Pennod 6 - Newidiadau Enthalpi Ar Gyfer Solidau a Hydoddiannau Flashcards
Nodwch yr egwyddor cadwraeth egni
Nid yw’n bosibl creu na dileu egni, dim ond ei drawsnewid o’r naill ffurf i’r llall
Nodwch ddeddf Hess
Os yw adwaith yn gallu digwydd ar hyd mwy nag un llwybr, bydd cyfanswm y newid egni ar gyfer pob llwybr yn hafal
Rhowch hafaliad ar gyfer newid enthalpi unrhyw adwaith
Newid enthalpi =ÅfHø (ar gyfer pob cynnyrch) - ÅfHø(ar gyfer pob adweithydd)
Ysgrifennwch yr amodau safonol ar gyfer newidiadau enthalpi safonol
- Tymheredd o 298K, 25*C
- Crynodiad o 1 moldm-3 ar gyfer hydoddiannau
- Gwasgedd o 101kPa neu 1atm ar gyfer nwyon
- Y cyflwr ffisegol o dan amodau safonol
Diffiniwch newid enthalpi adwaith safonol ÅHø
Newid enthalpi sy’n digwydd mewn adwaith rhwng symiau molar o adweithyddion yn eu cyflyrau safonol dan amodau safonol
Diffiniwch newid enthalpi atomeiddiad safonol ÅatHø gan roi enghraifft
Newid enthalpi sy’n digwydd pan fydd un mol o atomau elfen yn y cyflwr nwyol yn cael ei ffurfio o’r elfen yn ei chyflwr safonol dan amodau safonol
e.e.
Na (s) → Na (n)
0.5Cl2 (s) → Cl (n)
Diffiniwch newid enthalpi ffurfio dellt safonol, ÄdelltHØ
Pan fydd un mol o gyfansoddyn ionig yn cael ei ffurfio o ionau o’r elfennau yn yn cyflwr nwyol
Na+ (n) + Cl- (n) → NaCl (s)
Diffiniwch newid enthalpi hydradiad safonol ÅhydradiadHØ
Pan fydd un mol o gyfansoddyn ionig mewn hydoddiant yn cael ei ffurfio o ionau o’r elfennau yn y cyflwr nwyol
Na+ (n) + Cl- (n) + dwr → Nacl (d)
Diffiniwch affinedd electronol
Y newid enthalpi sy’n digwydd pan fydd un mol o ionau negatif nwyol yn cael ei ffurfio o atomau nwyol sylweddol drwy ennill electron
Cl (n) + e- → Cl- (n)
Diffiniwch egni ioneiddiad
Y newid enthalpi pan fydd un mol o ionau positif nwyol yn cael eu ffurfio o atomau nwyol sylwedd drwy golli electron
Na (n) → Na+ (n)
Diffiniwch newid enthalpi hydoddiant safonol ÅhydoddiantHØ
Pan fydd un mol o sylwedd yn hydoddi’n llwyr mewn hydoddydd o dan amodau safonol gan ffurfio hydoddiant
M+X- (s) → M+ (n) + X- (n) → M+ (d) + X- (d)
Egni hydoddiant safonol = Enthalpi hydradiad safonol - Enthalpi torri dellt