1.2 Adeiledd A Threfniadaeth Celloedd Flashcards

1
Q

Beth mae’r niwclioplasm yn cynnwys sy’n cyddwyso i ffurfio cromosomau yn ystod cellraniad?

A

Cromatin

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
2
Q

Disgrifiwch edrychiad y reticwlwm endoplasmig llyfn a rhowch eglurhad o’i weithgaredd

A

Nid oes ganddo ribosomau ac mae’n ymwneud â syntheseiddio a chludo lipidau

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
3
Q

Disgrifiwch edrychiad y reticwlwm endoplasmig garw a rhowch eglurhad o’i weithgaredd

A

Mae ganddo ribosomau sy’n ynghlwm wrth ei arwyneb allanol a chyn gynted ag y mae proteinau wedi’u syntheseiddio yn y ribosomau, maen nhw’n cael eu cludo drwy’r cisternâu

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
4
Q

Faint o mm sydd mewn metr?

A

1,000

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
5
Q

1) Ble mae ribosomau yn bodoli?

2) Beth maent wedi eu gwneud ohonynt?

A

1) Yn y cytoplasm

2) rRNA (RNA ribosomaidd) a phrotein

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
6
Q

Gwir neu gau; mae ribosom wedi’i amgylchynu â philen ddwbl

A

Gau

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
7
Q

Eglurwch y ddamcaniaeth endosymbiotig

A

Mae mitocondria a chloroplastau yn cynnwys eu DNA eu hunain a ribosomau 70s, fel y math mewn procaryotau gan gynnwys bacteria. Awgrymir bod yr organynnau hyn wedi deillio o berthynas symbiotig rhwng celloedd cynnar oedd wedi amlyncu bacteria ffotosynthetig a resbiradol dros 1.5 biliwn o flynyddoedd yn ôl

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
8
Q

Enwch yr hwn sy’n llawn hylif mewn mitocondria a disgrifiwch ei gynnwys

A

Matrics; yn cynnwys lipidau, proteinau, ribosomau 70s a chylch bach o DNA

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
9
Q

Enwch rannau’r ribosom

A

Is-uned fawr ac is-uned fach

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
10
Q

Disgrifiwch feinwe gyswllt

A

Cynnal, cysylltu neu wahannu’r gwahanol fathau o feinweoedd ac organau yn y corff. Mae celloedd wedi’u cynnwys mewn hylif allgellog neu fatrics, ac efallai y byddant wedi’u hamgylchynu â ffibrau elastig neu golagenig fel tendonau a gwaed

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
11
Q

Pam all microsgop electron gweld llawer mwy o ffurfiadau na microsgop golau?

A

Defnyddiwyd electronau sydd â thonfedd lawer byrrach gan roi chwyddhad â mwy o bŵer cydrannu

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
12
Q

Diffiniwch systemau organau

A

Celloedd - Meinweoedd - Organau - Systemau organau

Grwpiau o organau sy’n cydweithio i wneud gwaith penodol megis y system dreulio (Stwmog, ilewm, colon) a’r system gylchrediad (Calon, rhydwelïau, capilarïau, gwythiennau)

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
13
Q

Pa fath o ribosomau sy’n bodoli mewn celloedd;

1) Ewcaryotig?
2) Procaryotig?

A

1) Ribosomau 80s

2) Ribosomau 70s

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
14
Q

Beth gall firysau ddim gwneud heb ddefnyddio cytoplasm organeb letyol?

A

Atgenhedlu na syntheseiddio proteinau

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
15
Q

1) Beth sydd ddim gyda firysau sydd gyda chelloedd procaryotig ac ewcaryotig?
2) Beth sydd gyda firysau sydd ddim gyda chelloedd procaryotig ac ewcaryotig?

A

1) cytoplasm, organynnau, cromosomau

2) craidd o asid niwclëig sy’n gallu bod yn DNA neu’n RNA wedi’i amgylchynu â chot o brotein, sef y capsid

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
16
Q

Disgrifiwch yr holl swyddogaethau organigyn Golgi

A

Mae’n addasu proteinau ac yn eu pecynnu hwy mewn fesiglau i’w hallforio hwy. Hefyd, mae’n ymwneud â chludo a storio lipidau, a chynhyrchu glycoproteinau a lysosomau

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
17
Q

Diffiniwch feinwe

A

Grwp o gelloedd sy’n cydweithio ac sydd â’r un adeiledd a swyddogaeth

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
18
Q

Diffiniwch organ

A

Grwp o feinweoedd mewn uned adeileddol sy’n cydweithio i gyflawni swyddogaeth benodol

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
19
Q

Diffiniwch bŵer cydrannu

A

Y pellter lleiaf sy’n gorfod bod rhwng dau bwynt er mwyn iddynt gael ei gweld fel dau bwynt ar wahan, yn hytrach nag un ddelwedd

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
20
Q

Disgrifiwch y cynnwys ac y gweithred fesiglau oddi ar y reticwlwm endoplasmig a wedyn yn yr organigyn Golgi

A

Yn cynnwys polypeptidau sy’n blaguro oddi ar y reticwlwm endoplasmig garw, ac yn asio â’r organigyn Golgi

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
21
Q

Pa organyn yng nghytoplasm cell ewcaryotig sy’n cynnwys DNA sy’n codio ar gyfer synthesis proteinau?

A

Cnewyllyn

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
22
Q

Disgrifiwch epitheliwm colofnog

A

Enghraifft o feinwe epithelaidd. Mae’r celloedd yn fwy petryal a gallai fod cilia arnynt e.e. Yn leinio’r tracea

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
23
Q

Beth mae’r is-uned fach mewn ribosom yn cynnwys?

A

Safle glynu mRNA

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
24
Q

Dosbarthwch y grwp o gelloedd canlynol i naill ai gelloedd ewcaryotig neu gelloedd procaryotig;
- planhigion, ffyngau, algâu gwyrddlas, anifeiliaid, bacteria, protoctistiaid

A

Celloedd ewcaryotig:
- Planhigion, anifeiliaid, ffyngau, protoctistiaid

Celloedd procaryotig:
- bacteria, algâu gwyrddlas

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
25
Q

Disgrifiwch wagolyn mewn celloedd planhigion

A

Mae’n fawr canolog, wedi’i amglychynu â’r tonoplast

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
26
Q

Disgrifiwch ffurfiad y pilenni dwbl mewn reticwlwm endoplasmig

A

Maent yn ffurfio codenni fflat llawn hylif sydd wedi’u trawsgysylltu a elwir yn cisternâu

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
27
Q

Enwch yr hwn sy’n llawn hylif mewn cloroplastau a disgrifiwch ei gynnwys

A

Stroma; yn cynnwysa gronynnau startsh, ribosomau 70s a chylch o DNA

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
28
Q

Disgrifiwch y gwahaniaeth rhwng bilen fewnol cloroplast a philen fewnol mitocondriwm

A

Mae’r bilen fewnol mewn mitocondriwm wedi’i phlygu i greu cristâu lle nis oes plygiadau â philen fewnol mewn cloroplast

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
29
Q

Gwir neu gau; mae cloroplastau wedi’u hamgylchynu gan bilen ddwbl

A

Gwir

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
30
Q

Disgrifiwch epitheliwm cennog

A

Enghraifft o feinwe epithelaidd. Wedi’i wneud o gelloedd fflat. Mae’r rhain yn yr alfeoli ac yn leinio rhydwelïau

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
31
Q

Pa fath o ficrosgop sy’n gallu gweld llawer mwy o ffurfiadau fel organynnau mewn celloedd ewcaryotig?

A

Microsgop electron

32
Q

Ym mha fath o gelloedd;

1) mae centriolau yn bodoli ynddynt?
2) dydy centriolau ddim yn bodoli ynddynt?

A

1) celloedd anifeiliaid a phrotoctistiaid

2) planhigion uwch

33
Q

1) Beth elwir y cylchoedd bach o DNA mewn celloedd procaryotig?
2) Beth yw eu cynnwys?

A

1) Plasmidau

2) Genynnau sy’n rhoi’r gallu i wrthsefyll gwrthfiotigau

34
Q

Beth elwir y celloedd symlaf a hynaf ar y Ddaear, sy’n dyddio’n ôl dros 3.5 biliwn o flynyddoedd?

A

Celloedd procaryotig

35
Q

Disgrifiwch y gwahaniaethau rhwng celloedd ewcaryotig a chelloedd procaryotig

A

CE = Celloedd ewcaryotig CP = Celloedd procaryotig

1) DNA wedi’i leoli ar gromosomau yn y cnewyllyn yng CE, DNA yn rhydd yn y cytoplasm yng CP
2) Cnewyllyn pilennog amlwg yng CE, dim pilen gnewyllol yng CP
3) Cellfur o gellwlos mewn planhigion a chitin mewn ffyngau yng CE, cellfur o peptidoglycan (mwrein) ynf CP
4) Ribosomau 80s yn rhydd ac ynghlwm wrth bilenni yng CE, ribosomau 70s yn rhydd yn y cytoplasm yng CP
5) Organynnau pilennog yng CE, dim organynnau pilennog yng CP

36
Q

Beth yw prif swyddogaeth y reticwlwm endoplasmig?

A

Yn ymwneud a chludo defnyddiau drwy’r gell

37
Q

Disgrifiwch swyddogaeth lysosom

A

I dreulio organynnau sydd wedi treulio o fewn y gell, a defnyddiau estron sydd wedi’u hamlyncu drwy gyfrwng ffagosytosis e.e. Bacteria sydd wedi’u hamlyncu gan un o gelloedd gwyn y gwaed

38
Q

Ble mae ffotosynthesis yn digwydd mewn planhigion ffotosynthetig?

A

Cloroplastau

39
Q

Pan gyfeirir at ribosomau 80s a 70s, beth yn union yw s?

A

Unedau Svedburgh

40
Q

Beth mae’r cnewyllan yn gyfrifol amdano?

A

Cynhyrchu rRNA a ribosomau

41
Q

Diffiniwch organyn

A

Ffurfiad arbenigol sy’n bodoli mewn celloedd ewcaryotig ac sy’n cyflawni swyddogaeth benodol ar gyfer y gell

42
Q

Disgrifiwch feinwe cyhyr cardiaidd

A

Mae’n rhesog, ond does dim ffibrau hir ynddynt. Maen nhw’n cyfangu’n rhythmig ac yn eithaf pwerus, ond dydyn nhw ddim yn blino’n hawdd

43
Q

Disgrifiwch edrychiad a swyddogaeth centriolau

A

Maen nhw wedi’u gwneud o ddau gylch o ficrodiwbynnau ar ongl sgwâr i’w gilydd, ac yn trefnu’r microdiwbynnau sy’n gwneud y werthyd yn ystod cellraniad

44
Q

Er mwyn mesur maint y gwrthrych oddi ar electron micrograffau, bydd angen defnyddio um. Beth oes angen gwneud i drawsnewid o mm i um?

A

Lluosi gan 1000

45
Q

Beth mae cellfur wedi’i wneud ohono mewn;

1) planhigion?
2) bacteria?
3) ffyngau?

A

1) Cellwlos
2) Peptidoglycan
3) Citin

46
Q

Faint o nm sydd mewn metr?

A

1,000,000,000

47
Q

Disgrifiwch feinwe cyhyr ysgerbydol

A

Yn cynnwys bandiau o gelloedd hir neu ffibrau sy’n cyfangu’n bwerus; mae anifeiliaid yn defnyddio’r rhain i symud

48
Q

Beth sy’n cysylltu grana â’i gilydd mewn cloroplast?

A

Thylacoid/Lamela rhyng-granaidd

49
Q

Ble ffeindiwyd y pigmentau ffotosynthetig mewn cloroplast?

A

Mewn pentyrrau o thylacoidau o’r enw granwm

50
Q

Disgrifiwch ac eglurwch ffurfiadau’r bilen fewnol mewn mitocondria

A

Mae wedi’i phlygu’n ffurfiadau o’r enw cristâu sy’n darparu arwynebedd arwyneb mawr i ensymau lynu wrtho fel ATP synthetas

51
Q

Beth yw’r bedwar fath o feinwe mewn mamolion?

A

Nerfol, cyswllt, cyhyr, epithelaidd

52
Q

Fel rheol, beth yw maint mitocondria?

A

1-10um

53
Q

Disgrifiwch lysosomau a sut ffurfir hwy

A

Maent yn gwagolynnau bach â philen sengl sy’n cael eu pinsio oddi ar yr organigyn Golgi ac yn cynnwys yr ensym treulio lysosym

54
Q

Diffiniwch gell ewcaryotig

A

Mae gan rhain DNA mewn cromosomau mewn cnewyllyn, ac organynnau pilennog fel celloedd planhigion ac anifeiliaid

55
Q

Beth mae’r is-uned fawr mewn ribosom yn cynnwys?

A

Dau safle glynu tRNA

56
Q

Disgrifiwch feinweoedd ciwboid syml

A

Enghraifft o feinwe epithelaidd lle mae’r celloedd yn siap ciwb a dim ond un gell yw trwch y feinwe. Mae’n gyffredin fel leinin tiwbynnau’r arennau a dwythellau chwarennau

57
Q

Faint o um sydd mewn metr?

A

1,000,000

58
Q

Disgrifiwch feinwe cyhyr llyfn

A

Yn cynnwys celloedd unigol siâp gwerthyd sy’n cyfangu’n rhythmig, ond dydy’r rhain ddim yn bwerus felly maen nhw’n bodoli ym muriau pibellau gwaed a’r llwybrau treulio a resbiradu

59
Q

Disgrifiwch swyddogaeth y gwagolyn mewn celloedd planhigion

A

Cynnal meinweoedd planhigiol meddal, ond mae hefyd yn storio cemegion fel glwcos ac asidau amino yn y cellnodd

60
Q

Enwch yr organyn â system o bilenni dwbl sydd wedi’u cysylltu â’r amlen gnewyllol

A

Reticwlwm endoplasmig

61
Q

Enwch yr organyn sy’n debyg i reticwlwm endoplasmig ond yn fwy cryno, ac sy’n bentwr o cisternâu crwm

A

Organigyn Golgi

62
Q

Disgrifiwch feinwe epithelaidd

A

Yn gorchuddio a leinio’r corff e.e. Leinio’r coluddion a’r tracea a gorchuddio ein corff fel rhan o’r croen. Mae celloedd epithelaidd i gyd yn eistedd ar bilen waelodol, ond mae siap a chymhlethdod y celloedd yn amrywio

63
Q

Beth mae pilenni sydd wedi amgylchynu organynnau yn darparu?

A

Arwynebedd arwyneb mawr i gludo molecylau ac i ensymau lynu wrthynt

64
Q

Disgrifiwch ddosbarthiad mitocondria

A

Mae’n bresennol ym mhob cell ewcaryotig ond yn mwy cyffredin mewn celloedd metabolaidd weithgar fel cyhyrau ac yn yr afu

65
Q

Disgrifiwch ffurfiad y bilen mewn rhai gelloedd procaryotig a’i arwyddocad

A

Mae gan rai gelloedd procaryotig blygion tuag i mewn yn y bilen sef mesosomau. Mae resbiradaeth yn digwydd yma

66
Q

Gwir neu gau; mae cnewyllyn wedi’i amgylchynu gan bilen ddwbl

A

Gwir

67
Q

Sut mae firysau yn gwneud niwed i gelloedd?

A

Maent yn fyrstio allan ohonynt ac ail-heintio celloedd iach

68
Q

Gwir neu gau; mae mitocondria wedi’u hamgylchynu gan bilen ddwbl

A

Gwir

69
Q

Beth yw’r fformiwla ar gyfer fesur chwyddhad oddi ar electron micrograffau?

A

Chwyddhad = Maint y ddelwedd/maint y gwrthrych

70
Q

Disgrifiwch y gwahaniaethau rhwng celloedd planhigion a chelloedd anifeiliaid

A

CP = Cell planhigyn CA = Cell anifail

1) CP â chellfur o gwmpas pilen, CA heb gellfur, dim ond pilen
2) CP âg un gwagolyn canolog parhaol mawr, CA â gwagolynnau bach dros dro
3) CP heb gentriolau, CA gyda chentriolau
4) CP gyda phlasmodesmata, CA heb blasmodesmata
5) CP yn defnyddio gronynnau startsh i storio egni, CA yn defnyddio gronigion glycogen i storio egni

71
Q

Beth yw swyddogaeth ribosom?

A

Cydosod proteinau yn ystod trosiad

72
Q

Disgrifiwch swyddogaethau’r cellfur

A

1) Rhoi cryfder i’r gell drwy wrthsefyll chwyddo’r gwagolyn achos osmosis sy’n creu chwydd-dyndra a chynhaliad i blanhigion sydd ddim yn brennaids
2) Cludo dwr, molecylau ac ionau wedi’u hydoddi drwy fylchau yn y ffibrau cellwlos. Y llwybr apoplast yw hwn
3) Cyfathrebu rhwng celloedd drwy fandyllau yn y cellfur sy’n caniatáu i edafedd cytoplasm o’r enw plasmodesmata fynd drwodd. Mae hyn yn caniatáu i ddŵr fynd drwodd ar hyd y llwybr symplast

73
Q

Ble mae resbiradaeth aerobig yn digwydd gan gynhyrchu ATP yng nghelloedd ewcaryotig?

A

Mitocondria

74
Q

Beth yw’r corff sfferig bach sy’n bodoli o fewn y cnewyllyn?

A

Cnewyllan

75
Q

Gwir neu gau; mae lysosomau wedi’u hamgylchynu â philen ddwbl

A

Gau