Pennod 5 - Cineteg Gemegol Flashcards
Diffiniwch drochoeri
Stopio adwaith cemegol neu ei arafu’n sylweddol er mwyn gallu dadansoddi sampl heb i’r adwaith fynd ymhellach. Y ffordd arferol yw i oeri a gwanedu
Diffiniwch egni actifadu
Yr isafswm egni sydd ei angen i wrthdrawiad fod yn llwyddiannus
Nodwch fanteision ac anfanteision trochoeri
1) Mae’n bosib i’w ddefnyddio ar gyfer ystod eang o adweithiau
2) Dim ond cymsygedd adwaith sy’n homogenaidd yn addas fel mewn hydoddiant. Os nad ydynt i gyd yn homogenaidd, efallai nad yw’r sampl yn gynrychioladol o’r cymysgedd cyfan
Ysgrifennwch hafaliad ar gyfer cyfradd
Cyfradd = Newid mewn crynodiad / Amser
Diffiniwch gysonyn cyfradd
Cysonyn yn yr hafaliad cyfradd. Mae’n gyson ar gyfer adwaith penodol ar dymheredd penodol ac nifydd newid crynodiadau’r adweithyddion yn ei newid. Nid yw’n gyson os ydym yn newid y tymheredd
Diffiniwch radd adwaith
Gradd adwaith, mewn perthynas ag adweithydd penodol, yw’r pwer y mae’r crynodiad yn cael ei godi iddo yn yr hafaliadau cyfradd
Disgrifiwch adwaith;
1) radd 0
2) radd 1
3) radd 2
1) Nid yw’r gyfradd mewn cyfrannedd gyda’r crynodiad; aros yr un peth - cyfradd » [A]0
2) Cyfradd mewn cyfrannedd gyda’r crynodiad; dyblu - cyfradd » [A]1
3) Cyfradd mewn cyfrannedd gyda’r crynodiad wedi’i sgwario; cynyddu bedair gwaith - cyfradd » [A]2
Diffiniwch gam penderfynu cyfradd
Y cam arafaf mewn mecanwaith adwaith sy’n penderfynu’r cyfradd
Nodwch hafaliad Arrhenius
k = Ae(-Ea/RT)
k = Cysonyn cyfradd
A = Ffactor amlder
e = 2.718….
Ea = Egni actifadu (K-1 mol-1)
R = Cysonyn nwy, 8.314 J K-1 mol-1)
T = Tymheredd (Kelvin)