1.3 Cellbilenni A Chludiant Flashcards
Diffiniwch broteinau anghynhenid
Proteinau sy’n bodoli ar arwyneb yr haen ddwbl, gan weithredu fel derbynyddion hormonau a safleoedd adnabod
Diffiniwch osmosis
Trylediad goddefol net molecylau dŵr ar draws pilen athraidd ddetholus o ardal â photensial dŵr uchel i ardal â photensial dŵr isel
Sut allwn ni fesur plasmolysis cychwynnol?
Trwy roi celloedd planhigion mewn hydoddiannau â gwahanol botensialau hydoddyn ac yna edrych ar y celloedd o dan ficrosgop
Diffiniwch chwydd-dynn
Mae hyn yn golygu nad yw cell planhigyn yn gallu dal mwy o ddŵr, oherwydd dydy’r cellfur ddim yn gallu ehangu ymhellach
Disgifiwch y broses plasmolysis yng nghell planhigyn
Pan rhoddir mewn hydoddiant hypertonig, mae hi’n colli dŵr drwy gyfrwng osmosis.
Mae’r gwagolyn yn crebachu a bydd cytoplasm yn tynnu oddi wrth y cellfur. Ar ol iddo ddadgysylltu, gelwir y gell yn llipa
Beth yw’r ffactor cyfangedig ar gyfradd cludiant actif?
Nifer y proteinau cludo sydd ar gael
Diffiniwch botensial hydoddyn
Mae hwn yn cynrychioli cryfder osmotig hydoddiant. Mae’n mesur faint mae’r potensial dŵr yn lleihau o ganlyniad i bresenoldeb molecylau hydoddyn. Mae’n gallu bod yn 0kPa neu’n negatif
Disgrifiwch y mecanwaith o amsugno gwlcos yn ilewm mamolion
Defnyddir cydgludiant
1) mae ïonau Na yn cael eu cluo’n actif allan o gelloedd epithelaidd sy’n leinio’r ilewm i mewn i’r gwaed, gan greu crynodiad isel o ïonau Na yn y celloedd
2) Mar crynodiad uwch yr ïonau Na tn lwnen y coludd, o’i gymharu ag yn y celloedd epithelaidd, yn achosi i ïonau Na dryledu i’r celloedd epithelaidd drwy gyfrwng protein cydgludiant. Wrth iddynt wneud hynny, maent yn cyplu â molecylau glwcos ac yn eu cludo hwy â hwy
3) mae molecylau glwcos yn mynd i gapilarïau’r gwaed drwy gyfrwng trylediad cynorthwyedig, ac mae’r ïonau Na yn mynd i mewn iddynt drwy gyfrwng cludiant actif
Yn ôl yr hafaliad canran plasmolysis, pryd mae plasmolysis cychwynnol wedi’i gyrraedd?
Os mae’n hafal i 50%, mae wedi’i gyrraedd, a rhaid i grynodiad allanol y swcros fod yn hafal i grynodiad hydoddion mewnol meinwe’r winwnsyn oherwydd does dim symudiad net dŵr
Pam nad oes potensial gwasgedd â chelloedd anifeiliaid?
Nid oes ganddynt gellfur
Disgrifiwch endocytosis
Pan mae’r defnydd yn cael ei amlyncu wrth i’r bilen blasmaidd blygu tuag i mewn a dod ag ef i mewn i’r gell mewn fesigl
Mae gan drylediad a thrylediad cynorthwyedig yr un ffactorau sy’n effeithio ar ei gyfradd, ond mae gan drylediad cynorthwyedig un ffactor ychwanegol. Disgrifiwch y ffactor yma
Yn y pen draw, bydd y gyfradd yn dibynnu ar nifer y proteinau cludo sydd ar gael
Disgrifiwch beth fydd yn digwydd wrth ychwanegu cell coch i hydoddiant;
1) Hypotonig
2) Hypertonig
1) mae dŵr yn llifo mewn drwy gyfrwng osmosis ac mae’n byrstio; haemolysis yw hyn
2) mae dŵr yn llifo allan o’r gell drwy gyfrwng osmosis ac rydym yn dweud ei fod yn hiciog (crenated)
Ar sail egni, pa briodwedd sydd gan gludiannau goddefol?
Nid oes angen egni o ATP ar gyfer hwy
Diffiniwch broteinau cynhenid
Yn bodoli y tu mewn i’r bilen ac yn ymestyn ar draws y ddwy haen, gan weithredu fel sianeli a phroteinau cludo i gludo molecylau
Disgrifiwch weithred glycoproteinau ar bilenni ffosffolipidau
Gweithredu fel antigenau
Disgrifiwch gludiant actif
Proses actif sy’n cludo molecylau yn erbyn y graddiant crynodiad o grynodiad isel i grynodiad uchel
Disgrifiwch weithred glycolipidau ar bilenni ffosffolipidau
Gweithredu fel safleoedd derbyn i folecylau fel hormonau
Rhowch amcangyfrif y potensial dŵr gyda’r hydoddianau canlynnol;
1) dŵr pur
2) cell nodweddiadol
3) hydoddiant glwcos cryf
1) 0kPa
2) -200kPa
3) -1000kPa
Pa phlanhigyn allwn ddefnyddio i fesur athreiddedd pilenni a pham?
Betys achos mae gwagolynnau eu celloedd yn cynnwys pigment coch o’r enw betacyanin. Mae cyfradd trylediad betacyanin allan o’r gwagolyn drwy ei bilen yn dibynnu ar nifer o ffactorau gan gynnwys tymheredd a phresenoldeb hydoddion organig