YMAGWEDD BIOLEGOL Flashcards

You may prefer our related Brainscape-certified flashcards:
1
Q

TYBIAETH 1 Beth yw esblygiad?

A

Datblygiad rhywogaethau dros amser / newid dros amser
- ym maes seicoleg = esblygiad yn cael ei defnyddio i egluro sut mae’r meddwl dynol wedi newid dros filiynau o flynyddoedd fel eu bod yn ymaddasu i ofynion ein hamgylcheddau unigol

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
2
Q

TYBIAETH 1 Beth yw Detholiad Naturiol?

A

Organebay sydd wedi adassu’n well i’w amgylchedd sydd fwyaf tebyg o oroesi

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
3
Q

TYBIAETH 1 Pwy dyfeisiodd damcaniaeth detholiad naturiol?

A

Charles Darwin

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
4
Q

TYBIAETH 1 ‘struggle for existence’ / cystadleuaeth

A
  • cystadlu am fwyd, lle i fyw ac ati
  • Cystadlu os oes newid mewn ffactor amgylchedd fel tymheredd
How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
5
Q

TYBIAETH 1 sut ydy allgaredd (altruism) yn enghraifft o detholiad naturiol yn y maes seicoleg

A

Ymddygiad allgareddol = pan fydd rhieni’n peryglu eu bywyd eu hunain i achub eu plant

Allgaredd = nodwedd ymaddasol, etifeddol oherwydd bod achub plentyn (neu berthynas arall) yn gwella goroesiad cyfanswm genynnol yr unigolyn hwnnw

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
6
Q

TYBIAETH 1 amrywiad + addasu

A

Y mwyaf o amrywiaeth o fewn rhywogaeth = y fwyaf o siawns fydd y rhywogaeth yn goroesi (oherwydd fod amgylchedd pob amser yn newid)

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
7
Q

TYBIAETH 1 Rhywogaethau newydd yn cael ei creu

A

Ar ôl nifer o genhedlaethau, mae gormod o amrywiaeth o fewn rhywogaeth, ac felly mae hyn yn creu rhywogaeth newydd

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
8
Q

TYBIAETH 1 Mathau gwahanol o gystadleuaeth - MEWNRHYWOGAETHOL

A

2 o’r un rhywogaeth yn cystadlu am rhywbeth

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
9
Q

TYBIAETH 1 Mathau gwahanol o gystadleuaeth - RHYNGRHYWOGAETHOL

A

Mae’r dwy cystadleuwyr yn dod o 2 rhywogaeth gwahanol

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
10
Q

TYBIAETH 1 Mathau gwahanol o gystadleuaeth - AMGYLCHEDDOL

A

Newid mewn ffactor amgylcheddol

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
11
Q

TYBIAETH 1 Amgylchedd Ymddasu Esblygiadiol

A

Diffiniad = amgylchedd y mae unrhyw rywogaeth wedi ymaddasu iddo

Seciolegwyr yn tybio nad yw pob math i ymddygiad yn ymaddasol ac dim ond y rhieni fydd yn sicrhau goroesiad yn amgylchedd penodol yr unigolyn hwnnwn

I fodau dynol, y cyfnod mwyaf diweddar o newid esblygiadol oedd tua dwy filiwn o flynyddoedd yn ôl, pan symudodd bodau dynol o fyw yn y goedwig i fyw yn y safanau oedd yn datblygu yn Affrica.

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
12
Q

TYBIAETH 1 Sut gall EEA egluro pam mae gan bodau dynol ymennydd môr fawr o gymharu â’u cyrff

A

Mae’r ymennydd dynol wedi esblygu mewn ymateb i drefniant cymdeithasol cymhleth ein rhywogaeth.
Byddai’r bodau dynol hynny â nodweddion penodol yn fwy tebygol o oroesi e.e:
Mae’r rhieni sy’n well am llunio cysylltiadau a perthnasoedd da yn fwy tebygol o oroesi mewn byd cymdeithasol cymhleth, felly’r genynnau ar gyfer ymddygiadau fel hyn yw’r rhai gaiff eu pasio ymlaen.

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
13
Q

TYBIAETH 2 Beth mae Tybiaeth 2 yn dweud

A

Tybio fod gan llabedau gwahanol o’r cortecs cerebrol gwahanol swyddogaethau

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
14
Q

TYBIAETH 2 Y Llabed Barwyddol

A

Prosesu gwybodaeth…
- pwysau
- cyffwrdd
- poen

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
15
Q

TYBIAETH 2 Y Llabed Blaen

A
  • gysylltiedig â rhesymeg
  • sgiliau echdyddol e.e. Defnyddio dwylo
  • iaith mynegiannol e.e. Gallu fynegi barn a teimladau
How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
16
Q

TYBIAETH 2 Llabed yr Arlais

A
  • dehongli synnau a’r iaith ni’n clywed
  • cynnwys hippocampus sy’n ffurfio atgofion
How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
17
Q

TYBIAETH 2 Y Llabed Ocsipwt

A
  • cysylltiedig a ddehongli symbyliadau gweledol a gwybodaeth rydyn ni’n darllen
  • gall niwed i’r labed hyn achosi problemau gweledol
How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
18
Q

TYBIAETH 2 Y Cortecs Cerebrol

A

Cael ei rhannu i 4 llabed

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
19
Q

TYBIAETH 2 Enghraifft Seicolegol - Finneas Gage

A
  • Bar metel (3.8 metr) wedi trwy ei ben, gan achosi niwed i’r llabed blaen
  • dywedodd ffrindiau a teulu agos fod ei personoliaeth wedi newid o fod yn rhywun ‘fitful’ ac ‘irrevent’ i rywun ‘indulging in the grossest profanity’ ac felly mi roedd ei rhesymeg / iaith mynegiannol (sy’n cael ei rheoli gan y llabel blaen) wedi newid
How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
20
Q

TYBIAETH 3 Beth mae tybiaeth 3 (NIWROTROSGLWYDDYDD) yn tybio?

A
  • Biliynau o gelloedd (niwronau) yn wneud i fyny yr ymennydd = rhain yn cyfathrebu â’i gilydd gan defnyddio arwyddion trydanol â chemegol SEF niwrotrosglwyddydd
  • Mae’r arwyddion/negeseuon yn digwydd yn y synaps h.y. Bwlch rhwng y niwronau.
How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
21
Q

TYBIAETH 3 Beth yw ‘cynhyrfu’?

A
  • Digwydd pan fo negeseuon y niwrotrosglwyddydd yn danfon negeseuon ymlaen i niwronau arall
How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
22
Q

TYBIAETH 3 Beth yw ‘ataliad’?

A
  • Fel mae’r term yn awgrymu, mae’r gwrthwyneb o cynhyrfu yn digwydd yma h.y. Mae danfon negeseuon ymlaen yn llai tebygol o ddigwydd
How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
23
Q

TYBIAETH 3 Niwrotrosglwyddydd a’r iechyd meddyliol

A
  • niwrotrosglwyddydd yn chwarae rôl mawr yn ein iechyd meddyliol
  • Oherywdd ymchwil, mae tystiolaeth i ddangos fod y wahanol mathau o niwrotrosglwyddydd tu ôl i wreiddiau ymddygiad normal ac annormal.
How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
24
Q

TYBIAETH 3 Niwrotrosglwyddydd a’r iechyd meddyliol - Swyddogaeth Dopamine

A
  • bleser ac hapusrwydd
  • boddlonrwydd (satisfaction)
  • cymheilliad
  • gyfrifol am atgofion
  • gyfrifol am gwsg
  • gyfrifol am ein ‘mood’
  • gyfrifol am dysgu

GORMOD YN ACHOSI SCHIZOPHRENIA
DIM DIGON YN ACHOSI PARKINSONS

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
25
Q

TYBIAETH 3 Niwrotrosglwyddydd a’r iechyd meddyliol - Swyddogaeth serotonin

A
  • dysgu
  • atgofion
  • hapusrwydd
  • ymddygiad rhywiol
  • tymheredd corff
  • chwant bwyd (hunger)

DIM DIGON YN ACHOSI ISELDER

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
26
Q

TYBIAETH 3 Niwrotrosglwyddydd a’r iechyd meddyliol - Swyddogaeth noradrenaline

A
  • rheoleiddio cyffroad (arousal)
  • sylw
  • straen
  • adweithion (reactions)
How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
27
Q

TYBIAETH 3 Niwrotrosglwyddydd a’r iechyd meddyliol - Swyddogaeth GABA

A
  • Lleihau cyffroedd niwronau trwy atal trosglwyddiad nerfau
  • stopio straen a phryder
How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
28
Q

TYBIAETH 3 Enw’r niwron sy’n danfon y neges

A

Niwron cyn-synoptig

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
29
Q

TYBIAETH 3 Enw’r niwron sy’n derbyn y neges

A

Niwron ôl-synoptig

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
30
Q

TYBIAETH 3 FESIGL yn y niwron cyn-synoptig

A

Y fesigl sy’n Cynnwys niwrotrosglwyddydd ac yn naill ai danfon neu’n derbyn.

31
Q

TYBIAETH 3 Beth ydy’r niwron ôl-synoptig yn cynnwys?

A

Derbynyddion - i dderbyn y niwrotrosglwyddydd.

32
Q

TYBIAETH 1 Cysylltu tybiaeth 1 (esblygiad) at ffurfio perthnasoedd

A
  • theori esblygiadol = mae dynion a menywod yn chwilio am bartner er mwyn cynhyrchu plant iach fel eu bod eu genynnau’n goroesi i’r generad nesaf
  • menywod yn cynhyrchu llai o wyau na’r miliynau o sberm sy’n cael ei creu
  • mae cyfraniad y dyn yn y proses atgenhedlu yn fach mewn cymhariaeth, mae’r gwahaniaeth biolegol yma wedi arwain at ddynion a menywod yn datblygu strategaethau gwahanol i gael blant
33
Q

TYBIAETH 1 Cysylltu tybiaeth 1 (esblygiad) at ffurfio perthnasoedd - MENYWOD (MONOGAMI)

A

Wedi’i rhaglenni i baru gyda phartneriaid wedi’u dewis yn ofalus sydd â nifer fawr o adnoddau

34
Q

TYBIAETH 1 Cysylltu tybiaeth 1 (esblygiad) at ffurfio perthnasoedd - DYNION (PROMISCUITY)

A

wedi’u rhaglenni i gynyddu eu siawnsiau o gynhyrchu plant trwy paru’n aml a nifer o bartneriaid â phosib

35
Q

THERAPI Defnyddio seicolawdriniaeth fel rhan o therapi

A
  • ystyried ymddygiad annormal fel symtom o broblem ffisegol sy’n treiddio o’r ymennydd AC FELLY trwy newid sefyllfa ffisegol yr ymennydd, yn feddygol bydd newid yn digwydd gan geisio cael gwared a’r ymddygiad annormal yma.
  • mae’n ceisio torri ar ddraws ardaloedd yr ymennydd sy’n llifo gwybodaeth sy’n efallai’n achosi’r problemau yma
36
Q

THERAPI Seicolawdriniaeth - LEUCOTOMY (lobotomy cyn-dalcennol/ pre-frontal) (CYD-DESTUN)

A
  • yn yr 1930au datblygodd EGAN MONIZ techneg meddygol lle cafodd dau twll eu drilio ar bob ochr y penglog (skull) ac wedyn mewnosod teclyn trwy’r tyllau sy’n wahanu’r llabed blaen o weddill yr ymennydd
  • Daeth y syniad yma wrth darganfod fod mwnciod ymosodol yn newid eu ymddygiad wrth i ardal llabed y blaen cael ei gymryd allan gan dyfu’n fwy tawel
  • gwnaeth adroddiadau ar lobotomiau ar gleifion schizophrenig dweud fod cleifion oedd yn ymosodol yn y gorffennol nawr yn tawel, fel y mwnciod
37
Q

THERAPI Seciolawdriniaeth - TRANSORBITAL LOBOTOMY (CYD-DESTUN)

A
  • Yn yr 1940au, datblygodd WALTER FREEMAN system mwy cyflym na EGAN MONIZ, oedd yn cynnwys gwahanu’r llabedau blaen trwy fewnosod nodwydd mawr i mewn i’r ymennydd trwy soced y llygaid.
    Roedd y dull cyflym yma’n golygu fod 50,000 mil o bobl wedi cael lobotomiau yn america yn unig OND wrth i farwolaethau ac effeithiau negyddol datblygu, cwympodd y dull yma allan o ffafr gan eu hamnewid gyda therapiau cyffuriau
38
Q

THERAPI Seicolawdriniaeth ‘TREPANNING

A
  • pwrpas y dull yma hefyd oedd i gael gwared ag ymddygiad annormal, trwy rhyddhau ysbrydion diafolaidd (devilish spirits)
  • nid yw’r triniaeth yma’n newydd oherwydd fod archeolegwyr wedi mwyngloddio nifer o penglogau gyda tylliau wedi’i torri yn eu hymennydd
39
Q

THERAPI Newidiadau seicolawdriniaeth

A
  • Dros amser mae dulliau mwy cywir a llwyddianus wedi datblygu
    E.e. Ond yn dinistrio ardaloedd sbesiffig yr ymennyd ar ôl cwblhau sganiau manwl
  • Gallu danfon trydan i ardaloedd bach yr ymennydd heb niweidio darnau arall
    SERCH HYNNY, mae’r math yma o driniaeth ond yn cael ei defnyddio heddiw fel ‘last resort’ e.e. Os mae rhywun yn dioddef o iselder neu OCD difrifol
40
Q

THERAPI Seicolawdriniaeth Transorbital - Y THERAPI EI HUNAIN

A
  • dinistrio detholiad o ffibrsu nerfol yn llabed blaen (gyfrifol am rheoli symbyliadau a hwyliau) y cortecs cerebrol
  • Mae hyn yn lleddfu (ease) symtomau difrifol iechyd meddwl

Mae’n cael ei defnyddio ar gyfer…
- Anhwyldersu affeithiol (iselder)
- anhwylderau gorfodaeth obsesiynol (OCD)
- sgitaoffrenia (ond dim yn effeithiol iawn)

  • difrifoldeb y cyflwr yn fwy bwysig na beth oedd y cyflwr
41
Q

THERAPI Seicolawdriniaeth - Effeithiau positif lobotomi cyn-dalcennol

A
  • lleihad mewn tensiwn ac cynnwrf (agitation)
  • lleihau symptomau
  • lleihad mewn ymddyguad ymosodol
  • 63% o gleifion wedi’i gwella
  • gwella’r gallu i ymateb
  • gwella hunan-rheolaeth (self-control)
42
Q

THERAPI Seicolawdriniaeth - Effeithiau negatif lobotomi cyn-dalcennol

A
  • diffyg gallu i ganolbwyntio
  • llai o ddyfnder yn gyffredinol yn eu hymateb emosiynol i fywyd
  • gan amlaf roedd pobl yn cael eu gadael yn wan yn emosiynol
  • pobl yn gyfyngedig o ran eu hystod deallusol (intellectual range)
  • 24% o gleifion heb newid
  • 14% o gleifion wedi mynd yn waeth
  • gwaedu ar yr ymennydd
  • arwain at clefyd a ‘seizures’
  • arwain at dementia
  • marwolaeth (6% o gleifion)
43
Q

TYBIAETH 1 Dylanwadau Esblygiadol - Enghraifft Seicolegol

A
  • Trivees yn honni bod y ffordd y caiff cydbeethnasau rhamantaidd eu ffurfio wedi’i hysgogi gan y ffaith bod gan y rhywiau lefel wahanol o fuddiant o ran sicrhau goroesiad eu hepil
  • benywod = cario’r epil, chwilio am wryw sy’n cynnig uchelgais, lloches, a gallu i enill cyflog uchel ar chyfer hi â’i plentyn
  • nid yw dynion yn buddsoddi llawer yn eu hepil ac felly mae nhw’n chwilio am fenywod ffrwythlon, ifanc i gael babi gyda nhw
44
Q

TYBIAETH 3 Niwrotrosglwyddydd - Enghraifft Seicolegol

A
  • Daeth Aron et al (2008) i’r casgliad fod Dopamin yn chwarae rôl sylweddol wrth ffurfio cydberthnasau rhamantaidd, am ei fod yn actifadu canolfannau gwobryo’r ymennydd ac yn mwynhau effeithiau’r hormonau rhyw.
  • Dangos pa more bwerus yw’r effaith niwrolegol y gall cyfarfod â partner deiniadol ei chael, hyd yn oed yr olwg cyntaf
45
Q

THERAPI Beth mae Easgrove a Roche (2001) yn dweud am Effeithiolrwydd seicolawdriniaeth (cadarnhaol)

A
  • wedi darganfod fod cingwlotomi’n effeithiol mewn 56% o gleifion OCD ac chapsiwlotomi mewn 67%
46
Q

THERAPI Beth mae Mayberg et al (2005) yn dweud am effeithiolrwydd seicolawdriniaeth (cadarnhaol)

A
  • pedwar allan o chwe claf â’r anhwylder iselder ysbryd difrifol wedi gwella cryn dipyn ar ôl triniaeth
47
Q

THERAPI Comer (2002) effeithiolrwydd seicolawdriniaeth (negatif)

A

Diffyg ymatebolrwydd emosiynol

48
Q

THERAPI Bridges et al (19l4) effeithiolrwydd seicolawdriniaeth (negatif)

A

Dim ond yn niffyg pob triniaeth arall mae yna hawl i ddernyddio’r chapsiwlotomi ac felly methu cymharu â triniaeth arall

49
Q

THERAPI Szasz (1978) effeithiolrwydd seicolawdriniath (negatif)

A

Dadlau nad yw yr hunan seicoleg yn rhywbeth FFISEGOL ac felly pam fydd seicolawdriniaeth FFISEGOL yn ei helpu?

50
Q

THERAPI Ystyriaeth moesegol - CYDSYNIAD DILYS (valid consent)

A
  • arfer defnyddio seicolawdriniaeth cynnar mewn gwallgofdai a charchardai (madhouses and prisons) ar gleifion nad oeddent wedi rhoi ei cydsyniad dilys
  • Pobl yn dadlau nad yw cleifion sydd ag iselder difrifol yn yr hwyliau cywir i allu rhoi cydsyniad deallus llwyr

PRYDAIN 1983 = Deddf iechyd meddwl darpariaethau mwy caeth ynghylch cydsynio i driniaeth seicolawdriniaethol (MHA)
e.e. Mae gan pobl sydd wedi eu cadw o dan orchymyn yr MHA (ond sydd heb cyflawni trosedd), yr un hawliau i gydsynio â pobl nad yw’n cael ei cadw dan orchymyn

51
Q

THERAPI Ystyriaeth moesegol - DIFROD PARHAOL

A
  • nad oes modd gwrthdroi effeithiau seicolawdriniaeth
  • llawer o gleifion seicolawdriniaeth cynnar fel lobotomi cym-dalcennol wedi dod allan fel sombiaidd heb unrhyw emosiwn
  • dulliau modern wedi lleihau’r risg o difrod difrifol ar yr ymennydd o ganlyniad i dulliau sy’n targedu lleoliadau manwl gywir yr ymennydd
  • OND mae dulliau fel DBS (yn cynnwys mewnblannu electrodau o fewn rhannau o’r ymennydd) yn dal i ddod a sgil effeithiau tymor hir fel ffitiau a newid mewn hwyliau.
52
Q

TYSTIOLAETH GLASUROL Raine et al (1997) - methodoleg

A
  • 41 o lofruddion (oed cymedrig o 34.3 mlwydd oed)
  • pob un wedi pleidio’n ddi-euog oherwydd NGRI - Not Guilty For Reasons of Insanity
  • wedi danfon nhw i Brifysgol Califfornia am archwiliad er mwyn casglu prawd o’u gallu lleihaedig (reduced)
  • roedd pob un â anhwylder meddwl, gyda’r rhan fwyaf yn dioddef o sgitsoffrenia (6), hanes o anaf i’r pen neu niwed organig i’r ymennydd (23), ac cam-drin cyffuriau (3)
  • wedi rhoi cyfarwyddiadau llym i’r cyfrangowyr i beidio cymryd meddygyniaeth am 2 wythnos cyn i sganio’r ymennydd = cael ei wirio trwy prawf troeth
  • grŵp rheolydd yn cael ei ffurfio trwy greu parau, sef un llofrudd gydag unigolyn normal o’r un rhyw ac oedran.
  • roedd y 6 sgitsoffreniaid wedi’i paru â chwe sgitsoffreniaid arall, o ysbysty meddwl (ond nad oeddwn nhw yn lofruddiaethwyr)
53
Q

TYSTIOLAETH GLASUROL Raine et al (1997) - Sgan PET (Positron emission tomography)

A
  • Defnyddio sgan PET yn ymchwil Raine et al (1997)
  • defnyddio ymbelydredd i labelu gwaed, siwgrau pwysig y gwaed, neu niwrotrosglwyddydd pwysig megis dopamin
  • chwistrellu deunydd abelu i wirfoddolwyr tra eu bod yn gorwedd yn y sganydd
  • gwneud tasgau meddyliol megis datrys problemau
  • dull mwyaf sefydledig o’r technegau delweddu-ymennyddol, ond mae angen llawer o fuddsoddiad ariannol
54
Q

TYSTIOLAETH GLASUROL Raine et al (1997) - Dulliau Gweithredu

A
  • defnyddio sgan PET
  • rhoi chwistrelliad o ‘draswr’ i bob un o’r cyfranogwyr = cael ei amsugno gan ardaloedd gweithgar yr ymennydd = modd cymharu ymennydd y grwp rheoli â’r grwp NGRI
  • gofynir i bob cyfrannwr cwblhau tasg perfformiad di-ddiwedd (CPT), roedd y tasg yma’n anelu’n penodol i ysgogi ardaloedd targed yr ymennydd er mwyn i’r ymchwilwyr allu gweld sut yr oedd yr gwahanol ardaloedd yn gweithredu
    1. Rhoddwyd cyfle i’r cyfranogwyr ymarfer y dasg CPT cyn cael y chwistrelliad
    2. Roedd nhw wedi dechrau’r tasg CPT 30 eiliaid cyn cael y chwistrelliad fel na fyddai mewydd-deb cyntaf y dasg yn cael ei labelu â’r chwistrelliad
    3. 32 munud wedi i’r chwistrelliad, roedd pob cyfranogwyr wedi cael sgan PET
55
Q

TYSTIOLAETH GLASUROL Raine et al (1997) - Canfyddiadau (findings) gwahaniaethau ymennyddol - Lle roedd yr ardaloedd is o weithgarwchyn ymennydd y cyfranogwyr NGRI?

A
  • yn yr ardaloedd sy’n gysylltiedig â thrais h.y.
    1. Cortecs cyn-dalcennol
    2. Gyri onglog chwith
    3. Corpws caloswm
    4. HEMISSFFER CHWITH YN UNIG = amygdala, y thalmws a’r hippocampws
56
Q

TYSTIOLAETH GLASUROL Raine et al (1997) - Canfyddiadau Gwahaniaethau ymennyddol - Lle roedd yr lefelau uwch o weithgaredd yn ymennydd y cyfranogwyr NGRI?

A
  • yn yr ardaloedd nad yw’n gysylltiedig â thrais h.y.
    1. Yr ymennydd bach (serebelwm)
    2. HEMISSFFER DDE YN UNIG = amygdala, thalamws, hippocampws
57
Q

TYSTIOLAETH GLASUROL Raine et al (1997) Canfyddiadau Gwahaniaethau ymennyddol - Lle nad oedd wahaniaeth yn lefel weithgarwch yr ymennydd rhwng y grwp rheoli a’r grwp NGRI?

A
  • yn rhannau’r ymennydd nad sy’n cysylltiedig â thrais ond afiechyd meddwl h.y.
    1. Caudate
    2. Pwtamen
    3. Globus pallidus
    4. Ymennydd canol
58
Q

TYSTIOLAETH GLASUROL Raine et al (1997) Canfyddiadau Perfformiad ar CPT

A
  • dau grŵp wedi perfforfmio’n debyg ar y dasg, felly nid oedd unrhyw wahaniaethau yn yr ymennydd oedd yn gysylltiedig â befformiad y CPT
59
Q

TYSTIOLAETH GLASUROL Raine et al (1997) Canfyddiadau Gwahaniaethau- Gwahaniaethau arall

A
  • 6 o lofruddion yn llaw chwith = roedd ganddynt llai o anghymesuredd (assymetry) amygdala a lefel uwch o weithgarwch cyn-dalcennol canolig na llofruddion llaw dde
  • nad oedd gan 14 o’r llofruddion lliw croen gwyn, ond nid effeithiodd hyn ar y gwahaniaethau
  • roedd gan 23 o’r lofruddion anaf i’r pen yn hanesyddol, ond nid effeithiodd hyn ar y ganlyniadau
60
Q

TYSTIOLAETH CLAUROL Raine et al (1997) Casgliadau - Beth nad yw’r canlyniadau yn ddangos?

A
  • nid yw’r canlyniadau fod ymddygiad treisgar yn cael ei bennu gan fioleg yn unig - mae yn amlwg ffactorau cymdeithasol, seicolegol, a diwylliannol ar fai hefyd.
  • nid yw’r canlyniadau yn dangos fid camweithrediad ar yr ymennydd yn achosi trais
  • nid yw’r canlyniadau yn dangos y gellir egluro trais trwy’r canlyniadau

Er hynny, mae’r canfyddiadau yn awgrymu fod camweithrediad ar yr ymennydd yn cysylltiedig ar rhagdueddiad ymddygiad triesiol yn y grwp yma yn penodol (NRGI)

61
Q

TYSTIOLAETH CLASUROL Raine et al (1997) Beth gall lleihad yn weithgaredd yr system limbig (Cortecs cyndalcennol, yr amygdala, yr hippocampws a’r thamalws) egluro?

A
  • gysylltiedig â emosiwn, dysgu, y cof, a talw sylw
  • gall egluro ymatebion emosiynol annormal ac methiant troseddwyr treisgar i ddysgu o brofiant
62
Q

TYSTIOLAETH CLASUROL Raine et al (1997) Beth gall lleihad yn weithgaredd yr hippocampws egluro?

A
  • addasu ymddygiad ymosodol mewn cathod = egluro diffyg ffrwyno (to limit) ymddygiad ymosodol
63
Q

TYSTIOLAETH CLASUROL Raine et al (1997) Gwerthuso Methodoleg a dulliau gweithredu Lled-arbrawf

A
  • methu ffurfio casgliad achosol oherwydd fod hi’n lled-arbrawf
  • nid yw’r canlyniadau yn dangos fod ymddygiad treisgar yn cael ei dylanwadu gan fioleg yn unig ond hefyd pethau seicolegol, diwylliannol, a sefyllfaol
  • cael ei weld fel arbrawf oherwydd fod newidyn annibynnol (NGRI neu ddim) a newidyn dibynnol (gweithgarwch ardaloedd yr ymennydd)
64
Q

TYSTIOLAETH CLASUROL Raine et al (1997) Gwerthuso methodoleg ac dulliau gwithredu y dechneg ymchwilio

A
  • sganiau PET yn caniatau i’r ymchwilwyr i astudio’r ymennydd mewn modd nad oedd yn bosibl tan diweddar (arfer dibynnu ar post-mortom)
  • gallai Raine et al gweld sut oedd ymennydd y 2 grwp yn prosesu gwybodaeth
65
Q

TYSTIOLAETH CLASUROL Raine et al (1997) Gwerthuso methodoleg ac dulliau gwithredu y sampl

A
  • nid oedd y llofruddion yn gynrychiadol o bob unigolyn treisgar
  • llofruddiaeth yw’r trosedd wnaeth yr NGRIs wneud, ond mae llawer mwy o droseddau treisgar (nid dim ond llofruddiaeth) ac felly mae’r casgliadau wedi cyfyngu i grwp penodol o bobl
  • ond mae Raine et al yn dadlau nad ydyn nhw’n TRIO fod yn cynrychiadol o bob trosedd erioed, dim ond troseddwyr â broblemau iechyd meddwl
66
Q

TYSTIOLAETH CLASUROL Raine et al (1997) Gwerthuso tystyiolaeth amgen

A
  • Yang a Raine (2009) wedi darganfod fod lefelau is o weithgaredd cyn dalcennol mewn pobl gwrth cymdeithasol neu dreisgar
  • mae astudiaethau eraill wedi darganfod fod yna math o ‘genyn troseddol’ sy’n achosi lefelau annaturiol o’r niwrotrosglwyddydd dopamin
  • roedd tiihonen et al (2015) wedi dadansoddi genynnau 895 o garcharion a ffeindio cysylltiad rhwng y genyn â tebygolrwydd uwch o gyflawni trosedd
  • OND dadansoddodd James Fallon (niwrowyddonydd oedd yn ymchwilio’r pwnc yma) ei enynnau ei hun a darganfod fod ganndo e’r ‘genyn troseddol’ yma, ond nad oedd e’n troseddwr.
67
Q

TYSTIOLAETH CLASUROL Raine et al (1997) materion moesegol a goblygiadau cymdeithasol

A

cydsyniad dilys
- roedd yr NGRIs yn dweud fod nhw’n wallgof (insane) ac felly efallai nad oeddwn nhw’n deall pethau fel y sganiau PET, y tasgau cwblhau, a’r gallu i dynnu yn ôl

ymchwil cymdeithasol sensitif
- os yw’r ymchwiliad yn dangos fod annormaledd penodol sy’n debyg mewn trosedd, gall y person sydd â’r anormaledd cael ei trin ac ei cyhuddo’n anheg

68
Q

Gwerthuso’r Ymagwedd Biolegol Cryfder - Penderfyniaethol

A
  • Trivers yn credu fod nodweddion ffisegol yn newid ymddygiad e.e. Niwed i’r ocsipwt yn wneud i gweledigaeth yn waeth
  • nad yw’r unigolyn â ewyllys rhydd yn ystod therapi

Cryfder oherwydd:
- cymryd bai oddi ar yr unigolyn a’i salwch meddwl oherwydd nad ydy nhw’n gyfrifol am fioleg ei corff ac mae hyn yn wneud i nhw teimlo’n well

Ond ar y llaw arall:
- mae Beck (1994) yn dadlau fod cymryd y bai oddi ar y unigolyn yn cymryd i ffwrdd eu gallu i gyd-weithio yn ystod therapi, oherwydd mae nhw’n credu nad oes unrhywbeth y gallwn nhw eu wneud

69
Q

Gwerthuso’r Ymagwedd Biolegol Wendid - lleihadol

A
  • mayberg et al (2005) wedi lleihau iselder i ffactorau biolegol achos fod 67% o gleifion wedi gwella ar ôl therapi
  • aaron et al (2008) = wedi lleihau ffurfio perthnasoedd i niwrotrosglwyddydd

Wendid oherwydd:
- nad yw’r ymagwedd yn ystyried yr unigolyn cyfan e.e. Efallai nad yw iselder oherwydd diffyg seratonin, ond amgylchedd
- trwy anwybyddu popeth heb law am ffactorau corfforol, ni fydd triniaeth byth yn effeithiol

Ond ar y llaw arall:
- gall yr ymagwedd biolegol nodi tarddiad ymddygiad = Triniaethau’n mwy effeithiol a damcaniaethau’n mwy wyddonol e.e. Mae’n haws cynllunio ymchwil pan rydych yn gwybod beth i ganolbwyntio arno

70
Q

Gwerthuso’r Ymagwedd Biolegol Cryfder - cymhwyso yn llwyddiannus

A
  • llwyddo i reoli salwch iechyd meddwl nad oes ffordd hysbys o wella sy’n caniatau i unigolion fyw bywyd ‘normal’ ac hefyd cael mynediad at therapiau (e.e. Therapi siarad) na fydd yn bosibl heb cyffuriau
  • therapi cyffuriau yn lleihau ymddygiad ymosodol yn troseddwyr gan arwain at gymdeithas mwy diogel e.e. Cherek et al (2002) wedi lleihau ymddygiad troseddol yn dynion ar ôl cwrs 21 wythnos o SSRI

Cryfder oherwydd:
- seicoleg fioleg wedi’i cymhwyso’n llwyddiannus i sawl agwedd ar gymdeithas e.e. Trosedd ac iechyd
- mae’r ymagwedd wedi fod yn o fudd i gymdeithas trwy wella iechyd meddwl unigolion

71
Q

Gwerthuso’r Ymagwedd Biolegol wendid - nomothetig

A
  • nod yr ymagwedd yw i ddatblygu damcaniaethau yn wyddonol e.e. Raine et al (1997) yn trio datblygu’r damcaniaeth ynglun â a oes wahaniaeth rhwng weithgaredd ymennydd rheolyddion ‘normal’ ac NGRIs
  • seicolawdriniaeth = profi nad yw’r ymagwedd yn idiograffeg gan nad yw’r therapi yn unigryw i unigolion ac mae’r llawfeddyg yn rheoli’r triniaeth i gyd

Wendid oherwydd:
- mynd yn erbyn idiograffeg h.y. Seicolegwyr yn darganfod beth sy’n wneud i unigolion yn unigryw
- nad oes gan yr ymagwedd esboniad mwy cywir am ymddygiad unigolion
- elwa o fod yn mwy wyddonol ac felly’n defnyddiol i grwp fawr o bobl, yn lle unigolion

72
Q

Gwerthuso’r Ymagwedd Biolegol wendid - cefnogi natur (natur yn erbyn magwraeth)

A
  • mae tybiaethau’r ymagwedd yn nodi fod gan bob ymddygiad achos corfforol e.e. Mae pedwar llabed yr ymennyd yn gyfrifol am ymddygiad gwahanol
  • mae therapiau’r ymagwedd yn profi fod e’n cefnogi’r ochr natur oherwydd fod nhw’n cynnig triniaeth ffisegol i drio wella broblemau meddyliol

Wendid oherwydd:
- mae’n peidio cefnogi ffactorau arall a gall cael rôl yn ein ymddygiad
- mae’n ystyried ffactorau genetig sy’n chwarae rôl yn ymddygiad ond nad yw’n cefnogi y rhan y gall ffactorau cymdeithasol fel teulu yn gallu chwarae = dim ond yn cefnogi’r ochr natur

73
Q

Gwerthuso’r Ymagwedd Biolegol Cryfder - gwyddonol

A
  • defnyddio dulliau gwyddonol i ymchwilio ymddygiad e.e. Raine et al (1997) wedi defnyddio sganiau PET, chwistrellau ymbelydrol, a tasg perfformiad parhaus
  • dengys hyn pa mor wyddonol yw’r ymagwedd
  • mae’n defnyddio dulliau fel hyn yn sicrhau dibynadwyedd canlyniadau

Cryfder oherwydd:
- dulliau gwyddonol yn cael ei ystyried yn fwy credadwy gan fod ansawdd eu tysytiolaeth yn uwch , mae hyn hefyd yn olygu fod yr ymchwilwyr yn derbyn mwy o arian
- defnyddio’r dull wyddonol yn ychwanegu cefnogaeth at gysyniadau allweddol (key concepts) yr ymagwedd