Pennod 1 - Atgenhedlu Rhywiol Mewn Bodau Dynol Flashcards
Disgrifiwch yr hormonau sy’n cael eu secretu yn ystod genedigaeth
Mae’r chwarren ol bitwidol yn secretu ocsitosin sy’n arwain at gyfangiadau’r myometriwm. Mae cyfangiadau hyn wedyn yn achosi secretu mwy o ocsitosin - adborth positif - gan achosi cyfangiadau cryfach a mwy aml. Mae’r chwarren bitwidol flaen yn secretu prolactin, sy’n arwain at gynhyrchu llaeth, ac mae hwn yn cael ei ryddhau o’r tethi wrth i ocsitosin achosi cyfyngiad y cyhyrau o gwmpas y dwythellau llaeth
Yn y system genhedlu fenywol, disgrifiwch beth sy’n digwydd pob mis sy’n gwneud a’r ofariau
Mae un oocyt eilaidd yn cael ei ryddhau yn ystod ofwliad o arwyneb un o’r ofariau
Disgrifiwch y broses sbermatogenesis
1) Mae celloedd epithelaidd cenhedlol diploid yn rhannu drwy gyfrwng mitosis i gynhyrchu sbermatogonia diploid
2) Mae sbermatocytau cynradd (2n) yn rhannu drwy gyfrwng meiosis i gynhyrchu sbermatocytau eilaidd (n)
3) Mae sbermatocytau eilaidd (n) yn cyflawni meiosis II i wneud sbermatidau (n)
4) Mae’r sbermatidau’n gwahaniaethu ac yn aeddfedu i ffurfio sbermatosoa (n)
5) Mae celloedd Sertoli yn darparu maetholion i sbermatosoa ac yn eu hamddiffyn nhw rhag system imiwnedd y gwryw
6) Mae celloedd interstitaidd yn secretu testosteron
Diffiniwch gynhwysiant
Newidiadau i bilenni sberm sy’n ei wneud yn fwy hylifol ac yn caniatau i’r adwaith acrosom ddigwydd
Enwch y peth sy’n secretu mwcws yn y system genhedlu wrywol
Y fesiglau semenol
Disgrifiwch adeiledd oocyt eilaidd dynol
1) Mae diamedr ofwm nodweddiadol yn 120µm ac mae’n un o’r celloedd mwyaf yn y corff dynol
2) Mae brasterau ac albwminau yn y cytoplasm yn darparu maeth i’r embryo sy’n datblygu nes iddo fewnblannu ym mur y groth ac wedyn mae’r brych yn gallu darparu maetholion
3) Mae newidiadau i’r zona pellucida sy’n digwydd ar ol i un sbermatosoon fynd i mewn, yn atal polysbermedd (mwy o sberm yn mynd i mewn)
Disgrifiwch yn fanwl y digwyddiadau yn ystod y gylchred fislifol ddynol ar ddiwrnod 5
Mae hormon symbylu ffoliglau, FSH, yn cael ei ryddhau o’r chwarren bitwidol flaen gan gynorthwyo’r ffoligl Graaf i aeddfedu a symbylu’r broses o gynhyrchu’r hormon steroid, oestrogen yn yr ofari. Effaith oestrogen yw cynyddu trwch a fasgwlaredd leinin y groth, yr endometriwm, i baratoi am fewnblaniad ofwm ffrwythlon
Diffiniwch;
1) droffoblast
2) fewnblaniad
1) Y celloedd sy’n ffurfio haen allanol y blastocyst
2) Y blastocyst yn suddo i menw i’r endometriwm
Eglurwch gyfrifoldeb yr hormon gonadotroffin corionig dynol, hCG
Yn cale ei secretu gan y blastocyst, ac yn ddiweddarach gan y corion. Mae hCG yn gyfrifolam gynnal corpus luteum sy’n secretu progesteron i gynnal yr endometriwm
Ym mle mae oocytau’n aeddfedu o gelloedd epitheliwm cenhedlol?
Yn y ddau ofari
Disgrifiwch yn fanwl y digwyddiadau yn ystod y gylchred fislifol ddynol ar ddiwrnod 14
Mae lefelau oestrogen yn ddigon uchel i atal cynhyrchu mwy o FSH drwy adborth negatif, a symbylu’r broses o ryddhau hormon lwteneiddio, LH. Mae LH yn cael ei ryddhau’n gyflym, gan achosi ofwliad. Mae hefyd yn cynorthwyo’r broses o ffurfio corpus luteum ac yn symbylu’r broses o ryddhau hormon steroid arall ohono, sef progesteron. Mae’r lefelau uchel o brogesteron sy’n ffurfio dros y 10 diwrnod nesaf, yn atal FSH a LH. Mae lefelau oestrogen a phrogesteron yn gostwng ac mae leinin yr endometriwm yn ymddatod gan arwain at y mislif. Os yw ffrwythloniad wedi digwydd, bydd lefelau progesteron yn aros yn uchel a bydd hyn yn atal y chwarren bitwidol rhag rhyddhau FSH ac LH
Nodwch ble mae sbermatosoa yn ffurfio
Yn y ddau gaill
Enwch y tiwb mae’r semen yn gadael y pidyn trwyddo
Wrethra
Disgrifiwch y digwyddiadau sy’n arwain at ffrwythloniad
1) Mae colesterol a glycoproteinau yn cael eu tynnu o’r gellbilen sy’n gorchuddio acrosom y sberm, gan wneud y bilen yn fwy hylifol. Enw’r broses hon yw cynhwysiant
2) Mae’r acrosom yn rhyddhau ensymau proteas sydd yn treulio’r celloedd sy’n ffurfio’r corona radiata o gwmpas yr oocyt, gan ganiatau i ben y sberm ddod i gysylltiad gyda’r zona pellucida. Nawr mae acrosin yn hydrolysu’r zona pellucida ac felly mae’r pen yn gallu mynd i mewn i’r oocyt; adwaith acrosom
3) Mae cellbilenni’r sberm a’r oocyt yn asio, ac mae’r cnewyllyn gwrywol yn gallu dechrau mynd i mewn i gytoplasm yr oocyt. Mae hyn yn cychwyn yr adwaith cortigol, lle mae pilenni’r gronynnau cortigol yn asio gyda chellbilen yr oocyt gan achosi iddi ehangu a chaledu i ffurfio’r bilen ffrwythloniad sy’n atal polysbermedd, sef mwy o sberm yn mynd i mewn
4) Yn y cyfamser, mae’r ail raniad meiotig yn cwblhau, ac mae’r ofwm yn ffurfio sy’n cynnwys y cnewyllyn benywol ac ail gorffyn pegynol.
5) Ffrwythloniad yw’r dilyniant o ddigwyddiadau o’r pwynt lle mae’r sberm yn dod i gysylltiad gyda’r oocyt, nes bod y cromosomau gwrywol a benywol yn uno ar y cyhydedd mitotig. Mae’r rhaniad mitotig cyntaf yn cynhyrchu dwy gell, gelwir y gell wedyn wedi ffurfio yn embryo