Pennod 4 - Amrywiad ac Esblygiad Flashcards
Nodwch y pethau sy’n achosi amrywiad sy’n etifeddol i ddigwydd
1) Mwtaniadau genynnol
2) Trawsgroesiad yn ystod proffas I meiosis
3) Rhydd-ddosraniad yn ystod metaffas I a II meiosis
3) Cyplu ar hap; mae unrhyw organeb yn gallu cyplu gydag un arall
4) Asio gametau ar hap; ffrwythloniad unrhyw gamet gwrywol gydag unrhyw gamet benywol
5) Ffactorau amgylcheddol sy’n arwain at addasiad epigeneteg
6) Mae ffactorau amgylcheddol hefyd yn gallu arwain at amrywiad anetifeddadwy o fewn poblogaeth
Enwch, disgrifiwch ac enghreifftiwch y ddau fath o amrywiad
1) Parhaus e.e. taldra
- Amrediad o ffenoteipiau i’w weld
- Llawer o enynnau’n ei reoli (polygenig)
- Dilyn dosraniad ‘normal’
- Ffactorau amgylcheddol yn cael dylanwad mawr
2) Amharhaus e.e. grwp gwaed
- Nodweddion yn ffitio mewn grwpiau pendant gwahanol
- Fel arger yn cael eu rheoli gan un genyn gyda dau neu fwy o alelau (monogenig)
- Dim llawer o ddylanwad gan ffactorau amyglcheddol
Diffiniwch bwysau dethol
Ffactor amgylcheddol sy’n gallu newid amlder alelau mewn poblogaeth, os yw’n gyfyngol
Diffiniwch ddetholiad naturiol
Mae gan organebau a ffenoteipiau sy’n gweddu i’w hamgylchedd siawns uwch o oroesi ac atgenhedlu, sy’n ei gwneud hi’n fwy tebygol bob alelau ffafriol yn cael eu trosglwyddo o un genhedlaeth i’r nesaf
Diffiniwch gyfanswm genynnol
Yr holl alelau sy’n bresennol mewn poblogaeth ar adeg benodol
Diffiniwch amlder alel
Cyfran, ffracsiwn neu ganran yr alel hwnnw o’r holl alelau o’r genyn hwnnw, mewn cyfanswm genynnol
Diffiniwch symudiad genynnol
Amrywiadau ar hap mewn amlderau alelau ymysg poblogaeth
Disgrifiwch y ddau fath o gystadleuaeth
1) Cystadleuaeth fewnrywogaethol lle mae aelodau o’r un rhywogaeth yn cystadlu am yr un adnodd mewn ecosystem megis bwyd, golau, maetholion, mannau i nythu
2) Cystadleuaeth ryngrywogaethol lle mae aelodau o wahanol rywogaethau’n cystadlu am yr un adnoddau mewn ecosystem e.e. planhigion yn cystadlu am ddwr
Diffiniwch effaith sylfaenydd
Colli amrywiad genynnol mewn poblogaeth newydd sydd wedi’o sefydlu gan nifer bach iawn o unigolion o boblogaeth fwy
Yn ol egwyddor Hardy-Weinberg, nodwch yr amodau delfrydol
1) Mae organebau’n ddiploid, mae amlderau alelau’n hafal yn yddau ryw, maen nhw’n atgenhedlu’n rhywiol ac yn cyplu ar hap, a does dim gorgyffwrdd rhwng cenedlaethau
2) Mae maint y boblogaeth yn fawr iawn, a does dim mudo, mwtaniadau na dethol
Ysgrifennwch egwyddor Hardy-Weinberg
p2 + 2pq + q2 = 1
p yn cynrychioli amlder yr alel trechol
q yn cynrychioli amlder yr alel enciliol
p2 = amlder homosygaidd trechol
2pq = amlder heterosygaidd
q2 = amlder homosygaidd enciliol
Mae ffibrosis cystig yn gyflwr enciliol sy’n effeithio ar tua 1 o bob 2,500 o fabanod. Cyfrifwch amlder yr alel enciliol a chyfran y cludyddion yn y boblogaeth
q2 = 1/2,500 = 0.0004
q = Π0.0004 = 0.02 felly amlder alel (q) = 2%
gan fod q + p = 1, p = 1 - 0.02 = 0.98
amlder yr heterosygotau, 2pq, = 2 x 0.98 x 0.02 = 0.0392 = 0.04 (i 2 le degol)
0.04 x 100 = 4% neu 1 o bob 25 yn gludyddion
Diffiniwch rywogaeth
Grwp o organebau gyda nodweddion tebyg sy’n gallu rhyngfridio i gynhyrchu epil ffrwythlon
Eglurwch ffurfiant rhywogaethau alopatrig
O ganlyniad i arunigo daearyddol, sy’n achosi arunigo atgenhedlu dau is-grwp (cymdogaeth) o fewn poblogaeth o’r un rhywogaeth, gan atal llif genynnau rhyngddynt. Ar ol flynyddoedd maeth, mae amlderau alelau o fewn t cymdogaethau yn newid o ganlyniad i wahanol fwtaniadau. Os caiff y rhwystr ei dynnu, mae’r ddwy boblogaeth wedi newid cymaint nes nad ydynt yn gallu rhyngfridio’n lwyddiannus rhagor
Eglurwch ffurfiant rhywogaethau sympatrig
Arunigo atgenhedlu yn digwydd i boblogaethau sy’n byw gyda’i gilydd am resymau heblaw rhywstr daearyddol, e.e. mae arunigo ymddygiadol yn digwydd mewn anifeiliaid ag ymddygiad carwriaethol cymhleth lle mae unigolion o un isrywogaeth yn methu a denu’r ymateb gofynnol
Disgrifiwch anffrwythlondeb croesryw
Yn digwydd pan fydd dwy rywogaeth sy’n perthyn yn agos i’w gilydd yn rhyngfridio ond achos gwahaniaethau i adeiledd neu nifer y cromosomau, dydy’r cromosomau ddim yn gallu paru yn ystod Proffas I meiosis ac felly does dim gametau’n ffurfio. Mae hyn yn arwain at epil anffrwythlon
Diffiniwch esblygiad
Ffurfio rhywogaethau newudd o rai a oedd yn bodoli eisoes, dros gyfnod hir
Yn fyr, disgrifiwch yr arsylwadau datlbygodd Darwin yn y 19eg ganrif ar gyfer ei esblygiad Darwinaidd
1) Mae organebau’n cynhyrchu gormod o epil, fel bod llawer o amrywiad ymysg genoteipiau’r boblogaeth
2) Mae newidiadau i amodau amgylcheddol yn dod a phwysau dethol newydd achos cystadleuaeth/ysglyfaethu/clefydau
3) Dim ond yr unigolion hynny ag alelau buddiol sy’n cael mantais ddetholus sy’ cynyddu eu siawns o oroesi
4) Mae’r unigolion hyn, yna’n atgenhedlu’n fwy llwyddiannus na’r rhai heb yr alelau buddiol
5) Mae’r epil yn fwy tebygol o etifeddu’r alelau buddiol
6) Mae amlder yr alel buddiol yn cynyddu o ganlyniad o fewn cyfanswm genynnol
Nodwch fformiwla prawf-t
t = x1 - x2 / Π S12/n1 + S22/n2
x = cymedr yr arsylwadau
n = nifer yr arsylwadau (maint y sampl)
s = gwyriad safonol
Rhowch ddull i ddisgrifio sut byddech chi’n defnyddio’r prawf-t
1) Cyfrifwch gymedrau’ ddau sampl
2) Yna, tynnwch un o’r llall
3) Yna, cyfrifwch wyriad safonol y ddau sampl drwy dynnu’r gwerth gwirioneddol o’r cymedr ar gyfer pob arsylwad
4) Sgwariwch bob gwerth ac adiwch nhw at ei gilydd
5) Rhannwch y gwerth hwn gyda nifer yr arsylwadau tynnu 1 a darganfyddwch ail isradd eich ateb
6) Cyfrifwch wyriad safonol y sampl arall
7) Sgwariwch eich gwyriad a’i rannnu gyda nifer yr arsylwadu yn y sampl hwnnw, gwnewch yr un peth at gyfer y sampl arall, adiwch hwy at ei gilydd a darganfyddwch ail isradd eich ateb
8) Yn olaf, rhannwch y gwahaniaethau rhwng y cymedrau gyda fformiwla prawf-t