Pennod 1 - Rhydocs a Photensial Electrod Safonol Flashcards
Diffiniwch;
1) Ocsidiad
2) Rhydwythiad
1) Y broses o golli electronau NEU’R cyflwr ocsidiad yn dod yn fwy positif
2) Y broses o ennill electronau NEU’R cyflwr ocsidiad yn dod yn fwy negatif
Nodwch y cyflwr ocsidiad atom;
1) mewn elfen
2) mewn ionau
3) sy’n metel grwp 1 mewn cyfansoddyn
4) sy’n metel grwp 2 mewn cyfansoddyn
5) hydrogen
6) hydrogen mewn hydridau metel
7) fflworin
8) ocsigen yn ei gyfansoddyn
9) ocsigen mewn perocsidau
10) sy’n halogen mewn halidau metel
1) 0
2) Hafal i’r wefr
3) +1
4) +2
5) +1
6) -1
7) -1
8) -2
9) -1
10) -1
Diffiniwch botensial electrod safonol
Y gwahaniaeth potensial pan gysylltir unrhyw hanner cell a’r electrod hydrogen safonol dan amodau safonol
Diffiniwch gelloedd tanwydd
Defnyddio dulliau electrocemegol i gael egni o danwyddau, yn aml nwy hydrogen
Nodwch fanteision ac anfanteision celloedd tanwydd
Manteision:
1) Yr unig cynnyrch yw dwr (dim CO2)
2) Effeithlon iawn
3) Cynhyrchu nwy hydrogen mewn ffordd adnewyddadwy megis electrolysis dwr
Anfanteision:
1) Hydrogen yn fflamadwy ac anodd i storio
2) Fel arfer, cynhyrchir nwy hydrogen o danwyddau ffosil, sy’n golygu colled net o egni
Yr yr adwaith isod;
Cu2+ (d) + Mg (s) ⇒Cu (s) + Mg2+ (d)
Rhowch hanner hafaliad copr a magnesiwm
Cu2+ (d) + 2e- ⇒Cu (s)
Mg (s) ⇒Mg2+ (d) + 2e-
Mewn celloedd electrocemegol, eglurwch pwrpas y wifren
Gadael i electronau lifo o’r hanner cell lle mae ocsidiad yn digwydd i’r hanner cell lle mae rhydwythiad yn digwydd. Defnyddiwn foltmedr gwrthiant uchel i fesur gwahaniaeth potensial y gell
Mewn celloedd electrocemegol, eglurwch bwrpas y pont halwyn
Cwblhau’r gylchred ac yn gadael i ionau lifo heb i’r hydoddiannau gymysgu