Pennod 3 - Etifeddiad Flashcards
Diffiniwch;
1) Genyn
2) Alel
1) Dilyniant DNA ar locws penodol ar gromosom sy’n codio ar gyfer polypeptid penodol
2) Ffurf gwahanol ar yr un genyn gyda threfn basau gwahanol sy’n codio ar gyfer polypeptid gwahanol
Diffiniwch;
1) Homosygaidd
2) Heterosygaidd
1) Lle mae’r ddau alel ar gyfer nodwedd benodol yr un fath
2) Lle mae’r ddau alel ar gyfer nodwedd benodol yn wahanol
Diffiniwch;
1) Trechol
2) Enciliol
1) Yr alelau sy’n cael eu mynegi bob amser, mewn homosygot ac mewn heterosygot
2) Yr alelau sydd ddim ond yn cael eu mynegi yn yr homosygot
Diffiniwch gyd-drechedd
Mae’r ddau alel yn y croesiad yn drechol ac felly mae’r ddau’n cael eu mynegi’n hafal
Diffiniwch drechedd anghyflawn
Mae’r ffenoteip yn rhyngol yn hytrach na bod y ddau alel yn cael eu mynegi
Croeswch flodyn borffor bur (PP) gyda blodyn wyn bur (pp). Yna, croeswch dau epil o F1
Blodyn borffor x Blodyn wyn
PP pp
P p
p
P Pp
F1: Blodau proffor, Pp
Blodyn borffor F1 x Blodyn borffor F1
Pp x Pp
P p
P PP Pp
p Pp pp
F2: Blodau porffor, PP, Pp. Blodau gwyn, pp
Beth yw’r cymhareb cyffredinol gydag etifeddiad deugroesryw?
9:3:3:1
Diffiniwch gysylltedd awtosomaidd
Mae dau enyn gwahanol yn bodoli ar yr un gromosom ac yn cael eu hetifeddi gyda’i gilydd
Diffiniwch gysylltedd ryw
Genyn wedi’i gludo ar gromosomau rhyw X a Y
Nodwch y ddwy wahanol fath o fwtaniad
1) Mwtaniad genynnol/pwynt sy’n digwydd yn ystod dyblygiad DNA
2) Mwtaniad cromosom - Newidiadau i adeiledd neu niferoedd cromosomau cyfan mewn celloedd
Ym mha cyfnod mae mwtaniadau mwyaf tebygol?
Yn ystod trawsgroesiad proffas I ac anwahaniad anaffas I ac anaffas II yn ystod meiosis
Disgrifiwch sut mae mwtaniadau pwynt yn cael eu hachosi
1) Adio neu dynnu: Ychwanegu/dileu bas
2) Amnewid: Cyfnewid un bas am un arall; mae hyn yn newid y codon ac felly’r asid amino
3) Yn dawel: Bas yn newid ond mae’r codon yn dal i godio ar gyfer yr un asid amino
4) Yn digwydd mewn rhan sydd ddim yn codio neu intron
5) Yn digwydd mewn alel enciliol sydd ddim yn cael ei fynegi
6) Yn newid asid amino ond ddim yn newid y ffordd mae’r protein yn gweithio
Diffiniwch epigeneteg
Rheoli mynegiad genynnau drwy addasu DNA neu histonau, heb newid y dilyniant basau
Disgrifiwch y pethau sy’n gallu achosi addasiadau epigeneteg
1) Methyleiddio DNA, sef ychwanegu grwp methyl neu hydrocsimethyl at gytosin, sy’n lleihau trawsgrifiad y genyn
2) Addasu histonau ar o trosiad, sy’n newid y ffordd mae’r histonau’n rhyngweithio gyda DNA gan fod y niwcleosomau wedi’u trefnu’n fwy llac
Nodwch ddeddf cyntaf Mendel
Deddf arwahaniad:
Mae nodweddion organebau yn cael eu penderfynu gna ffactorau sy’n bodoli mewn parau. Dim ond un o bob par o’r ffactorau hyn sy’n bodoli mewn gametau