Pennod 2 - Atgenhedlu Rhywiol Mewn Planhigion Flashcards

1
Q

Disgrifiwch adeiledd ffa (Vicia faba)

A

Mae’n ddeugotyledonaidd ac felly mae ganddynt ddwy o’r dail hedyn neu gotyledonau sy’n amsugno’r storfa bwyd neu’r endosberm. Mae cynwreiddyn yn ffurfio’r gwreiddyn, ac mae’r cyneginyn yn ffurfio’r cyffyn

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
2
Q

Diffiniwch ymagor

A

Agor yr antheri i ryddhau gronynnau paill

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
3
Q

Eglurwch pam mae hunanbeilliad yn arwain at lai o amrywiad genynnol

A

Oherwydd dim ond mwtaniadau, rhydd-dosraniad a thrawsgroesi sy’n gallu achosi amrywiad genynnol

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
4
Q

Eglurwch bwysigrwydd gwasgaru hadau

A

Mae’n galluogi eginblanhigion i egni i ffwrdd o’r rhiant-blanhigyn ac felly’n lleihau cystadleuaeth am adnoddau

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
5
Q

Nodwch ofynion angenrheidiol ar gyfer eginiad y ffeuen (vicia faba)

A

1) Tymheredd optimwm ar gyfer actifedd ensymau
2) Dwr i symud ensymau a chludo cynhyrchion i fannau sy’n tyfu
3) Ocsigen ar gyfer resbiradaeth aerobig i gynhyrchu ATP ar gyfer prosesau celloedd fel synthesis proteinau

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
6
Q
A
How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
7
Q

Diffiniwch brotandredd

A

Y brigerau’n aeddfedu cyn y stigmau

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
8
Q

Nodwch y dulliau gwasgaru hadau gan enghreifftio

A

1) Gwynt - hadau dant y llew
2) Dwr - cnau coco
3) Anifeiliaid, yn sownd yn eu ffwr - cyngaf (burdock)
4) Anifeiliad, bwyta’r ffrwythau ac yn carthu’r hadau - ceirios

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
9
Q

Heblaw am leihad mewn amrywiad genynnol, beth yw’r anfantais genynnol arall sy’n gysylltiedig ag hunanbeilliad?

A

Mwy o risg y bydd alelau enciliol niweidiol yn dod at ei gilydd

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
10
Q

Disgrifiwch adeiledd blodyn sy’n cael ei beillio gan bryfed

A

1) Petalau mawr lliwgar, arogl a neithdar i ddenu peillwyr fel pryfed
2) Antheri y tu mewn i’r blodyn sy’n trosglwyddo paill i bryfed wrth iddynt fwydo ar neithdar
3) Stigma y tu mewn i’r blodyn i gasglu paill oddi ar bryfed wrth iddynt fwydo ar neithdar
4) Symiau bach o baill gludiog gyda gwaed garw i lynu wrth bryfyn

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
11
Q

Eglurwch y newidiadau i’r mas sych y cotyledonau a’r cyfanswm mas yr hedyn yn ystod eginiad

A

Mae mas sych y cotyledonau’n lleihau gan fod cronfeydd bwyd yn cael eu defnyddio ar gyfer twf yr embryo. Mae cyfanswm mas yr hedyn yn lleihau i ddechrau, nes bod y cyneginyn yn gallu dechrau cyflawni ffotosynthesis

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
12
Q

Rhowch air arall am blanhigion blodeuol

A

Angiosbermau

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
13
Q

Disgrifiwch ddatblygiad y gamet benywol

A

Mae’r ofwlau yn cynnyws mamgell megasbor sy’n cyflawni meiosis i gynhyrchu pedair cell haploid; dim ond un o’r rhain sy’n datblygu ymhellach. Mae’n cynhyrchu wyth cell haploid ar ol tri rhaniad mitotig. Mae dwy o’r celloedd hyn yn asio i gynhyrchu cnewyllyn polar diploid, gan adael chwe chell haploid; 3 cell antipodaidd, 2 synergid ac 1 oosffer, sydd i gyd y tu mewn i’r goden embryo sydd wedi’i hamgylchynu gyda’r pilynnau

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
14
Q

Disgrifiwch eginiad y ffeuen (vicia faba)

A

1) Mae’r hedyn yn amsugno dwr, gan achosi i’r meinweoedd chwyddo yn ogystal a symud yr ensymau
2) Mae’r hadgroen (cot y hedyn) yn rhwygo, mae’r cynwreiddyn yn gwthio drwodd yn gyntaf tuag i lawr, ac yna’r cyneginyn tuag i fyny
3) Mae ensym amylas yn hydrolysu startsh i ffurfio maltos sy’n cael ei gludo i’r rhannu o’r planhigyn sy’n tyfu i’w ddefnyddio yn ystod resbiradaeth
4) Yn ystod eginiad, mae’r cotyledonau’n aros dan ddaear
5) Mae’r cyneginyn yn plygu i siap bachyn fel nad yw’r blaen yn cael ei niweidio drwy grafu yn erbyn pridd
6) Pan mae’r cyneginyn yn dod allan o’r pridd, mae’n sythu ac yn dechrau cynhyrchu glwcos drwy gyflawni ffotosynthesis achos mae’r cronfeydd bwyd yn y cotyledonau nawr wedi’u disbyddu

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
15
Q

Diffiniwch beilliad

A

Trosglwyddo paill o anther un blodyn i stigma aeddfed blodyn arall o’r un rhywogaeth

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
16
Q

Disgrifiwch ganlyniad y cnewyllau gwrywol ar ol i’r ddau gametau gwrywol fynd i mewn i’r ofwl yn ystod ffrwythloniad dwbl

A

Mae un cnewyllyn gwrywol yn asio gyda’r cnewyllyn benywol haploid, yr oosffer, i ffurfio sygot. Mae’r ail gnewyllyn gwrywol yn asio gyda’r cnewyllyn polar diploid i ffurfio cnewyllyn triploid sy’n datblygu i ffurfio’r endosberm a fydd yn darparu maeth i’r planhigyn embryo sy’n datblygu

17
Q

Diffiniwch eginiad

A

Y prosesau biocemegol a ffisiolegol sydd yn troi hedyn yn blanhigyn sy’n cyflawni ffotosynthesis

18
Q

Disgrifiwch sut mae rhywogaethau planhigion wedi esblygu i sicrhau trawsbeilliad

A

1) Briger a’r stigma yn aeddfedu ar adegau gwahanol. os mai’r brigerau sy’n aeddfedu’n gyntaf, protandredd yw hyn
2) Mae’r anther wedi’i leoli o dan y stigma, sy’n lleihau’r risg y gallai paill rhydd ddisgyn arno
3) Mae gan rai planhigion flodau gwrywol a benywol ar wahan megis india-corn, neu blanhigion gwrywol a benywol ar wahan megis celyn
4) Mae genynnau rhai planhigion yn anghydnaws megis meillion coch - dydy paill ddim yn gallu egino ar stigma yr un planhigyn

19
Q

Disgrifiwch adeiledd india-corn

A

Mae’n fonogotyledonaidd. Mae hadgroen a mur yr ofari yn asio, felly ffrwyth un hedyn ydynt. Mae hadau’n gallu aros yn gwsg am lawer o flynyddoedd

20
Q

Disgrifiwch y broses ffrwythloniad dwbl o’r fomed mae’r gronyn paill yn glanio ar stigma i’r diwedd lle mae’r ddau gamet gwrywol yn mynd i mewn i’r ofwm

A

Wrth i ronyn paill glanio ar stigma, mae’n egino ac yn cynhyrchu tiwb paill. Cnewyllyn y tiwb paill sy’n rheoli twf y tiwb, ac mae hefyd yn cynhyrhcu hydrolasau, e.e. cellwlasau a phroteasau sy’n treulio llwybr drwy’r golofnig tuag at y micropyl ac i mewn i’r goden embryo gydag arweiniad atynwyr cemegol megis GABA. Yna, mae’r cnewyllyn tiwb yn ymddatod ac mae’r ddau gamet gwrywol yn mynd i mewn i’r ofwm

21
Q

Disgrifiwch adeiledd blodyn

A

Mae’r gametau gwrywol wedi’u cynnwys mewn paill sy’n cael ei gynhyrchu yn yr antheri. Mae ofwl(au) yn cynnwys coden embryo; mae un gamet benywol yn y goden hon. I gynorthwyo trawsbeilliad, mae rhannau gwrywol a benywol y rhan fwyaf o flodau yn datblygu ar wahanol adegau. Mae’r sepalau, sydd fel arfer yn wyrdd, yn amddiffyn y blodyn yn y blaguryn. Mae’r petalau’n gallu bod yn absennol, yn fach ac yn wyrdd, neu’n fawr a lliwgar. Mae rhannau gwrywol y blodau, y brigerau yn cynnwys ffilament sy’n cynnal yr anther sydd yn cynnwys pedair coden baill. Mae rhannau benywol y blodyn, y carpelau, yng nghanol y blodyn ac yn cynnwys yr ofari, lle mae’r ofwlau yn datblygu. Y stigma yw’r arwyneb sy’n derbyn paill yn ystod peilliad

22
Q

Diffiniwch;

1) hunanbeilliad
2) drawsbeilliad

A

1) Pan fydd peilliad yn digwydd rhwng yr anther a’r stigma yn yr un blodyn, neu flodyn gwahanol ar yr un planhigyn
2) Pan fydd paill yn cael ei drosglwyddo i flodyn arall ar blanhigyn gwahanol o’r un rhywogaeth

23
Q

Disgrifiwch ddatblygiad y gamet gwrywol

A

Mae coden baill y cynnwys llawer o famgelloedd paill, ac mae pob un o’r rhain yn rhannu drwy gyfrwng meiosis i gynhyrchu tetrad. Mae’r haen faethol o gwmpas y goden baill, y tapetwm, yn darparu maetholion i’r gronynnau paill sy’n datblygu. Mae cellfur paill yn wydn ac yn gallu gwrthsefyll sychu. Mae’r cnewyllyn haploid y tu mewn i’r gronyn paill yn cyflawni mitosis i gynhyrchu cnewyllyn cenhedlol a chnewyllyn tiwb paill. Yna, mae’r cnewyllyn cenhedlol yn cyflawni rhaniad mitotig arall i gynhyrchu dau gnewyllyn gwrywol. Wrth i haen allanol yr anther aeddfedu a sychu, mae’r muriau allanol yn cyrlio i ffwrdd i ddatgelu’r gronynnau paill - ymagor

24
Q

Diffiniwch ffrwythloniad

A

Y gamet gwrywol yn asio gyda’r gamet benywol, i gynhyrchu sygot diploid

25
Q

Disgrifiwch adeiledd blodyn sy’n cael ei beillio gan y gwynt

A

1) Bach, gwyrdd a disylw, dim persawr, dim petalau fel arfer
2) Antheri yn hongian y tu allan i’r blodyn fel bod y gwynt yn gallu chwythu’r paill i ffwrdd
3) Stigmau mawr pluog i ddarparu arwynebedd arwyneb mawr i ddal gronynnau paill
4) Symiau mawr o baill bach, llyfn, ysgafn i’w cludo gan y gwynt

26
Q

Disgrifiwch effaith giberelin

A

Mae asid giberelig yn rheolydd twf planhigion sy’n tryledu i mewn i’r haen alewron o gwmpas yr endosberm i actifadu genynnau sy’n ymwneud a thrawsgrifiad a throsiad, gan arwain at gynhyrchu amylasau a phroteasau.

Mae’r asidau amino sy’n cael eu cynhyrchu drwy hydrolysu proteinau yn cael eu defnyddio i syntheseiddio amylasau sydd wedyn yn hyrdolysu’r startsh sydd wedi’i storio i ffurfio maltos a glwcos ar gyfer resbiradaeth celloedd yn y cynwreiddyn a’r cyneginyn