YMAGWEDD POSITIF Flashcards
Tybiaeth 1 cydnabod ewyllys rhydd beth mae’r tybiaeth yn dweud?
- awgrymu fod gan bobl yr ewyllys rhydd i ddatblygu eu cryfderau unigrwy a bod ganddynt reolaeth dros eu llesiant eu hunain
- mae hyn yn olygu fod hapusrwydd yn hygyrch (accessible) i bob un ohonom, gan ein bod yn rheoli ein bywydau ein hunain
- mae tystiolaeth fod cred mewn ewyllys rhydd a rheolaeth bersonol yn gysylltiedig a llesiant goddrychol mwy e.e. Ymchwil myers a diener (1995)
Tybiaeth 1 cydnabod ewyllys rhydd enghraifft seicolegol
- therapi ymwybyddiaeth ofalgar (mindfulness), lle anogir unigolion i ddod yn fwy ymwybydol o’u teimladau a’u hemosiynau eu hunain
- dangos fod rol ewyllys rhydd bellach wedi derbyn cydnabyddiaeth
- unigolion yn gallu ymarfer eu hewyllys rydd i fod yn fwy ymwybodol o’r presennol a defnyddio hyn i gynyddu eu lefelau hapusrwydd
Tybiaeth 2 dilysrwydd daioni a rhagoriaeth beth mae’r tybiaeth yn dweud?
- ymagwedd bositif yn awgrymu fod seicoleg wedi canolbwyntio gormod ar agweddau negyddol ar bersonoliaeth fel straen ac iselder
- drwy ganolbwyntio ar nodweddion positif ac ar hunan-welliant, gallwn weld ymddygiad dynol mewn ffordd llawer mwy cadarnhaol
- Christopher Peterson (2006) = “y dybiaeth fwyaf sylfaenol y mae seicoleg bositif yn ei annog yw bod daioni a rhagoriaeth dynol yr un mor ddilys a chlefyd, anhwylder a gofid”
Tybiaeth 2 dilysrwydd daioni a rhagoriaeth enghraifft seicolegol
- Martin Seligman (2002)
- damcaniaeth yn awgrymu bod 24 o gryfderau cymeriad, gan gynnwys chilfrydedd, tegwch a gonestrwydd
- mae gan bob unigolyn yr holl gryferau hyn mewn gwahanol raddau ac yn olygu fod hapusrwydd yr ymagwedd, dylid eu hannog i’w meithrin a’u datblygu er mwyn gwella eu llesiant
Tybiaeth 3 canolbwyntio ar fywyd dda - y bywyd dymunol yn ol seligman
- weithgareddau sy’n wneud iddo ni deimlo’n dda (dylem sawru (saviour) rhain oherwydd mae nhw’n werthfawr)
Tybiaeth 3 canolbwyntio ar fywyd dda - y bywyd da yn ol seligman
- weithgareddau sy’n tynnu sylw at ein cryfderau e.e. Os yw un o’ch gryfderau yn caredigrwydd = y weithgaredd fydd helpu pobl mewn rhyw ffordd
Tybiaeth 3 canolbwyntio ar fywyd dda - y bywyd ystyrlon yn ol seligman
- cyflwr o foddhad cawn ar ol defnyddio ein cryfderau am rywbeth mwy mawr e.e. Helpu’r amgylchedd
Tybiaeth 3 canolbwyntio ar fywyd dda - enghraifft seicolegol (Csikszentmihalyi 1996)
- gellir gweld un enghraifft o’r ‘bywyd da’ yn y cysyniad ymagwedd bositif allweddol o ‘lif’, a datblygwyd gan Mihaly Csikszentmihalyi)
- mae hyn yn golygu cyrraedd y cyflwr o gymryd rhan llawn mewn gweithgaredd
- dyma’r eiliad pan ‘mae amser yn hedfan’ ac ‘mae pob gweithred, symudiad a meddwl yn dilyn yn anochel o’r un blaenorol’
- maent gwahanol weithgareddau’n arwain at gyflwr llif ar gyfer gwahanol bobl
- mae angen i’r gweithgaredd fod yn ddigon heriol i wneud i ni feddwl ond nid mor anodd fel ei fod yn achosi strawn
- mae cymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n ein helpu i gyflawni cyflwr llif yn un enghraifft o’r ‘bywyd dda’
Ffurfio perthnasoedd - tybiaeth canolbwyntio ar fywyd dda
- creaduriaid cymdeithasol yw pobl, wedi’u rhaglenni i ddod o hyd i berthnasoedd
- nododd Christopher Peterson (2008) y gellir crynhoi seicoleg positif yn yr ymadrodd ‘mae pobl eraill o bwys’ h.y. Meithrin perthnasoedd ag eraill yn helpu i’n wneud yn hapus
- gall ffurfio perthynas bositif ag eraill wella ein llesiant goddrychol a’n helpu i gyflawni’r ‘bywyd da’
- un elfen o’r ‘bywyd da’ yw cymryd rhan mewn gweithgareddau sydd yn mynd a’n bryd ac yr ydym yn gallu ymgolli ynddynt, gan ein helpu i gyrraedd cyflwr llif - gallai hyn cynnwys gweithgareddau gydai’n ffrindiau megis chwaraeon
Therapi meddylgarwch - cysylltiad at tybiaeth cydnabod ewyllys rhydd
- elfen ganolog wrth ymarfer meddylgarwch yw fod yn ymwybodol o’ch teimladau personol, ac mae hynny’n golygu rheoli’ch sylw
- mae meddylgarwch, felly, yn cryfhau hunanrheoleiddio ac yn annog pobl i fagu rheolaeth dros eu meddyliau
- mae’r therapi hyn, sy’n seiliedig ar ewyllys rhydd, yn unol i’r ymagwedd bositif am fod cymryd rheolaeth dros ein teimladau ni’n ganolog i gynyddu’r boddhad a gawn ni o’n bywyd
Therapi meddylgarwch - magu rheolaeth dros feddyliau
- fel rheol, fydd ein meddyliau’n ganolbwyntio’n gormod ar y gorffennol, neu’n rhy brysur yn poeni am y dyfodol
- mae meddylgarwch yn ein haddysgu ni i fod yn ymwybodol o’r presennol, a phob teimlad ac emosiwn sy’n dod gyda hi
- nod canolbwyntio ar y presennol yw trio ffeindio rheswm fwy am ein teimladau negyddol, gan sicrhau fod ni wedyn yn gallu rheoli nhw yn lle poeni amdano nhw
Therapi meddylgarwch - myfyrio ac anadlu’n feddylgar
- bydd myfyrio o dan gyfarwydd yn golygu cael cleientiaid i eistedd yn gyfforddus, cadw eu meingefn yn syth a gofyn iddo nhw gyfeirio’i sylw tuag at eu anadlu
- yna, annog y cleientiaid i roi sylw i synwyriadau eu corff ac i’w meddyliau a’u hemosiynau
- mae hynny ynddo’i hun yn atal meddyliau negyddool a di-fudd rhag ymyrryd
Therapi meddylgarwch - arferion anffurfiol meddylgarwch
- ar ol dysgu meddylgarwch, gallwn ni wedyn eu ymarfer dros ein bywyd i gyd e.e. Trwy gyrru, glanhau, cael cawod ayyb
- mae ymarfer meddylgarwch yn annibynnol yn golygu hoelio’ch sylw i gyd at un dasg yn unig
- gall arferion anffurfiol o’r fath gael eu plethu i’n bywydau beunyddiol i roi egwyl i ni rhag ein prosesau meddwl arferol
Gerthuso Therapi meddylgarwch - effeithiolrwydd - Kuyken et al (2013)
- cymharodd Kuyken et al (2013) blant mewn ysgolion uwchradd a gymerodd rhan yn y rhaglen ymwybyddiaeth ofalgar mewn ysgolion a’r rhai a gymerodd rhan yn y cwricwlwm ysgol arferol
- dangosodd y plant a oedd yn rhan o’r rhaglen ymwybyddiaeth ofalgar lai o straen, mwy o lesiant a llai o symptomau o iselder o’u cymharu a’r grwp rheoli
Gerthuso Therapi meddylgarwch - effeithiolrwydd - Williams et al (2014)
- cymharodd Williams et al (2014) therapi MBCT (therapi gwybyddol sy’n seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar) a thriniaethau eraill mewn pobl a oedd wedi dioddef o iselder yn flaenorol
- cawsant eu dyrannu ar hap i grwp amod, gan edrych arnynt eto ymhen blwyddyn
- darparodd MBCT amddiffyniad rhag ail bwl o iselder mewn pobl a hanes o drawma plentyndod, ond nid oedd yn dangos unrhyw fanteision sylweddol mewn cyfranogwyr eraill