1.5 Asidau Niwclëig A'u Swyddogaethau Flashcards
Enwch y pedwar bas nitrogenaidd mewn RNA
Gwanin, Cytosin, Adenin, Wrasil
Disgrifiwch y manteision ATP
1) Rhyddhau egni’n gyflym o adwaith un cam gan ddefnyddio un ensym yn unig
2) Rhyddhau symiau bach o egni, 30.6kj lle mae ei angen. Ar y llaw arall, mae un moleciwl glwcos yn cynnwys 1880kj a fyddai hi ddim yn ddiogel rhyddhau hwn i gyd ar unwaith
3) ATP yw’r ‘cyfnewidiwr egni cyffredinol’ h.y. mae’n ffynhonnell egni gyffredin i bob adwaith ym mhob peth byw
Disgrifiwch mRNA (RNA negeseuol)
Moleciwl un edefyn sydd fel arfer tua 300-2000 o niwcleotidau o hyd. Mae’n cael ei gynhyrchu yn y cnewyllyn gan ddefnyddio un o’r edafedd DNA fel templed yn ystod y broses drawsgrifio
Mewn procaryotau, pam all yr mRNA yn gallu cael ei gynhyrchu’n uniongylchol o dempled y DNA?
Dydy eu DNA ddim yn cynnwys intronau
Pa arbrawf cafodd ei gynnal i ganfod union fecanwaith dyblygu DNA?
Arbrawf Meselson a Stahl
Diffiniwch y cod genetig
Mae dilyniant y basau niwcleotid yn ffurfio cod sy’n tri llythyren sy’n codio ar gyfer asid amino penodol
Disgrifiwch adeiledd niwcleotid
Yn cynnwys grwp ffosffad (cylchol), bas organig sy’n cynnwys nitrogen;bas nitrogenaidd a siwgr pentos: naill ai ribos (RNA) neu ddeocsiribos (DNA)
Esboniwch pam mae cyn-mRNA yn cael ei sbleisio mewn ewcaryotau
Mae’n cynnwys ardaloedd sydd ddim yn codio neu intronau, a rhaid cael gwared ar y rhain
Sut ffurfir haemoglobin?
Maen angen cydosod dwy gadwyn alffa a dwy gadwyn beta (wedi’u codio gan ddau enyn gwahanol) gyda’i gilydd, gan ddefnyddio haearn fel grwp prosthetig
Diffiniwch intronau
Dilyniant niwcleotidau sydd ddim yn codio mewn DNA a chyn-mRNA, sy’n cael ei dynnu o gyn-mRNA, i gynhyrchu mRNA aeddfed
Ble mae’r;
1) trosiad yn digwydd
2) trawsgrifiad yn digwydd
3) addasu ar ôl trosi’n digwydd
1) yn y ribosomau
2) yn y cnewyllyn
3) yn yr organigyn Golgi cyn pecynnu’r protein mewn fesiglau
Diffiniwch godon
Y tripled o fasau mewn mRNA sy’n codio ar gyfer asid amino penodol neu signal atalnodi
Disgrifiwch adeiledd ATP (Adenosin triffosffad)
Mae’n niwcleotid; mae ganddo siwgr ribos wedi’i uno â’r bas adenin a thri grwp ffosffad wedi rhwymo wrtho
Trawsnewidiwch y dilyniant DNA canlynol yn mRNA:
GATTTCCGAATTGGCC
CUAAAGGCUUAACCGG
Beth yw’r cod ‘stopio’ ar yr mRNA?
AUG