurfio margarin
3) Ocsidiad amonia i ffurfio asid nitrig
4) Y broses gyffwrdd i ffurfio asid sylffwrig
5) Dadelfeniad catalytig hydrogen perocsid
Diffiniwch gatalydd
Sylwedd sy’n cynyddu cyfradd adwaith cemegol drwy gynnig llwybr arall sydd ag egni actifadu is
Diffiniwch gatalydd;
1) homogenaidd
2) heterogenaidd
1) Catalydd sydd yr un cyflwr ffisegol a’r adweithiau y mae’n catalyddu
2) Catalydd sydd mewn cyflwr ffisegol gwahanol i’r adweithiau y mae’n catalyddu
Eglurwch pam mae metelau trosiannol yn gallu ymddwyn fel catalyddion
1) Mae eu horbitalau d wedi’u llenwi’n rhannokl gyda digon o orbitalau gwag i gyfuno gyda moleciwlau eraill. Gall moleciwlau gyda pharau unig ffurfio bondiau cyd-drefnol gyda’r atom metel gan ffurfio cymhlygion gan gynyddu adweithedd y rhywogaeth sydd wedi’i bondio gyda’r metel. Mae hyn yn cynyddu’r tebygolrwydd bydd adwaith yn digwydd
2) Mae cyflyrau ocsidiad amrywiol ionau’r metel trosiannol yn galluogi’r ion metel i weithredu fel catalydd mewn adweithiau rhydocs gan weithredu fel ocsidydd neu rydwythydd. Yna, gall y metel trosiannol fynd yn ol i’w gyflwr ocsidiad gwreiddiol drwy adweithio gyda moleciwlau arall.
Gorffenwch yr adwaith canlynol;
⇔[Cr(H2O)5(OH)]2+ + H+
[Cr(H2O)6]3+
Ysgrifennwch yr adwaith rhwng [Cr(H2O)3(OH)3] ac OH-
[Cr(H2O)3(OH)3] + 3OH- ⇔[Cr(OH)6]3- + 3H2O
Disgrifiwch yr adwaith rhwng [Cr(H2O)6]3+ a;
1) Sodiwm hydrocsid
2) Gormodedd o sodiwm hydrocsid
1) Gwaddod llwyd-gwyrdd o [Cr(H2O)3(OH)3]
2) Mae’r gwaddod yn hydoddi gan roi hydoddiant gwyrdd tywyll o [Cr(OH)6]3-
Disgrifiwch yr adwaith rhwng [Fe(H2O)6]2+ a;
1) Sodiwm hydrocsid
2) Gormodedd o sodiwm hydrocsid
1) Gwaddod gwyrdd tywyll o [Fe(H2O)4(OH)2]
2) Rhywfaint o coch-frown i’w weld ar yr arwyneb oherwydd ocsidiad gan yr aer, ond yn bennaf, dim adwaith pellach
Disgrifiwch yr adwaith rhwng [Fe(H2O)6]3+ a
1) Sodiwm hydrocsid
2) Gormodedd o sodiwm hydrocsid
1) Gwaddod coch-frown o [Fe(H2O)3(OH)3]
2) Dim adwaith pellach
Disgrifiwch yr adwaith rhwng [Cu(H2O)6]2+ a;
1) Sodiwm hydrocsid
2) Gormodedd o sodiwm hydrocsid
1) Gwaddod glas golau o [Cu(H2O)4(OH)2]
2) Dim adwaith pellach