1.6 Cylchred Y Gell A Chellraniad Flashcards
Nodwch;
1) Cynnwys DNA (u.m.)
2) Nifer y cromosomau ym mhob cell yn ystod proffas 1
1) 4
2) 2n
Disgrifiwch y broses anaffas yn ystod mitosis
1) Ffibrau’r werthyd yn mynd yn fyrrach
2) Centromerau’n rhannu a’r cromatidau’n cael eu tynnu at y pegynnau cyferbyn
Nodwch yr hafaliad sy’n cyfrifo’r canran y celloedd sy’n cyflawni mitosis
% celloedd sy’n cyflawni mitosis = (nifer y celloedd mewn proffas + metaffas + anaffas + teloffas/cyfanswm nifer y celloedd) x100
Disgrifiwch y broses metaffas 1 yn ystod meiosis
1) Mae’r werthyd yn ffurfio
2) Mae parau o gromosomau homologaidd (deufalentau) yn eu trefnu eu hunain ar gyhydedd y gell gan lynu wrth ficrodiwbynnau’r werthyd wrth y centromer
3) Mae hyn yn digwydd ar hap ac rydym ni’n ei alw’n rhydd-ddosraniad
Disgrifiwch y broses teloffas 2 yn ystod meiosis
1) Mae’r cromatidau’n cyrraedd y polau ac yn mynd yn aneglur
2) Mae’r bilen gnewyllol yn ailffurfio
3) Mae’r cnewyllan yn ailffurfio
4) Mae’r werthyd yn ymddatod
Diffiniwch gromosomau homologaidd
Mae cromosomau homologaidd yr un siap a maint â’i gilydd ac yn cludo’r un genynnau, ond maen nhw’n gallu bod yn fersiynau gwahanol, sef alelau. Mae’r ddau riant yn cyfrannu un cromosom yr un at bob pâr
Diffiniwch ryngffas
Cyfnod o synthesis a thwf yn ystod cylchred y gell
Eglurwch sut byddech chi’n cyfrifo hyd cyfnod yng nghylchred y gell
1) Cyfrifiwch gyfran y celloedd sydd ar y cam hwnnw drwy gyfrif dan ficrosgop e.e. 20 cell yn y golwg, 16 ohonynt mewn rhyngffas, felly 16/20 = 80%
2) Defnyddiwch y gyfran gyda hyd cylchred y gell e.e. Os hyd cylchred y gell yn 24 awr - 24 awr x 80% = 19.2 awr neu 19 awr a 12 munud yw hyd rhyngffas
Diffiniwch indecs mitotig
Y cymhareb nifer y celloedd mewn poblogaeth sy’n cyflawni mitosis i nifer y celloedd sydd ddim. Mae’n ffordd o fesur twf
Disgrifiwch y broses teloffas yn ystod mitosis
1) Cromatidau’n cyrraedd y pegynnau ac yn mynd yn aneglur drwy ddad-dorchi
2) Amlen gnewyllol yn ailffurfio
3) Cnewyllan yn ailffurfio
4) Gwerthyd yn ymddatod
Disgrifiwch y broses teloffas 1 yn ystod meiosis
1) Mae’r cromosomau’n cyrraedd y ddau begwn
2) Mewn rhai achosion:
- Mae’r bilen gnewyllol yn ailffurfio
- Mae’r cnewyllan yn ailffurfio
- Mae’r werthyd yn ymddatod
Nodwch;
1) Cynnwys DNA (u.m.)
2) Nifer y cromosomau ym mhob cell yn ystod teloffas 2
1) 2
2) n
Faint o gromosomau sydd gyda;
1) bodau dynol
2) taten
1) 46
2) 48
Disgrifiwch sut mae cytocinesis yn digwydd mewn celloedd anifail
Mae’r bilen yn plygu i mewn drwy ffurfio hollt ymraniad, nes bod y ddwy gell yn gwahanu
Ym mha gam mitosis mae DNA, protein ac organynnau yn cael eu syntheseiddio?
Rhyngffas
Disgrifiwch y broses proffas yn ystod mitosis
1) Mae cromosomau’n cyddwyso i fynd yn fyrrach ac yn fwy trwchus
2) Cromosomau’n ymddangos fel dwy chwaer-gromatid wedi’u cysylltu â chentromer
3) Mae’r centriolau’n symud at begynau cyferbyn (ddim mewn planhigion datblygedig)
4) Mae’r amlen gnewyllol yn ymddatod
5) Mae’r cnewyllan yn diflannu
Disgrifiwch y broses metaffas 2 yn ystod meiosis
1) Mae’r cromosomau’n eu gosod eu hunain ar gyhydedd y gell gan lynu at ficrodiwbynnau’r werthyd gan y centromer
Disgrifiwch sut mae cytocinesis yn digwydd mewn celloedd planhigyn
Mae cellblat yn ffurfio o’r canol tuag allan, nes bod y gell wedi’i rhannu’n ddwy
Disgrifiwch y broses anaffas 1 yn ystod meiosis
1) Mae’r ffibrau’r werthyd yn mynd yn fyrrach
2) Mae’r deufalentau’n gwahanu ac mae’r cromosomau’n cael eu tynnu at y pegynau cyferbyn
Beth yw rhif;
1) diploid
2) tetraploid
3) haploid
1) 2n
2) 4n
3) n
Pa broses cellraniad mae’r genynnau proto-oncogenynnau yn rheoli?
Mitosis
Eglurwch arwyddocad mitosis yn gyffredinol
Mae’n bwysig i dwf ac atgyweirio wrth i gelloedd gwahaniaethol ddyblgu. Mae’n bwysig i atgynhyrchu anrhywiol sy’n cynhyrchu epil genetig unfath a chynyddu niferoedd yn gyflym
Rhestrwch y gwahaniaethau rhwng mitosis a meiosis
1) Un cellraniad yn ystod mitosis, dau gellraniad yn ystod meiosis
2) Mitosis yn cynhyrchu celloedd genetig unfath, meiosis yn cynhyrchu celloedd genetig gwahanol
3) Ceir celloedd diploid yn ystod mitosis, ceir celloedd haploid yn ystod meiosis
4) Dim trawsgroesiad neu rhydd-ddosraniad yn ystod mitosis, trawsgroesiad yn ystod proffas 1 a rhydd-ddosraniad yn ystod metaffas 1 a 2 yn digwydd yn ystod meiosis