Opsiwn A: Imiwnoleg a Chlefydau Flashcards
Diffiniwch endemig
Clefyd sy’n digwydd yn aml, ar gyfradd rydym ni’n gallu rhagfynegi, mewn lleoliad neu boblogaeth benodol
Diffiniwch docsin
Moleciwl bach sy’n cael ei wneud mewn celloedd neu organebau, sy’n achosi clefyd ar ol dod i gysylltiad ag ef neu ei amsugno. Mae tocsinau’n aml yn effeithio ar facromoleciwlau megis ensymau, derbynyddion arwyneb cell
Diffiniwch gludydd
Unigolyn neu organeb arall sydd wedi’i heintio, sydd ddim yn dangos unrhyw symptomau ond sy’n gallu heintio eraill
Diffiniwch gronfa clefyd
Organeb letyol tymor hir pathogen, sydd heb lawer o symptomau neu ddim symptomau, sydd bob amser yn ffynhonnell bosibl i gychwyn clefyd
Diffiniwch haint
Clefyd sy’n gallu cael ei drosglwyddo, yn aml drwy fewnanadlu, llyncu neu gyffyrddiad corfforol
Diffiniwch fath antigenig
Unigolion gwahanol o’r un rhywogaeth bathenogenaidd gyda gwahanol broteinau ar eu harwynebau, sy’n arwain at gynhyrchu gwrthgyrff gwahanol
Diffiniwch epidemig
Clefyd heintus yn lledaenu’n gyflym i nifer mawr o bobl o fewn cyfnod byr
Diffiniwch bandemig
Epidemig dros ardal eang iawn, sy’n croesi ffiniau rhyngwladol ac yn effeithio ar nifer mawr iawn o bobl
Diffiniwch antigen
Moleciwl sy’n achosi i’r system imiwnedd gynhyrchu gwrthgyrff yn ei erbyn. Mae antigenau’n cynnwys moleciwlau unigol a moleciwlau ar firysau, bacteria, sborau neu ronynnau paill. Maen nhw’n gallu ffurfio y tu mewn i’r corff, e.e. tocsinau bacteria
Diffiniwch fector
Unigolyn, anifail neu ficrob sy’n cludo pathogen heintus ac yn ei drosglwyddo i organeb fyw arall
Disgrifiwch symptomau, trosglwyddiad a thriniaeth y clefyd colera
- Yn cael ei achosi gan y bacteriwm gram negatif Vibrio Cholera
- Mae’n endemig mewn rhai rhannau o’r byd
Symptomau:
- Mae’r bacteria’n rhyddhau tocsin sy’n achosi rhydd dyfrlyd a ddiffyg hylif
Trosglwyddiad:
- Heintiad o ganlyniad i fwyta neu yfed bwyd/diod sydd wedi’i halogi
- Mae’r bobl heintus yn cludyddion ac yn ymddwyn fel cronfeydd i’r clefyd
Triniaeth:
- Rhoi dwr glan ac electrolytau
- Trin yr haint gyda gwrthfiotigau
- Gall atal y clefyd trwy gael carthffosiaeth well a thrin dwr yn well
- Golchi dwylo
- Mae brechlyn ar gael
Disgrifiwch symptomau, trosglwyddiad a thriniaeth y clefyd twbercwlosis (TB)
- Y basilws Mycobacteriwm tuberculosis yn ei achosi
Symptomau:
- Mae celloedd yn yr ysgyfaint yn cael eu niweidio, gan ffurfio tiwbercylau neu gnepynnau
- Poen yn y frest, gwaed yn y poer, tywmyn
- Gallu bod yn angheuol heb driniaeth o ganlyniad i’r niwed difrifol i’r ysgyfaint
Trosglwyddiad:
- Mewnanadlu defnynnau dwr o besychu a thisian pobl wedi’u heintio
Triniaeth:
- Cwrs hir (6 mis) o wrthfiotigau, ond mae rhai rhywogaethau’n dangos ymwrthedd iddynt
- Brechlyn BCG ar gael; yn cynnwys math gwanedig o’r bacteriwm sy’n perthyn, sef M. bovis
Disgrifiwch symptomau, trosglwyddiad a thriniaeth y clefyd brech wen
- Yn cael ei achosi gan y firws Variola major
Symptomau:
- Achois haint a phoenm gyda brech a phothelli llawn hylif
- Gallu achois dallineb ac achois anffurfiadau i’w haelodau (limb deformities)
Trosglwyddiad:
- Yn mynd i’r pibellau gwaed bach yn y croen a’r geg, ac mae’n lledaenu o gwmpas y corff yn gyflym
Triniaeth:
- Cyffuriau lleddfu poen a therapi cyflenwi hylif
- Gwrthfiotigau
- O ganlyniad i frechlyn wedi’u wneud o’r firws Vaccina cafodd y frech wen ei dileu’n llwyr erbyn 1979
Disgrifiwch symptomau, trosglwyddiad a thriniaeth y ffliw
- Tri is-grwp i firws ffliw, sy’n cynnwys firysau gyda mathau antigenig gwahanol
- Nid yw’r system imiwn yn gallu amddiffyn rhag pob math o’r ffliw gan arwain at epidemigau
- Pandemig yn bosibl (Sbaen, 1918-20, laddodd dros 50 miliwn o bobl ledled y byd)
Symptomau:
- Ymosod ar y pilenni mwcaidd yn y rhan uchaf y llwybr resbiradu gan achosi twymyn, dolur gwddf a pheswch
Trosglwyddiad:
- Mewn defnynnau o bresychu a thisian
Triniaeth:
- Golchi dwylo, defnyddio hancesi papur wrth disian a phesychu
- Brechlynnau’n cael peth effaith, gan dibynnu ar i ba raddau mae’r antigenau firaol wedi mwtanu
- Cyffuriau gwrth-firaol megis Tamiflu
Disgrifiwch symptomau, trosglwyddiad a thriniaeth y clefyd malaria
- Yn cael ei achosi gan y parasit protoctistaidd Plasmodium falciparum a Plasmodium vivax
- Y mosgito benywol yn fector wrth fwydo ar waed
- Endemig mewn rhai ardaloedd istrofannol
- Epidemig yn ystod y tymhorau gwlyb
Symptomau:
- Celloedd coch yn byrstio, achosi twymyn
Trosglwyddiad:
- Mosgito benywol yn bwydo ar waed dynol
- Y parasit yn mynd i’r afu lle mae’n datblygu cyn cael ei ryddhau i heintio celloedd coch y gwaed ac achosi iddynt fyrstio
Triniaeth:
- Amrywiad o gyffuriau / cyfuniadau o gyffuriau
- Atal trwy ddefnyddio ymlidyddion mosgitos a rhwydni gwely gyda phryfleiddiad ynddynt
- Draenio dwr llonydd lle mae mosgitos yn dodwy eu hwyau
- Rhyddhau mosgitos gwrywol anffrwythlon
- Cyflywno pysgod sy’n bwyta larfau mosgitos
Diffiniwch wrthfiotig
Meddygiaeth sy’n atal twf bacteria neu’n eu dinistrio nhw
Diffiniwch firws
Parasit mewngellol sy’n defnyddio llwybrau metabolaidd y gell letyol i atgynhyrchu
Disgrifiwch yr effeithiau pathenogenaidd ar organeb letyol mae firysau’n achosi
1) Yn ystod lysis cell, mae’r gell yn byrstio gan adael i ronynnau firws ddod allan a heinto celloedd eraill
2) Maent yn cynhyrchu llawer o sylweddau genwynig
3) Mae trawsffurfiad celloedd yn gallu digwydd, sy’n golygu bod DNA firaol yn integreiddio i mewn i gromosom yr organeb letyol. Mae canser yn ganlyniad
4) Mae rhai firysau’n achosi atal imiwnedd
Disgrifiwch sut gallwn ni reoli haint bacteriol
1) Mae sterileiddio yn lladd pob micro-organeb a phob sbor. Gyflawnir hyn trwy ddefnyddio ffwrn aerglos dros 121*C am o leiaf 15 munud neu drwy ddefnyddio ymbelydredd gama
2) Diheintio ag antiseptig neu ddiheintydd yn cael gwared ar y rhan fwyaf o ficro-organebau, ond dim pob un
Enwch a disgrifiwch y ddau gategori o wrthfiotigau
1) Bacterioleiddiol - lladd bacteria megis penisilin
2) Bacteriostatig - Atal twf bacteria yn y corff megis tetracyclin
Diffiniwch ymwrthedd i’r wrthfiotig
Sefyllfa lle dydy gwrthfiotig a oedd yn lladd micro-organeb ddim yn effeithio arni mwyach oherwydd ei gyfradd mwtaniadau uchel a rhaniad cyflym. Mae’n datlbygu ensym sy’n ymddatod y gwrthfiotig ac yn trosglwyddo’r alel ddetholus yma wrth atgenhedlu’n anrhywiol
Disgrifiwch sut mae’r croen yn amddiffyn anifeiliaid rhag i bathogenau effeithio arnynt
Mae’n rhwystr ffisegol gyda pH ychydig yn asidig i atal pathogenau rhag tyfu
Disgrifiwch sut mae’r fflora croen naturiol yn amddiffyn anifeiliaid rhag i bathogenau effeithio arnynt
Amddiffyn trwy gystadlu gyda bacteria pathenogenaidd ac yn wahanol i’r bacteria hyn, dydy hi ddim yn hawdd golchi’r fflora i ffwrdd
Disgrifiwch sut mae lysosomau yn amddiffyn anifeiliaid rhag i bathogenau effeithio arnynt
Mae’r rhain yn cael eu cynhyrchu mewn dagrau sy’n gallu hydrolysu cellfuriau
Disgrifiwch sut mae asid y stwmog yn amddiffyn anifeiliaid rhag i bathogenau effeithio arnynt
Lladd bacteria gyda pH asidig iawn
Disgrifiwch sut mae’r cilia a mwcws yn amddiffyn anifeiliaid rhag i bathogenau effeithio arnynt
Yn y tracea a philenni mwcaidd eraill, mae’r rhain yn dal gronynnau a microbau o’r aer ac yn cael gwared arnynt
Disgrifiwch sut mae ceulo gwaed yn amddiffyn anifeiliaid rhag i bathogenau effeithio arnynt
Selio clwyfau agored
Disgrifiwch sut mae’r ymateb llidiol yn amddiffyn anifeiliaid rhag i bathogenau effeithio arnynt
Cynyddu llif gwaed i safle anaf
Enwch darddle lymffosytau
O gelloedd bonyn ym mer yr esgyrn hir
Enwch a disgrifiwch y ddau fath o lymffosyt sy’n ymwneud a’r ymateb imiwn
1) Lymffosytau B - sy’n aeddfedu yn y ddueg a’r nodau lymff
2) Lymffosytau T - Sy’n cael eu hactifadu yn y chwarren thymws
Disgrifiwch weithred celloedd T lladd (cytotocsig)
Rhwymo wrth gelloedd estron ag atigenau cyflenwol ac yn eu dinistrio nhw
Disgrifiwch weithred celloedd T helpu
Symbylu ffagocytosis a chynhyrchu gwrthgyrff ac yn actifadu celloedd T lladd
Disgrifiwch weithred celloedd T cof
Aros yn y gwaed ac yn gallu ymateb yn gyflym os daw’r un haint i’r golwg eto
Diffiniwch wrthgorff
Imiwnoglobwlin sy’n cael ei gynhyrchu gan system imiwnedd y corff fel ymateb i antigen
Disgrifiwch ymateb hylifol
Mae’n achosi i’r lymffosytau B gynhyrchu gwrthgyrff. Pan mae’n adnabod ei antigen penodol, mae’n rhannu’n gyflym i gynhyrchu clonau sydd yna’n troi’n ddau fath o gell: 1) Celloedd plasma, sydd ag oes fyr ac s’n secretu gwrthgyrff ar unwaith, 2) Celloedd cof, sy’n byw dipyn yn hirach ac yn cychwyn yr ymateb imiwn eilaidd os daw’r un haint i’r golwg eto
Mae microbau gydag antigenau ar eu harwynebau’n caslgu gyda’i gilydd (cyfludo) sy’n gwneud hi’n anoddach iddynt heintio celloedd eraill ac yn haws i facroffagau eu hamlyncu nhw
Disgrifiwch ymateb cell-gyfryngol
Yn cynnwys ymosod ar ddefnydd estron y tu mewn i’r celloedd e.e. mae’n actifadu firws, ffagosytau, lymffocytau B a lymffocyatu T. Mae lymffocytau T yn ymaten i antigenau penodol ar arwyneb celloedd ac yn rhannu’n gyflym drwy gyfrwng mitosis i ffurfio clonau
Pa fath o amddiffyniad mae celloedd cof yn eu rhoi?
Amddiffyniad tymor hir
Disgrifiwch ymateb imiwn cynradd
Yn ystod y cyfnod diddigwydd, mae’r corff yn ymateb i antigen estron drwy gynhyrchu gwrthgyrff. Mae’r broses yn cynnwys:
1) Celloedd cyflwyno antigenau sy’n cyflawni ffagocytosis ac yn ymgorffori’r antigen estron i mewn i’w cellbilenni
2) Mae celloed T helpu yn canfod yr antigenau hyn ac yn secretu cytocinau, sy’m symbylu celledd B a macroffagau
3) Mae celloedd B yn cael eu hactifadu ac yn cyflawni ehangiad clonau i gynhyrchu celloedd plasma a chelloedd cof
4) Mae’r celloedd plasma’n secretu gwrthgyrff
5) Mae’r celloedd cof yn aros yn y gwaed i amddiffyn rhag i’r haint ymddangos eto
Disgrifiwch ymateb imiwn eilaidd
Os yw’r corff yn dod i gysylltiad gyda’r un antigen eto, mae celloedd cof yn cael eu symbylu i’w clonio’u hunain a chynhyrchu celloedd plasma, sy’n cynhyrchu gwrthgyrff
Diffiniwch frechlynnau
Antigenau sydd wedi’u harunigo’n uniongyrchol o’r pathogen, rhywogaethau gwannach o’r pathogen, neu docsin wedi’i anactifadu
Disgrifiwch imiwnedd goddefol
Digwydd pan mae’r corff yn derbyn gwrthgyrff, naill ai’n naturiol (llaeth y fam) neu’n artiffisial o bigiad pan mae angen amddiffyniad yn gyflym. Mantais yw bod y corff yn cael amddiffyniad ar unwaith ond anfanteision yw nad yw’r amddiffyniad yn para’n hir achos dydy’r corff ddim wedi cynhyrchu celloedd cof, a gallai’r corff ysyried bod pigiad o wrthgyrff artiffisial yn estron ac felly wneud gwrthgyrff yn eu herbyn hwy
Disgrifiwch imiwnedd actif
Digwydd pan mae’r corff yn cynhyrchu ei wrthgyrff ei hun fel ymateb i bresenoldeb antigenau. mae hyn yn amddiffyn rhag ail haint o ganlyniad i gynhyrchiad celloedd T cof penodol i’r antigen ac mae rhai gwrthgyrff yn aros yn y gwaed i amddiffyn rhag ail-haint. Mae’n gallu bod yn naturiol neu artiffisial trwy gyflenwi antigenau ar ffurf brechlyn, sy’n sbarduno cynhyrchu gwrthgyrff heb symptomau’r clefyd
Pam mae antigenau mewn brechlynnau yn gorfod bod yn imiwnogenig iawn?
I sicrhau symbylu’r ymateb system imiwn amddiffynnol
Esboniwch ddau wahaniaeth rhwng imiwnedd actif a goddefol
Actif - unigolyn yn cynhyrchu gwrthgyrff fel ymateb i haint neu freichiad – Goddefol - Unigolyn yn cael gwrthgyrff naill ai o’r brych/llaeth bron neu o bigiad gwrthgyrff
Actif - para’n hirach nag imiwnedd goddefol achos bod celloedd cof yn cael eu cynhyrchu