1.1 Elfennau Cemegol A Chyfansoddion Biolegol Flashcards
Enwch ddau siwgr rhydwythol
Maltos a lactos
Pa fath o asid brasterog sy’n bodoli fel olewau?
Asid brasterog annirlawn
Nodwch gweithredau Carbohydradau
1) Blociau adeiladu i wneud molecylau mwy cymhleth e.e. Ribos
2) Ffynonellau egni e.e. Glwcos
3) Molecylau storio egni fel starsh a glycogen
4) Cynhaliad adeileddol fel cellwlos a chitin
Enwch y cyfansoddion amholar sy’n anhydawdd mewn dwr sy’n cynnwys C, H a O2
Lipidau
Pa fath o siwgrau sy’n bwysig i lwybrau resbiradaeth?
Siwgrau trios (n=3)
Disgrifiwch adeliledd starsh
a-glwcos wedi’i bondio â’l gilydd sy’n cynnwys amylos ac amylopectin.
Mae amylos yn llinol a mae bondiau glycosidig yn ffurfio rhwng C1 a C4; bondiau glycosidig 1-4
Yn nhermau bondio, beth yw asid brasterog ddirlawn?
Nid oes gan y gadwyn hydrocarbon bond dwbl C=C
Beth yw’r gwahaniaeth adeileddol rhwng lipid a ffosffolipid?
Mae gan ffosffolipid grwp ffosffad yn lle un gynffon o asid brasterog
Pa effaith sydd gan y bond dwbl C=C mewn asid brasterog annirlawn ar ei gadwyn hydrocarbon?
Mae’n plygu gan ei wneud yn anoddach i’w bacio’n dynn
Disgrifiwch brawf i brofi presenoldeb siwgr anrydwythol
1) Gwresogwch ag asid hydroclorig, yna niwtralwch ef drwy ychwanegu alcali nes bod y hisian stopio
2) Ychwanegwch hydoddiant Benedict a gwresogwch. Newid lliw o o las i goch
Disgrifiwch brawf i brofi am frasterau ac olewau
Gelwir prawf emwlsio lipidau;
1) Cymysgu âg ethanol i hydoddi lipidau
2) Ysgwyd y sampl â’r un cyfaint o ddwr. Achosir i’r lipidau adael yr hydoddiant gan eu bod yn anhydawdd mewn dwr gan wneud i’r sampl edrych fel emwlsiwn gwyn cymylog
Pa briodwedd sydd gan grwp R mewn asid amino?
Mae’n amnewidiol/gwahanol ym mhob achos
Disgrifiwch brawf am bresenoldeb protein
1) Ychwanegu hyddoiant Buiret
2) Os yw’n droi’n borffor, mae’n bresennol
Sut byddech yn profi am bresenoldeb siwgrau rhydwythol?
Maent yn rhydwytho ionau copr (II) glas mewn copr sylffad i ffurfio copr (I) ocsid coch
1) Ychwanegwch hydoddiant Benedict a gwresogwch mewn dwr berwedig
2) Gwelwyd newid lliw las drwy wyrdd, melyn ac oren, ffurfir gwaddod brics coch
Disgrifiwch priodweddau a swyddogaethau proteinau ffibrog
Cynnwys polypeptidau mewn cadwynau paralel neu ddalennau â nifer o drawsgysylltiadau i ffurfio ffibrau hir fel ceratin mewn gwallt. Maent yn anhydawdd, cryf a gwydn. Mae colagen yn enghraifft sy’n darparu gwydnrwydd mewn tendonau
Faint o wahanol adeileddau protein sy’n bresennol â’u henwau?
4; adeiledd; Cynradd, Eilaidd, Trydyddol, Chwaternaidd
Eglurwch sut ffurfir y monosacaridau cydrannol canlynnol a nodwch eu swyddogaeth fiolegol;
1) Maltos
2) Swcros
3) Lactos
1) glwcos + glwcos, mewn hadau sy’n egino
2) glwcos + ffrwctos, cludiant yn ffloem planhigion blodeuol
3) gwlcos + galactos, mewn llaeth mamolion
Pa fath o siwgrau sy’n rhannau pwysig o RNA a DNA fel ribos a diocsiribos?
Siwgrau pentos (n=5)
Beth gall atheroma achosi?
I leinin yr endotheliwm rwygo sy’n achosi thrombosis sy’n gallu arwain at strociau
Eglurwch swyddogaeth Calsiwm
Cydran adeileddol o esgyrn a dannedd
Disgrifiwch sut ffurfir deupeptid
Adwaith cyddwyso rhwng grwp amino un asid amino a grwp carbocsyl un arall gan ddileu dwr. Ffurfir bond peptid
1) Beth ceir pan mae dyddodion brasterog yn cronni yn waliau rhydwelïau?
2) O ganlyniad i beth?
1) Athersglerosis
2) i lipoproteinau dwysedd isel o ddeiet sy’n cynnwys llawer o fraster dirlawn. Gall arwain ar angina
Mewn ffosffolipid, pa rhan o’r moleciwl sy’n hydroffobig a pha rhan sy’n hydroffilig a pham?
Mae’r rhan asid brasterog yn amholar ac yn anhydawdd mewn dwr gan ei wneud yn hydroffobic
Mae’r rhan glyserol â’r ffosffad yn bolar ac yn hydawdd mewn dwr gan ei wneud yn hydroffilig
Eglurwch swyddogaeth lipidau;
1) Dwr metabolaidd
2) Diddosi
1) pan ocsidiwyd, cynhyrchir hwn sy’n bwysig ar gyfer anifeiliaid diffeithdir sy’n goroesi trwy resbiradu’r braster
2) mae’n anhydawdd gan leihau colledion dwr
Eglurwch sut ffurfir deusacaridau
Wrth i ddau fonosacarid uno gan golli dwr a ffurfio bond glycosidig mewn adwaith cyddwyso