YMAGWEDD SEICODEINAMEG Flashcards

1
Q

Tybiaeth 1 Dylanwad profiadau plentyndod beth mae’n tybio?

A
  • yn ôl freud, mae profiadau yn ystod plentyndod yn llunio ein personoliaeth fel oedolion
  • mae’n cynnig fod datblygiad seicolegol yn ystod plentyndod yn digwydd yn cyfres o gyfnodau datblygiad allweddol (cyfnodau seicorywiol)
  • gall problem yn ystod unrhyw un o’r 5 cyfnod achosi obsesiwn a methu i symud ymlaen y tu hwnt i’r rhan o’r corff mae’r cyfnod wedi’i gysylltu iddo, gall y problem fod yn un o’r 2 beth canlynol:
    1. Rhwystredigaeth = nad yw’r plentyn yn cael ei fodloni’n digon
    2. Gormodoedd = anghenion y plentyn yn fwy na’i fodloni
How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
2
Q

Tybiaeth 1 Dylanwad profiadau plentyndod cyfnod y genau (0-18 mis)

A

tarddiad libido = ceg
Ffynhonnell plesser = sugno, cnoi, llyncu, a brathu
digwyddiadau allweddol = bwydo ar y fron, diddyfnu i fwyd solid
canlyniad obsesiwn rhwystredigaeth = pesimistaidd (disgwyl pethau gwael), coeglyd (sarcastic)
canlyniad obsesiwn gormodoedd = optimistaidd (disgwyl pethau da), diniwed

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
3
Q

Tybiaeth 1 Dylanwad profiadau plentyndod - cyfnod yr anws (18 mis - 3 oed)

A

tarddiad libido = anws
Ffynhonnell plesser = carthu, dal carthion yn ôl, neu chwarae â nhw
digwyddiadau allweddol = hyfforddiant toiled
canlyniad obsesiwn rhwystredigaeth = ystyfnig (stubborn) a gordaclus
canlyniad obsesiwn gormodoedd = blêr ac anhrefnus

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
4
Q

Tybiaeth 1 Dylanwad profiadau plentyndod - cyfnod ffalig (3-5 oed)

A

tarddiad libido = organau cenhedlu
Ffynhonnell plesser = mastyrbio
digwyddiadau allweddol = cymhlethdod oedipus (eisiau llad un oedolyn er mwyn bod mewn cariad â’r llall) yn arwain at ddatblygiad yr uwch-ego a hunaniaeth rhywedd
canlyniad obsesiwn = hunanhyder, balchder, problemau rhywioldeb

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
5
Q

Tybiaeth 1 Dylanwad profiadau plentyndod - cyfnod cudd (5 oed - y glasoed)

A

Ffynhonnell plesser = ychydig neu dim cymhelliant rhywiol
digwyddiadau allweddol = casglu gwybodaeth a dealltwriaeth o’r byd
canlyniad obsesiwn = dim obsesiynau gan nad oes ganolbwynt pleser

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
6
Q

Tybiaeth 1 Dylanwad profiadau plentyndod - Cyfnod yr organau cenhedlu (o’r glasoed ymlaen)

A

tarddiad libido = organau cenhedlu
Ffynhonnell plesser = cyfathrach heterorywiol
canlyniad obsesiwn = wedi datblygu’n dda fel oedolyn (os yw cymhlethdodau yn ystod y cyfnod ffalig yn cael eu datrys)

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
7
Q

tybiaeth 2 - y meddwl anymwybodol beth mae’n tybio?

A
  • cynigodd freud fod y meddwl yn debyg i fynydd ia h.y. Fod llawer o’r hyn sy’n digwydd yn y feddwl yn gorwedd o ddan y wyneb
  • mae’r meddwl yn 3 rhan
    1. Y meddwl ymwybodol (top y fynydd ia)
    2. Y meddwl rhagymwybodol (yn y canol)
    3. Y meddwl anymwybodol (gwaelod y fynydd ia)
How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
8
Q

tybiaeth 2 - y meddwl anymwybodol - beth yw’r meddwl ymwybodol?

A
  • mae’n rhesymegol ond nid felly’r meddwl anymwybodol am mai chwant bleser sy’n ei rheoli
How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
9
Q

tybiaeth 2 - y meddwl anymwybodol sut mae’r meddwl anymwybodol yn mynegi ei hun?

A

Yn anuniongyrchol e.e. Trwy breuddwydion

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
10
Q

tybiaeth 2 - y meddwl anymwybodol beth yn union yw’r meddwl anymwybodol?

A
  • credai freud fod y meddwl anywbyddol yn penderfynu llawer o’n hymddygiad a bod cymhelliannau emosiynol anymwybodol yn ein cymell
  • credai freud fod gwrthddrawiadau heb eu datrys yn yr anymwybodol yn cael effaith cryf ar ein ymddygiad a’n profiadau
  • Dadleuia fod llawer o’r gwrthdrawiadau yma’n ymddangos yn ein ffantasiau a’n breuddwydion ond bod y gwrthdrawiadau yn ymddangos ar ffurfiau cudd fel symbolau, gan eu fod mor bygythiol
How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
11
Q

tybiaeth 2 - y meddwl anymwybodol perthynas rhwng yr anymwybodol a mecanweithiau amddiffyn yr ego

A
  • gwrthdaro rhwng yr ID, yr EGO, a’r UWCH EGO yn creu gorbryder
  • bydd yr ego’n defnyddio amryw o amddiffyniadau i’w ddiogelu
  • e.e. Gall bachgen nad yw’n gallu delio a’r hyn a welwyd fel wrthodiad gan ei fam pan gaiff babi newydd ei eni’n frawd iddo archwel (regress - return to) i gyfnod datblygol cynharach gan faeddu’i dillad a bod yn llai galluog i ofalu am ei hun

Rhai enghreifftiau eraill o fecanweughiau amddiffyn
1. Dadleoli - trosglwyddo ysgogiadau o un person neu wrthrych i un arall
2. Alldaflu - priodoli meddyliau annymunol i rhywun arall
3. Atalnwyd - gwthio atgofion poenus yn ddwfn yn y meddwl anymwybodol er mwyn iddyn nhw gael eu anghofio

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
12
Q

tybiaeth 3 - personoliaeth dri darn beth mae’n tybio?

A
  • freud yn tybio fod ein personoliaeth wedi’i rhannu yn 3 darn yr ID, yr EGO, a’r UWCH EGO ac mae nhw i gyd yn effeithio ar ein ymddygiad
  • mae’r 3 rhan yn gwrthdaro yn gyson er mwyn effeithio ar ein ymddygiad e.e. Mae’r ID a’r uwch-ego yn aml yn gwrthdaro h.y. Y frwydr rhwng beth sy’n iawn a dim yn iawn, rhaid i’r ego felly ymddwyn fel dyfarnwyr a datrys y gwrthdaro gan ystyried goblygiadau gweithredoedd y person
How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
13
Q

tybiaeth 3 - personoliaeth dri darn yr ID

A
  • y meddwl anwybyddol
  • greddf rhywiol (libido)
  • angen pleser yn syth
  • bresennol o enedigaeth
How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
14
Q

tybiaeth 3 - personoliaeth dri darn EGO

A
  • gweithio yn y byd go iawn
  • rhan rhesymol o’r meddwl
  • datblygu tua 2 mlwydd oed
  • ymgeisio i ddarganfod ymddygiad a wnaiff blesio’r ID mewn ffordd derbyniol yn cymdeithas
  • yn yr ymwybodol yn ogystal â’r anymwybodol
How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
15
Q

tybiaeth 3 - personoliaeth dri darn UWCH EGO

A
  • datblygu’n olaf (tua 4 mlwydd oed)
  • rhan foesol sy’n gwybod y gwahaniaeth rhwng da a drwg
How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
16
Q

Ffurfio perthynas - gan defnyddio’r tybiaeth ‘profiadau plentyndod’

A
  • gallu egluro ffurfio gydberthnasau rhamantaidd drwy’r dilyniant drwy’r cyfnodau datblygu seicorywiol
  • yn ôl Freud, os bydd plentyn yn llwyddo i symud ymlaen drwy bob cyfnod sy’n dod i ben gyda’r cyfnod datblygu organau rhywiol, bydd hyn yn arwain at ffurfio cydberthynas rhamantaidd heterorywiol (ond gall unrhyw obsesiynau wneud hyn yn anodd)

Enghreifftiau:
- obsesiwn yn ystod cyfnod y genau (gorymbleseru) = gall arwain at orddibyniaeth afiach ar eraill pan fydd yn oedolyn = dod yn anghenus (needy) mewn perthynas
- obsesiwn yn ystod y cyfnod ffalig = nad yw’r cymhlethdod oedipus yn cael ei ddatrys = gall problemau o ran ffurfio a cynnal cydberthnasau digwydd ac roedd freyd yn credu bod hyn yn esbonio cyfunrywioldeb (homosexuality)

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
17
Q

therapi - dadansoddi breuddwydion - natur symbolaidd breuddwydion

A
  • eglurodd Freud bod gan freuddwydion gynnwys ‘amlwg’ a cynnwys ‘cudd’
  • cynnwys amlwg = gael ei gofio’n hawdd ar ôl deffro
  • cynnwys cudd = cael ei datgelu trwy dadansoddi’r breuddwyd
  • y dechneg â ddefnyddir i ddod o hyd i gynnwys cudd y ffreuddwyd yw cyswllt rydd = rydych yn ystyried bob elfen o’r breuddwyd ar wahan ac yn cysylltu meddyliau sy’n codi’n rhydd drwy wneud hynny
  • Freud yn dweud fod symbolau â ystyron cudd h.y. Neidr yn cynrychioli ffalig (pidyn)
How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
18
Q

therapi - dadansoddi breuddwydion - y dull

A
  1. Dwyn i gof (cofio) y breuddwyd i’r therapydd (y cynnwys amlwg)
  2. Trosglwyddo cynnwys cudd i’r cynnwys amlwg = breuddwydwaith
  3. cyddwysiad = y syniad fod llawer o elfennau sy’n ffurfio’r cynnwys cudd yn cael eu cynrychioli â llun yn unig
    dadleoli = nid ystyr y cynnwys amlwg yw’r gwir cynnwys, ond mae yna symbolau bach yn ein breuddwydion sydd YW’r gwir cynnwys
    cynrychiolaeth = wrth iddyn ni disgrifio breuddwydion, rydyn ni’n creu delwedd yn ein pen, hyn yw meddwl haniaethol
    symbolaeth = nodweddion arwyddocaol yn cael eu cynrychioli gan symbol
    ymhelaethiad eilaidd = broses o rhoi i gyd o’r delweddau o’r breuddwyd at eu gilydd gan roi stori resymegol iddo (ond cuddio’r cynnwys cudd ymhellach)
  4. Therapydd yn troi’r cynnwys amlwg yn ôl i’r cynnwys cudd, mae’n bwysig i ystyried cyd-destun bywyd y cleient er mwyn dehongli’n gywir. Dylid cynnig mwy nag un dehongliad ac mae’r cleient yn dewis yr un sy’n wneud synnwyr i nhw
19
Q

gwerthuso therapi - tystiolaeth ymchwil dadansoddi breuddwydion

A
  • mae ymchwil diweddar wedi cynnig cefnogaeth i gyswllt freud rhwng breuddwydio a meddwl prifbroses
  • Defnyddiodd Solms (2000) sganiau PET i amlygu’r rhannau o’r ymennydd sy’n weithgar wrth freuddwydio
  • dangosodd y canlyniadau fod y rhan rhesymegol o’r ymennydd yn anweithredol yn ystod cwsg symudiad llygad cyflym (REM) ond bod y canolfannau sy’n ymwneud â’r cof yn weithgar iawn
  • yn iaith Freud, caiff yr ego ei atal a rhoir penrhyddid (freedom) i’r ID
  • Hopfield et al (1983) wedi ymchwilio i’r rhwydweithiau niwral
  • rhwydweithiau niwral = efelychiadau cyfrifadurol (computer stimulations) sy’n ceisio dynwared gweithgaredd yn yr ymennydd
  • mae’r efelychiadau hynny’n dangos mai’r ffordd mae’r rhwydweithiau niwral yn ddelio a gormodedd o atgofion yw cyddwyso
  • mae hyn yn cefnogi’r damcaniaeth freud ‘cywasgu’ yn prosesau gwaith breuddwydion
20
Q

gwerthuso therapi - ystyriaethau methodolegol

A
  • dilysrwydd ecolegol = llawer o’r ymchwil ar ddadansoddi breuddwydion yn cael eu wneud yn labordi cwsg, ac felly gellir amau a yw cyflwr cysgu / breuddwydio mor dilys ag y byddai o dan amgylchiadau normal. Ni ellir dod i’r casgliad fod yr freuddwydion yn yr un peth a fywyd bob dydd ac hyn yw dilysrwydd ecolegol
  • newidynnau dryslyd - llawer o’r ymchwil ar breuddwydion yn cael eu wneud ar bobl neu anifeiliaid sydd wedi cael eu hamddiffadu (prevented) o symiau arrwyddocaol, megis cwsg REM. Bydd amhariad sylweddol fel hyn yn amharu ar swyddogaethiadau biolegol pwysig e.e. Niwrotrosglwyddydd, gellir rhain gweithredu fel newidynnau dryslyd.
21
Q

gwerthuso therapi - dehongli goddrychol (subjective)

A
  • mae dehongli’r cynnwys amlwg a penderfynu ei ystyr sylfaenol (cynnwys cudd) yn dibynnu ar dehongliad goddrychol y therapydd. Ar ben hynny, mae”r breuddwyd sy’n cael eu dehongli yn adroddiad goddrychol gan y sawl a breuddwydiodd = dim yn dibynadwy = breuddwydion yn broses goddrychol iawn
22
Q

gwerthuso therapi ystyriaethau moesegol - perthynas therapydd â cleient

A
  • Yn gyffredinol, mae’r therapydd yn cymryd rôl arbenigwr, gan gynnig mewnwelediad i feddwl anymwybodol y claf, ac am y rheswm hynny mae’r claf yn DIBYNNU ar y therapydd a gall hyn arwain at orddibiniaeth ac anghydbwysedd grym (power imbalance) rhwng y 2 bobl. Gall hyn fod yn wir mewn pobl â iselder yn bennaf gan fod nhw’n tueddu o orddibynnu ar bobl.
23
Q

gwerthuso therapi ystyriaethau moesegol - syndrom atgofion anghywir

A

False memory syndrome (FMS)

  • hunaniaeth a perthnasoedd person yn cael eu heffeithio gan atgofion (a gredir yn gryf, ond nad ydynt yn gywir) o brofiadau trawmatig.
  • gall yr atgofion hyn dod i’r amlwg yn ystod seicodreiddio pan fydd y therapydd yn honni fod nhw wedi datguddio digwyddiad trawmatig ynng ngorffenol y person
  • cred cefnogwyr FMS fod y glaf yn debygol o ildio (surrender) i gred y therapydd oherwydd awdurdod.
  • toon et al (1996) yn dweud fod therapyddion yn annog atgofion anghywir er mwyn achosi i’r therapi cymryd mwy o amser er mwyn iddo nhw cael mwy o arian
  • canlyniad = cleient yn brofi llawer o orbryder oherwydd mae gyda nhw atgofion o digwyddiad trawmatig na digwyddodd o’r gwbl
24
Q

gwerthuso therapi ystyriaethau moesegol - niwed emosiynol

A
  • gall therapydd dywys (guide) cleient tuag at fewnwelediad neu dehongliad a gall achosi niwed emosiynol, ergall y mewnwelediad hwn fod yn angenrheidiol, gall y tallod (misery) mae’n achosi fod yn fwy na’r tallod (misery) mae’r cleient yn barod yn brofi. Mae’n rhaid i seicotherapyddion rhybuddio cleifion ynglyn â’r perygl yma cyn i’r therapi dechrau.
25
Q

TYSTIOLAETH CLASUROL Bowlby (1944) beth oedd Bowlby wedi ymchwilio?

A
  • ymchwilio i fewn i 44 o leidr (thieves)
  • bwriad = cynnig ymchwiliad systematig o ffactorau achosegol (trio ffeindio rheswm am drosedd) mewn cyfres o astudiaethau achos
  • dadleuodd Bowlby fod datblygiad emosiynol a cymdeithasol plant wedi’i gysylltu’n agos â’r berthynas a fu ganddynt gyda’u mam (sy’n cysylltu at tybiaeth cyfnodau plentyndod Freud)
  • roedd Bowlby wedi wneud yr ymchwil hwn er mwyn ‘pontio’r bwlch’ rhwng damcaniaethau ac ymchwil wedi cynllunio’n ystadegol
26
Q

TYSTIOLAETH CLASUROL Bowlby (1944) - dulliau gweithredu

A

archwiliad cychwynnol

  • defnyddio sampli cyfle
  • rhoi profion meddyliol i bob llentyn (seicolegydd yn defnyddio graddfa binet) ac yn nodi agwedd emosiynol
  • ar yr un pryd, cyfarfod â mam i ffeindio mas hanes
  • para 2 awr
  • yn olaf, trafod adroddiadau ysgol ac ati

therapi

  • roedd llawer o’r plant wedi parhau gyda’r cyfweliadau â’r seiciatrydd (para 6 wythnos)
  • galluogi i hanes manwl cael ei gofnodi
  • galluogi i’r seiciatrydd wneud diagnosis o broblemau emosiynol
27
Q

TYSTIOLAETH CLASUROL Bowlby (1944) - methodoleg

A

canolbwynt yr astudiaeth: y lladron

  • 44 plant oedd yn lladron
  • sampl yn cynnwys 31 bachgen ac 13 merch
  • rhwng 5 ac 17 oed
  • Gradd IV = 22 o’r blant (wedi bod yn dwyn ers amser hir)
  • deallusrwydd cymedrig o 50%, 15 o’r lladron â IQ uwch, ac 2 o nhw ac IQ llai na’r cyfartaledd

grŵp rheolydd

  • 44 plant
  • debyg o ran oed, rhyw, ac IQ
  • dim yn lladron OND oedd nhw’n emosiynol gythryblus

mamau

  • wedi cyfweld â nhw er mwyn asesu hanes achesion y plant
28
Q

TYSTIOLAETH CLASUROL Bowlby (1944) - canfyddiadau

A

diagnosis

Gwahanol mathau o bersonoliaeth yn y plant:
1. Normal
2. Isel (iselder)
3. Cylchol (iselder ac ‘overexcitedness’)
4. Hyperthermig (gormodedd o egni)
5. Di-deimlad
6. Sgitsiaid (sgitsoffrenig)

y cymeriad dideimlad

  • ar ôl nodi bod un grwp o blant (14 o’r 44) yn dideimlad, roedd patrwm clir mewn perthynas â tramgwyddo (offending)
  • roedd y rhan fwyaf (12 o’r 14) o bobl yn y grwp yma wedi’i gwahanu o eu famau yn aml
  • e.e. Derek B. Pan oedd yn 18 mis oed, roedd rhaid iddo mynd i’r ysbyty am 9 mis ac ni aeth eu rhieni i weld o

ffactorau eraill

  • roedd 17 o’r lladron wedi profi gwahaniad cynnar, ac felly roedd 27 ar ôl
  • roedd 17 o’r 27 lladron gyda mamau oedd yn ‘bryderus ac yn llym’ meddai Bowlby
  • roedd tadau 5 o’r 27 yn casau nhw
  • fodd bynnag, roedd y gwahaniaethau hyn hefyd i’w weld yn y grwp rheoli ac felly gallai profiadau cynnar o’r fath egluro problemau emosiynol ond nid tramgwyddo
    I
29
Q

TYSTIOLAETH CLASUROL Bowlby (1944) casgliadau

A
  • y gasgliad = na fydd y plant wedi dod yn droseddwyr os nad oeddwn nhw wedi cael profiadau a oedd yn niweidiol i ddatblygiad iach
  • Bowlby yn cytuno fod problemau plentyndod yn hanfodol pwysig mewn datblygiad hwyrach.
  • Bowlby yn awgrymu fod niwed i’r perthynas rhwng plentyn a mam yn arwain at problemau yn datblygu’r uwch-ego
  • mae effeithiau arall yn chwarae i fewn i tramgwyddo e.e. Tlodi, neu diffyg addysg, ond mae’r astudiaeth hyn yn canolbwyntio ar ffactorau seicodreiddiol e.e. Profiadau cynnar

Goblygiadau ar gyfer triniaeth

  • os yw canfyddiadau’r astudiaeth yn gywir, goblygiad hynny yw y dylid cynnig triniaeth
  • un opsiwn arall yw ataliaeth yn lle triniaeth, sicrhau nad yw llawer o blant yn tyfu i fyny ar wahan i’w famau
30
Q

GWERTHUSO TYSTIOLAETH CLASUROL Bowlby (1944) gweithdrefnau a methodoleg - Data Tueddol (gwendid ac cryfder)

A

cryfder

  • bowlby wedi casglu llawer (25 tudalen) o data
  • wedi cynnig mewnwelediad i fewn i hanes y plant
  • wneud hi’n amlwg iawn o ran wahaniaethau rhwng y 2 grwp

wendid

  • data yn cyfyngedig
  • dim yn dibynadwy gan fod e’n seiliedig ar farn un person
  • er fod y person yn seiciatrydd iawn, rhaid cael barn pobl eraill
  • mae hyn yn achosi tuedd yn y canfyddiadau
31
Q

GWERTHUSO TYSTIOLAETH CLASUROL Bowlby (1944) gweithdrefnau a methodoleg - dim canfyddiadau achosol

A
  • does dim modd cadarnhau fod yr ymatebion emosiynol o ganlyniad i absenoldebau y mamau
  • gallai fod newidynnau eraill wedi achosi’r ymateb
  • e.e. Efallai fod problemau yn y cartref wedi golygu nad oedd y plentyn â’r mam mor agos ag y lleidron arall
  • methu dod i unrhyw gasgliadau achosol = wendid i waith bowlby
32
Q

GWERTHUSO TYSTIOLAETH CLASUROL Bowlby (1944) gweithdrefnau a methodoleg - y sampl

A
  • nad yw’r sampl yn cynrychiadol o bob plentyn
  • mae pob un o’r 88 plant yn emosiynol gythrybylus (troubled)
  • ond efallai fod tramgwyddwyr DIM yn yn gythryblus yn emosiynol ac felly methu cymhwyso tystiolaeth at nhw
  • nad yw’n defnyddiol yn fyd-eang
33
Q

GWERTHUSO TYSTIOLAETH CLASUROL Bowlby (1944) goblygiadau cymdeithasol ac moesegol - cyfrinachedd a preifatrwydd

A
  • ni roddwyd cyfrinachedd i’r plant
  • rhoi ei enwau cyntaf ac llythyren cyntat eu cyfenw e.e. Tomos C
  • adroddiadau hanes yn rhoi manylion am eu fywydau
  • ac felly gall unrhyw un adnabod y unigolion â’i teuluoedd
34
Q

GWERTHUSO TYSTIOLAETH CLASUROL Bowlby (1944) goblygiadau cymdeithasol ac moesegol - cydsyniad dilys

A
  • roedd nhw wedi dewis defnyddio’r tystiolaeth o’r astudiaeth 5 mlynedd ar ôl wneud hi
  • ac felly bydd hi’n annodd cael cydsyniad pawb
  • nad yw hyn yn dilys, oes ganddo nhw cydsyniad bawb?
35
Q

GWERTHUSO TYSTIOLAETH CLASUROL Bowlby (1944) tystiolaeth amgen

A
  • pobl yn barnu gan fod Bowlby wedi cymysgu sawl profiad â’i gilydd
  • mae’n ymddangos fod diffyg gofal cyn 6 mis oed yn rhywbeth gall plant dod drosto
  • ond, mae ymchwil diwedderach yn mynd yn erbyn hyn gan cefnogi safbwynt sylfaenol Bowlby h.y. Fod effeithiau hir dymor yn dod o diffyg gofal emosiynol yn ystod cyfnodau allweddol, un o canlyniadau hyn yw diffyg datblygiad corfforol
36
Q

GWERTHUSO TYSTIOLAETH CLASUROL Bowlby (1944) tystiolaeth amgen

Pwy oedd wedi ymchwilio i fewn i 2 grwp, 1 wedi derbyn cefnogaeth emosiynol yn ystod y 6 mis cyntaf o’u bywyd, 1 heb, ac darganfyddodd y grwp a derbyniodd cefnogaeth emosiynol wedi datblygu’n mwy o ran datblygiad corfforol, gwybyddol, a cymdeithasol?

A

Rutter et al (2010)

37
Q

GWETHUSO’R YMAGWEDD SEICODEINAMEG Wendid - penderfyniaethol

A
  • mae’r ymagwedd yn nodi pe bai rhan benodol o’r personoliaeth dridarn yn dominyddu, y gallai pennu personoliaeth e.e. Os mae’r id sy’n fwyaf amlwg, gallai arwain at fath o bersonoliaeth seicopathig
  • mae hyn yn profi fod e’n penderfyniaethol gan nad yw unigolion yn dewis pa rhan o’r personoliaeth dridarn sy’n dominyddu
  • mae hyn yn wendid oherwydd nid yw’n’n rhoi digon o bwyslais i natur unigrwy bodau dynol a’r rhyddid sydd ganddynt e.e. Gall rhai dadlau fod pobl yn dewis sut i ymddwyn
38
Q

GWETHUSO’R YMAGWEDD SEICODEINAMEG Gwendid - lleihaol

A
  • credai Freud fod personoliaeth oedolion yn cael ei dylanwadu’n llwyr gan yriannau cynhenid (sy’n canolbwyntio ar y frwydr rhwng yr id, yr ego, a’r uwch eg, a phrofiadau plentyndod drwy’r cyfnodau seicorywiol)
  • un o’r esboniadau ar gyfer sgitsoffrenia yr ymagwedd seicodeinameg yw mamau sgitsoffrenia (gan Frieda Fromm-Reichman) sy’n awgrymu fod y perthynas rhwng plentyn a mam yn ffactor dominyddol wrth ddatblygu sgitsoffrenia
  • cafodd hyn eu cefnogi’n diwedderach gan Lidz a Lidz yn 1949
  • mae hyn yn wendid oherwydd nad yw’n ystyried ffactorau eraill e.e. Ffactorau amgylcheddau yn effeithio ar bersonoliaeth oedolion
39
Q

GWETHUSO’R YMAGWEDD SEICODEINAMEG gryfder - wedi cymhwyso’n llwyddianus

A
  • mae’r ymagwedd seicodeinameg wedi cymhwyso’n llwyddiannus ers blynyddoedd llawer trwy defnyddio therapiau seicodadansoddol megis dadansoddi breuddwydion
  • mae’r ymagwedd yn caniatau i ymchwilwyr cynnig esboniadau manwl am ymddygiad unigolion yn fywyd go iawn
  • Briggs et al (2019) wedi wneud meta-dadansoddiad ac darganfod fod gostyngiad sylweddol mewn ymddygiad hunan-laddiol ac hunan-niweidiol i gleifion sy’n cael therapiau seicodadansoddol
  • mae hyn yn gryfder ac felly’n manteisiol i’n gymdeithas mewn sawl ffurf
40
Q

GWETHUSO’R YMAGWEDD SEICODEINAMEG Gryder - idiothetig AC nomothetig

A
  • mae’r ymagwedd seicodeinameg yn nomothetig ac yn idiothetig gan eu fod yn defnyddiol i unigolion mewn rhai achosion, ond i grwp o bobl mewn achosion eraill
  • roedd freud wedi datblygu ei damcaniaeth am y personoliaeth dridarn a’r cyfnodau seicorywiol ac cymhwyso at bawb, sy’n eu wneud yn nomothetig
  • Ond, mae’r ffordd y cymhwysir y prosesau cyffredinol hyn yn oddrychol (subjective) ac yn unigryw i bawb, ac felly mae rhannau o’r ymagwedd yn idiothetig
  • cafodd yr ymagwedd nomothetig eu defnyddio yn waith Bowlby ar amddifadedd mamau yn 1944
  • o ran idiothetig yr ymagwedd, mae’r ymagwedd yn defnyddio astudiaethau achos (e.e. Freud yn edrych i fewn i hans fychan) fel dull ymchwilio, er mwyn rhoi cipolwg ar ymddygiad unigryw
  • mae’r ffaith fod yr ymagwedd yn nomothetig AC yn idiothetig yn gryfder i’r ymagwedd gan nad yw’n anwybyddu unigolion penodol, ond hefyd nad yw’n cyfyngedig i unigolion sydd gyda nodweddion sbesiffig
41
Q

GWERTHUSO’R YMAGWEDD SEICODEINAMEG Cryfder - Cefnogi’r ddwy ochr yn y dadl natur/magwraeth

A
  • mae Freud yn egluro personoliaeth fel cynnyrch gyriannau cynhendid (e.e. Mae’r id yn bresennol o adeg ein geni) - ac dyma agwedd fiolegol ein personoliaeth
  • mae’n esbonio sut mae rhai anhwylderau yn digwydd oherwydd obsesiynau e.e. Astudiaeth hans fychan yn esbonio ei ymddygiad fel cynnyrch cymhleth oedipus
  • Freud hefyd yn cydnabod yr ochr magwraeth trwy dweud fod rhwystredigaeth neu orymbleseru yn ystod y cyfnodau seicorywiol yn dylawadu ar nodweddion personoliaeth yn diweddarach yn bywyd
  • mae hyn yn gryfder i’r ymagwedd seicodeinameg gan fod e’n ystyried y ddwy ochr o’r ddadl
42
Q

GWERTHUSO’R YMAGWEDD SEICODEINAMEG gwendid - anwyddonol

A
  • mae’r ymagwedd yn ffocysi ar ddamcaniaethau
  • mae’n esbonio sut damcaniaethau’r ymagwedd yn ffocysi ar yr anwybodol ac felly ni ellir dweud fod e’n cywir neu’n anghywir - ac felly nad yw’n ymchwil wyddonol
  • dadleua Popper (1934) fod rhaid i’r ddamcaniaeth allu cael ei brofi yn anwir er mwyn derbyn damcaniaeth yn llawn, ond nad oes modd profi’r damcaniaeth hyn yn anwir oherwydd nad oes modd cael mynediad uniongyrchol at meddyliau anwybodol (unconcious thoughts)
43
Q

Gwerthuso Therapi Effeithiolrwydd dadansoddi breuddwydion - Matt a Navarro (1997)

A
  • canfuwyd fod dadansoddi breuddwydion yn effeithiol wrth trin iselder ac gorbryder
  • Matt a Navarro (1997) = adolygiad o 63 meta-dadansoddiadau ar effaith seicotherapi
  • ar gyfartaledd, mae 75% o gleientiaid a oedd yn cael dadansoddiad breuddwyd yn dangos gwelliannau
  • mae’r astudiaeth hyn yn dangos manteision dadansoddi breuddwydion ar ddatgelu gwraidd yr anhwylderau
  • fodd bynnaf, mae seicotherapi sy’n defnyddio breuddwydion yn llai cyffredin na mathau eraill o seicotherapi megis therapi siarad a hypnosis
44
Q

Gwerthuso Therapi Effeithiolrwydd dadansoddi breuddwydion - Hobson a McCarley (1997)

A
  • Prin yw’r dystiolaethh wyddonol i gefnogi effeithiolrwydd dadansoddi breudddwydion
  • dadleua Hobson a McCarley (1997) nad yw breuddwydion yn ddim ond gorchmynion a anfonir o’r ymennydd a’u bod yn fath o feddwl sy’n digwydd wrth i ni ddysgu
  • mae hyn yn cwestiynu awgrym Freud bod breuddwydion yn cyflawni dymuniadau a chwantau anymwybodol
  • gan na ellir dilysu dadansoddiad breuddwydion yn wyddonol, mae’n anodd cefnogi syniad Freud o gyflawni dymuniad mewn breuddwydion gydag unrhyw ymchwil arall