YMAGWEDD GWYBYDDOL Flashcards
Tybiaeth 1 enghreifftiau o brosesau gwybyddol
- cof
- sylw
- gwneud penderfyniadau
- iaith
Tybiaeth 1 beth mae tybiaeth 1 yn tybio?
Mae pobl yn defnyddio prosesau gwybyddol i wneud synnwyr o’r byd o’n gwmpas
Tybiaeth 1 os mae ffrind yn gofyn cwestiwn am rhywbeth a ddigwyddodd wythnos diwethaf, pa prosesau meddyliol mewnol a defnyddir?
- sylw
- prosesu’r iaith
- cof
Tybiaeth 1 mewnsyllu - Wihelm Wundt (1879)
- ymchwilio mewn i brosesau meddwl trwy rhoi ysgogiad i gleient e.e. Mentronom yn ticio ac yn gofyn iddynt disgrifio eu teimladau
Tybiaeth 1 enghreifftiau o mewnsyllu - Griffiths (1994) (enghraifft y tybiaeth)
- Griffiths (1994) yn edrych ar brosesau meddyliol mewnol mewn gamblwyr
- 2 grwp : gamblwyr rheolaidd ac gamblwyr afreolaidd
- Gofynnodd Griffiths i’r gamblwyr meddwl yn uchel wrth gamblio
- rhaid i’r brawddegau llifo, rhaid peidio petruso (hesitate) i rhegi, dim sensor, a peidio cyfiawnhau beth ti’n dweud
Tybiaeth 2 beth mae tybiaeth 2 (cyfatebiaeth â cyfrufiadur) yn nodi?
- nodur fod ymennydd bodau dynol yn gweithio mewn ffordd tebyg i gyfrufiadur e.e.
- Mewnbynnu (gwybodaeth yn cyrraedd ni)
- Prosesu (gwybodaeth yn cael ei newid / storio h.y. Prosesau mewnol fel cof, iaith, ayyb)
- Allbynnu (adalw neu defnyddio’r gwybodaeth)
Tybiaeth 2 enghraifft o’r tybiaeth cyfatebiaeth â cyfrifiadur
- y model amlstorfa Atkinson a shiffrin (1968)
- yn y model hyn, cynigwyd fod gwybodaeth yn cael ei mewnbynnu i’r ymennydd trwy’r synhwyrau (y llygaid, y clustiau, ac ati)
- mae’r gwybodaeth wedyn yn symud i’r storfa cof tymor-byr (STM) ac yna i’r storfa cof tymor-hir (LTM)
Ysgogiadau o’r amgylchedd —> Y COF SYNHWYRAIDD
Y COF SYNHWYRAIDD—> sylw —> Y COF TYMOR BYR
Y COF TYMOR BYR —> Ymarfer cynnal —> Y COF TYMOR HIR
Y COF TYMOR BYR <— adalw <— Y COF TYMOR HIR
Y COF TYMOR BYR—> ymarfer cynnal —> Y COF TYMOR BYR
Y COF TYMOR BYR —> adalw —>
Tybiaeth 3 beth mae tybiaeth 3 (sgemau) yn nodi?
- sgemau yw pecynnau trefnus o wybodaeth sy’n cael eu datblygu trwy profiad a’u storio yn ein cof tymor hir e.e. Sgema am ci = ffwrnig, cerdded arno 4 coes, hoffi pêl, ayyb.
- gall sgemau fod yn gysylltiedig i brofiad (sgriptiau) e.e. Mynd i rygbi, neu’n gysylltiedig i rôl (sgemau rôl) e.e. Llawfeddyg = dyn / nyrs = fenyw
FFURFIO PERTHNASOEDD gan cysylltu at prosesau meddwl mewnol Thibaut & Kelly (1959)
(Theori cyfnewid cymdeithasol)
- ystyried partner rhamantaidd
- nodweddion positif = budd
- nodweddion negyddol = cost
- mae’n cysylltu at y tybiaeth prosesau meddwl mewnol oherwydd mae dewis partner yn olygu gwneud penderfyniadau
THERAPI therapi ymddygiadol gwybyddol Aaron Beck
- datblygon nhw damcaniaeth bod pobl sy’n dioddef o iselder wedi datblygu sgemau negyddol o dri peth = y driad gwybyddol
1. Nhw eu hunain
2. Y byd o’u hamgylch
3. Eu dyfodol - mewn CBT caiff cleientiau eu helpu i newid y sgemau negyddol yma
- mae tuedd negyddol yn y meddwl yn arwain at gamgymeriadau meddwl sy’n cynnwys:
1. Casgliadau mympwyol h.y. Casgliad a wneir ar sail dim tystiolaeth
2. Haniaethau detholus h.y. Casgliad a wneir ar sail un elfen bach o’r cyfan
3. Gor-gyffredinoli h.y. Cyffredinoli ar sail un digwyddiad dibwys e.e. Meddwl eich bod yn person - Mae nifer o ddull wahanol i’r therapi, ond mae pob un yn pwysleisio fod RHAID i’r cleient CYDWEITHIO
THERAPI defnyddio CBT i drin iselder
- Annog y cleient i fod yn fwy actif
- Cleient a therapydd yn cydweithio i adnabod patrymau meddwl awtomatig negyddol. Yna mae’ cleient yn wneud gwaith cartref er mwyn adnabod y meddyliau negyddol ac ysgrifennu nhw i lawr
- Ymgyfarwyddo y cleient gyda y cysyniad o gamgymeriadau mewn meddwl
- Gweithio gyda’r cleient i gael nhw’n weithredol ac actif er mwyn gwaredu’r meddyliau negyddol
THERAPI Ydy CBT yn gweithio?
- profwyd bod CBT yn driniaeth defnyddiol iawn yn erbyn iselder a gorbryder
- Meichenbaum (1985) wedi profi bod CBT yn defnyddiol wrth trin straen
- Dobson (1989) mewn arolwg o 28 astudiaeth o therapiau ar gyfer iselder, dengys fod CBT yn arddangos yn ffafriol wrth ei gymharu a mathau eraill o driniaeth
GWERTHUSO THERAPI CBT tystiolaeth ymchwil - Jarrett et al (1999)
- CBT mor effeithiol a rhai cyffuriau gwrth-iselder wrth drin 108 o gleifion ag iselder difrifol mewn treial dros 10 wythnos
- er hyn, ni welodd Hollon et al (1992) unrhyw wahaniaeth mewn CBT o’i gymharu â math ychydig yn wahanol o gyffur wrth-iselder mewn sampl o 107 o gleifion mewn treial dros 10 wythnos
- Felly, dydy CBT ddim yn rhagori i bob cyffur gwrth-iselder
GWERTHUSO THERAPI CBT cymhwysedd y therapydd (pa mor ‘qualified’ yw’r therapydd)
- mae’n amlwg fod llwyddianf CBT efallai oherwydd cymhwysedd y therapydd e.e.
1. Y gallu i strwythuro sesiynau
2. Cynllunio ac adolygu aseiniadau
3. Cymhwyso sgiliau ymlacio a’r gallu i gysylltu a meithrin perthynas therapiwtig da - Honnodd Kuyken a tsivrikos (2009) fod cymhwysedd y therapydd yn gyfrifol am 15% o effeithiolrwydd CBT
GWERTHUSO THERAPI CBT - gwahaniaethau rhwng unigolion
- gall therapydd fod yn fwy addas i rhai i gymharu ag eraill, ac mae angen ystyried y gwahaniaethau yma wrth astudio’r effeithiolrwydd
- efallai mae CBT yn addas i bobl sydd â lefelau uwch o feddyliau afresymegol ac yn gwrthod newid
- llai addas mewn sefyllfaoedd lle mae’r lefelau uchel o straen ar yr unigolyn yn adlewyrchu elfennau realistig (lle ni all therapi eu datrys) ym mywyd yr unigolyn (Simons et al (1995))