1.4 Ensymau Ac Adweithiau Biolegol Flashcards
Diffiniwch byffer
Cemegyn sy’n gwrthsefyll newidiadau pH a sy’n niwtralu gormodedd o asidau neu alcalïau. Gallwn ni ei ddefnyddio i gynnal pH optimwm adwaith penodol
Yn nhermau egni, beth yw’r swyddogaeth ensym?
Gostwng yr egni actifadu
Sut allech gadarnhau os yw claf yn feichiog ai peidio?
Defnyddiwch y dechneg biosynhwyrydd â gwrthgyrff ac ensymau ansymudol i ganfod symiau bach iawn o’r hormon beichiogrwydd HCG mewn troeth. Os yw’n bresennol, mae’r claf yn feichiog
Diffiniwch egni cinetig
Yr egni sydd gan wrthrych oherwydd ei fudiant
Disgrifiwch yr edrychiad graffigol cyfradd yr adwaith/pH
Mae’r cyfradd adwaith yn cynyddu’n serth mewn amrediad penodol wrth i’r pH gynyddu nes cyrraedd pwynt anactifadu a’r pwynt optimwm. Wrth i’r pH barhau i gynyddu, mae’r cyfradd adwaith yn serthio i 0 unwaith eto
Yn nhermau bondiau, beth sydd i’w gweld mewn ensymau mewn bacteria sy’n byw mewn tarddellau folcanig poeth a pham?
Llawer o fondiau deusylffid oherwydd mae’r bond deusylffid yw’r bond cryfach mewn ensym fell mae’r ensym yn fwy tebygol o allu gwrthsefyll tymheredd uchel
Nodwch y pump ffactor sy’n effeithio ar gyfradd actifedd ensymau
1) Crynodiad swbstrad
2) Tymheredd
3) pH
4) Crynodiad yr ensym
5) Presenoldeb atalyddion
Disgrifiwch sut mae atalydd anghystadleuol yn gweithredu
Mae atalydd yn rhwymo wrth safle alosterig yr ensym gan newid siap ei safle actif, gan atal molecylau swbstrad rhag ffurfio cymhlygyn ensym-swbstrad
Diffiniwch adwaith;
1) Anabolig
2) Catabolig
1) Synthesis protein sy’n defnyddio asidau amino i adeiladu polypeptidau mwy cymhleth
2) Treulio proteinau gan ymddatod polypeptidau cymhleth i ffurfio asidau amino syml
Disgrifiwch y Model allwedd a chlo
Mae gan y swbstrad siap cyflenwol i safle actif yr ensym fel allwedd yn ffitio mewn clo. Mae hyn yn esbonio’r ffaith bod llawer o ensymau’n benodol. Bydd y swbstrad yn rhwymo â’r safle actif i ffurfio cymhlygyn ensym-swbstrad i ffurfio cynhyrchion
Disgrifiwch sut all tymheredd effeithio ar gyfradd actifedd ensym
Wrth gynyddu’r tymheredd, cynyddir yr egni cinetig sydd gan y molecylau’r ensym a’r swbstrad a felly’n symud yn gyflymach, gan gynyddu’r siawns o wrthdrawiad llwyddiannus rhyngddynt. Cyrraeddir pwynt optimwm yn y pen draw. Dros y pwynt optimwm, mae’r cyfradd adwaith yn gostwng yn gyflym wrth i’r bondiau hydrogen yn yr adeiledd trydyddol dorri oherwydd dirgryniadau mwy. Mae hyn yn newid siap yr ensym. Gelwir hyn yn dadnatureiddiad
Disgrifiwch briodweddau a phwyntiau allweddol am ensymau
1) Maent yn proteinau sy’n cyflymu adweithiau cemegol
2) Maent yn gostwng yr egni actifadu sydd ei angen er mwyn i’r adwaith ddigwydd
3) Nid ydynt yn cymryd rhan yn yr adwaith eu hunain
4) Dim ond symiau bach ohonynt sydd eu hangen
5) Gallwn ddefnyddio hwy drosodd a throsodd
6) Maen nhw’n trawsnewid swbstradau’n gynhyrchion
7) Gallwn ni eu disgrifio hwy fel catalyddion biolegol
Disgrifiwch yr edrychiad graffigol cyfradd yr adwaith/tymheredd
Ar dymheredd isel, mae’r cyfradd adwaith yn aros yn eithaf gyson ac isel. Wrth i’r tymheredd gynyddu, cynyddir y cyfradd adwaith yn raddol nes cyrraedd pwynt uchaf posib sef y pwynt optimwm. Wrth i’r tymheredd gynyddu dros y pwynt optimwm, mae’r cyfradd adwaith yn gostwng yn gyflym a serth i 0
Rhowch y bondiau canlynnol mewn trefn o’r bond gwanach i’r bond cryfach;
Bondiau Hydrogen, Bondiau Deusylffid, Bondiau ïonig
Bondiau Hydrogen - Bondiau ïonig - Bondiau Deusylffid
Disgrifiwch dair o fanteision defnyddio biosynhwyrydd i brofi glwcos yn y gwaed, yn hytrach na phrawf Benedict
1) Mae’r biosynhwyrydd yn benodol a dim ond glwcos mae’n ei ganfod; gallai prawf Benedict ganfod presenoldeb unrhyw siwgr rhydwythol
2) Mae biosynwyryddion yn gallu canfod crynodiadau llawer is na phrawf Benedict
3) Mae’r canlyniad yn feintiol, yn wahanol i brawf Benedict sy’n ansoddol (dibynnu ar newid lliw)
Nodwch y ddwy brif ffordd o gyflawni ensym ansymudol
1) Caethiwo - eu dal hwy mewn gel e.e. Gel silica
2) Micro-fewnfapsiwleiddio - eu dal hwy mewn micro-gapsiwl e.e. Gleiniau alginad
Disgrifiwch yr edrychiad graffigol cyfanswm cynnyrch wedi’i ffurfio/amser
Wrth i’r amser mynd ymlaen, bydd cyfanswm y cynnyrch yn cynyddu’n raddol nes dechrau gwastadu i wastad llwyr sy’n golygu nad oes dim mwy o gynnyrch yn ffurfio ac felly mae’r adwaith wedi gorffen